Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod rhithiol

Cyswllt: Ann Holmes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Robin Williams ddiddordeb personol sy’n rhagfarnu mewn perthynas â chais 11.1 ar y rhaglen.

 

Datganodd y Cynghorwyr John Griffith a Richard Owain Jones ddiddordeb personol sy’n rhagfarnu mewn perthynas â chais 12.1 ar y rhaglen.

 

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 418 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 6 Hydref, 2021.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod rhithwir blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 6 Hydref 2021 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

 

4.

Ymweliadau Safle pdf eicon PDF 166 KB

Cyflwyno cofnodion yr ymweliadau safle rhithiol a gynhaliwyd yn rhithwir ar 20 Hydref, 2021.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod safle rhithwir a gynhaliwyd ar 20 Hydref 2021 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

 

5.

Siarad Cyhoeddus

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd un Siaradwr Cyhoeddus mewn perthynas â chais 7.2 ar y rhaglen.

 

6.

Ceisiadau Fydd yn Cael eu Gohirio

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

7.

Ceisiadau'n Codi pdf eicon PDF 625 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

7.1 FPL/2021/145 - Cais llawn ar gyfer gosod 2 gwt bugail yn Rhosydd, Brynteg

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd iddo gael ei alw i mewn ar gais Aelod Lleol.

 

Yn ei gyfarfod ar 1 Medi 2021, penderfynodd y Pwyllgor gynnal ymweliad safle. Yn dilyn hynny, cynhaliwyd ymweliad safle ar 15 Medi 2021. Yn y cyfarfod ar 6 Hydref 2021, penderfynodd y Pwyllgor gymeradwyo’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog oherwydd bod y cynllun yn ffinio â safle carafanau statig ac na fydd yn cael effaith weledol niweidiol oherwydd ei leoliad rhwng safle carafanau a sied amaethyddol.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Margaret Roberts, a oedd yn siarad fel Aelod Lleol, at ei sylwadau yn y cyfarfod blaenorol ynghylch agosatrwydd y cynnig at safle carafanau mawr, ond yn wahanol i’r safle carafanau, ni fyddai’r cytiau bugail i’w gweld o unrhyw olygfannau. Nid oedd yn credu y byddai rhoi caniatâd yn yr achos hwn yn gosod cynsail a fyddai’n arwain at gynnydd mawr mewn ceisiadau o’r fath, neu ganiatáu i bawb roi cwt bugail yn eu gerddi cefn, fel yr awgrymwyd yn y cyfarfod diwethaf. O ystyried nifer y carafanau yn yr ardal, nid yw ychwanegu dau gwt bugail yn debygol o wneud gwahaniaeth, yn enwedig gan eu bod yn llawer llai na’r carafanau drws nesaf. Gofynnodd i’r Pwyllgor lynu at y penderfyniad a wnaethpwyd y mis diwethaf i gymeradwyo’r cais.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Gorfodaeth Cynllunio bod y Swyddog yn dal i argymhell gwrthod y cais oherwydd yr ystyrir nad yw’r cynnig yn cyd-fynd â’r diffiniad o ddatblygiad o ansawdd uchel gan ei fod yn ddatblygiad ar ei ben ei hun o fewn cwrtil preswyl, ac felly nid yw’n cydymffurfio â darpariaethau’r cynllun datblygu a fabwysiadwyd nac ystyriaethau perthnasol eraill a nodir yn yr adroddiad. Bydd lleoliad cymharol wledig y safle’n golygu mai cludiant preifat fydd y prif ddull teithio ar ôl i westeion gyrraedd y safle.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Ieuan Williams bod y Pwyllgor yn ail-gadarnhau’r penderfyniad i gymeradwyo’r cais am y rheswm a nodwyd yn y cyfarfod diwethaf, sef y bernir bod y cais yn cydymffurfio â Pholisi TWR3. Yn ogystal, mae polisi Strategol PS14, sydd yn nodi sut fydd y Cyngor yn cefnogi datblygu diwydiant twristiaeth leol fydd yn fwrlwm trwy gydol y flwyddyn, yn datgan ym mharagraff 3 y bydd hynny’n cynnwys trwy “reoli a gwella’r ddarpariaeth o lety twristiaeth o ansawdd uchel heb wasanaeth ar ffurf bythynnod a fflatiau hunan arlwyo, meysydd gwersylla, gwersylla moethus amgen [a fyddai’n cynnwys cytiau bugail], carafanau sefydlog neu deithiol neu barciau sialé”. Roedd yn credu felly bod y cynnig yn cydymffurfio â pholisi ac, gan ei fod wedi ei leoli mewn ardal lle mae yna nifer o barciau carafanau, nid yw’r datblygiad yn anaddas nac yn anghyson. Eiliwyd y cynnig i ail-gadarnhau’r penderfyniad i gymeradwyo’r cais gan y Cynghorydd Vaughan Hughes.

 

Penderfynwyd ailgadarnhau penderfyniad blaenorol y Pwyllgor i ganiatáu’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog am y rhesymau a roddwyd ac i awdurdodi Swyddogion i osod  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Ceisiadau Economaidd

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

9.

Ceisiadau am Dy Fforddiadwy

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

10.

Ceisiadau'n Gwyro pdf eicon PDF 263 KB

10.1 – VAR/2021/70 – Plot ger Bron Wylfa, Cemaes

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000O3eFYUAZ/var202170?language=cy

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

10.1 VAR/2021/70 – Cais o dan Adran 73A i ddiwygio amod (08) (Cynlluniau a ganiatawyd) o ganiatâd cynllunio rhif 20C85F/DA (Codi annedd) er mwyn caniatáu diwygio’r dyluniad yn Plot ger Bron Wylfa, Cemaes

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynlluio a Gorchmynion gan fod y cynnig yn groes i bolisiau’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ond mae’r Awdurdod Cynllunio Lleol â’i fryd ar ei gymeradwyo.

Dywedodd y Rheolwr Gorfodaeth Cynllunio, er bod y cais yn groes i Bolisi PS17 y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd a darpariaethau Nodyn Cyngor Technegol 6 (Cynllunio ar gyfer Cymunedau Gwledig Cynaliadwy), mae sefyllfa wrth gefn yn bodoli gan fod caniatâd wedi’i roi’n barod sydd wedi cael ei roi ar waith. Ystyrir bod y dyluniad diwygiedig arfaethedig a amlinellir yn yr adroddiad yn dderbyniol a’i fod yn welliant cyffredinol o gymharu â’r cynllun a gymeradwywyd yn barod. Nid ystyrir y byddai’r datblygiad yn cael effaith annerbyniol ar gymeriad ac edrychiad yr ardal nac ar fwynderau eiddo cyfagos. Felly, yr argymhelliad yw caniatáu.

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams fod y cais yn cael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y Swyddog, ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd John Griffith.

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog a gyda’r amodau cynllunio yn yr adroddiad.

 

11.

Cynigion Datblygu a gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion pdf eicon PDF 1 MB

11.1 – HHP/2021/315 – 37 Penlon, Porthaethwy

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000O3mZiUAJ/hhp2021315?language=cy

 

11.2 – FPL/2021/227 – Plas Newydd, Llanddeusant

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000O2uqhUAB/fpl2021227?language=cy

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

11.1 HHP/2021/315 – Cais llawn ar gyfer addasiadau ac estyniadau ynghyd â dymchwel y garej bresennol yn 37 Penlon, Porthaethwy

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeisydd yn “berson perthnasol” yn unol â’r diffiniad ym mharagraff 4.6.10.2 Cyfansoddiad y Cyngor. Mae’r Swyddog Monitro wedi craffu ar y cais yn unol â’r gofyniad o dan baragraff 4.6.10.4 y Cyfansoddiad.

Ar ôl datgan diddordeb personol sy’n rhagfarnu yn y cais, gadawodd y Cynghorydd Robin Williams y cyfarfod ac nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais ar y cais.

Dywedodd y Rheolwr Gorfodaeth Cynllunio bod y datblygiad arfaethedig, ym marn y Swyddog, yn cydymffurfio â nodau ac amcanion polisïau’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd (CDLlC); mae graddfa’r estyniad arfaethedig yn gymedrol ac mae digon o dir ar gyfer y cynllun arfaethedig heb or-ddatblygu’r safle. Mae’r dyluniad a’r deunyddiau arfaethedig yn dderbyniol hefyd ac maent o ansawdd uchel. Nid ystyrir y byddai’r estyniad arfaethedig yn cael effaith annerbyniol ar eiddo cyfagos. Ni dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiad i’r cynnig ac mae’r Cyngor Tref yn ei gefnogi; felly'r argymhelliad yw cymeradwyo’r cais.

Cynigiodd y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes, MBE, bod y cais yn cael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Eric Jones.

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog a gyda’r amodau yn yr adroddiad.

11.2 FPL/2021/227 – Cais llawn am storfa dail dan do a tho dros yr iard bresennol ym Mhlas Newydd, Llanddeusant

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeisydd yn perthyn i “swyddog perthnasol” yn unol â’r diffiniad ym mharagraff 4.6.10.2 Cyfansoddiad y Cyngor. Mae’r Swyddog Monitro wedi craffu ar y cais yn unol â’r gofynion o dan baragraff 4.6.10.4 y Cyfansoddiad.

Adroddodd y Rheolwr Cynllunio - Amgylchedd Adeiledig a Naturiol y bydd y cynnig a ddisgrifir yn gwella’r system rheoli tail bresennol ar y fferm ac yn caniatáu i’r ymgeisydd gydymffurfio â gofynion Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) 2021. Lleolir y cynnig ar gyrion dwyreiniol y pentref ac mae pellter o 150m rhwng yr eiddo agosaf a man agosaf yr estyniad i adeilad sy’n bodoli’n barod. Nid ystyrir y bydd y datblygiad yn cael effaith niweidiol ar gymeriad ac edrychiad yr ardal nac ar fwynderau meddianwyr preswyl gerllaw; nid ystyrir ‘chwaith y bydd y cynnig yn cael effaith weledol annerbyniol ar y dirwedd leol gan fod y cynnig yn cynnwys creu bwnd a gwaith tirlunio tu ôl i’r sied. Nid oes unrhyw wrthwynebiad lleol i’r datblygiad arfaethedig; nid yw Cyfoeth Naturiol Cymru wedi codi unrhyw wrthwynebiad ar yr amod nad yw’r cynnig yn golygu y bydd lefelau stoc yn cynyddu. Eglurodd y Swyddog, er mai’r bwriad gwreiddiol oedd cynyddu lefelau stoc dros gyfnod o amser, mae’r ymgeisydd wedi cadarnhau erbyn hyn nad oedd bwriad pendant i wneud hynny. O’r herwydd, mae’r cynnig yn dderbyniol o ran dyluniad a chydymffurfiaeth â’r meini prawf a gynhwysir yn y polisïau perthnasol. Argymhellir cymeradwyo’r  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 11.

12.

Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 1 MB

12.1 – MAO/2021/26 – Fferm Solar Porth Wen, Cemaes

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000O3fgIUAR/mao202126?language=cy

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

12.1 MAO/2021/26 – Mân ddiwygiadau i’r cynllun a gymeradwywyd yn flaenorol o dan ganiatâd cynllunio 20C310/EIA/RE (cais llawn ar gyfer adeiladu fferm arae solar 49.99MW ynghyd ag offer, seilwaith a gwaith ategol cysylltiedig) yn Rhyd y Groes, Rhosgoch, er mwyn diwygio geiriad amodau (05), (06) ac (11) i ganiatáu i’r datblygiad ddigwydd mewn dau gam (cam 1 – gwaith galluogi a cham 2 – gosod paneli) yn fferm Solar Porth Wen, Cemaes

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn ceisio diwygio amodau a osodwyd ar ganiatâd rhif 20C310B/EIA/RE a oedd yn cynnwys Asesiad o Effaith Amgylchedd. Cymeradwywyd y cais gan y Pwyllgor yn ei gyfarfod ar 6 Rhagfyr 2017, yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac yn ddarostyngedig i’r amodau yn yr adroddiad, a rhoddwyd awdurdod dirprywedig i’r Pennaeth Gwasanaethau Cynllunio ychwanegu, diwygio a dileu amodau yn ôl yr angen.

 

Ar ôl datgan diddordeb personol sy’n rhagfarnu yn y cais, gadawodd y Cynghorwyr John Griffith a Richard Owain Jones y cyfarfod ac nid oeddent yn bresennol yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais ar y cais.

 

Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu bod y cais ar gyfer mân addasiadau i’r cynllun a gymeradwywyd o dan gais 20C310B/EIA/RE er mwyn gallu dechrau’r gwaith fesul cam, gyda gwaith yn cynnwys gwaith galluogi’n cael eu gwneud o dan gam 1 a gosod paneli solar a gwaith ac offer yn gysylltiedig âhynny’n cael ei wneud yn yr ail gam. Er mwyn caniatáu i’r datblygiad ddigwydd fesul cam, bydd rhaid diwygio amodau (05), (06) ac (11) y caniatâd cynllunio. Mae’r cais yn gofyn am y canlynol –

 

·         ychwanegu Cynllun Cwblhau Gwaith Fesul Cam i’r cynlluniau a gymeradwywyd o dan amod (05);

·         diwygio amod (06) i ganiatáu i’r manylion gael eu cymeradwyo mewn dau gam – manylion sydd eu hangen cyn rhoi cam 1 y datblygiad ar waith ac yna manylion sydd eu hangen cyn rhoi cam 2 y datblygiad ar waith;

·         bod amod (11) yn cael ei ddiwygio i ganiatáu cyflwyno Cynllun Rheoli Amgylcheddol Adeiladu (gyda Chynllun Rheoli Traffig Adeiladu llawn) ar gyfer Cam 1 i’w gymeradwyo ac yna Cynllun Rheoli Amgylcheddol Adeiladu (a Chynllun Rheoli Traffig Adeiladu) ar gyfer Cam 2.

 

Nid yw’r cais yn newid natur y datblygiad nac yn achosi effaith sy’n wahanol i’r hyn a fyddai’n cael ei greu gan y cynllun datblygu a gymeradwywyd yn wreiddiol. Er y byddai’r cynnig, pe byddai’n cael ei gymeradwyo, yn caniatáu i’r datblygwr gyflawni’r gwaith paratoi heb orfod cyflwyno manylion llawn am y datblygiad cyfan i’r Awdurdod Cynllunio Lleol eu cymeradwyo, bydd rhaid cyflawni’r amodau a osodwyd ar y caniatâd gwreiddiol o hyd. Er gwybodaeth, mae’r Awdurdod Cynllunio Lleol wedi derbyn gohebiaeth gan berchennog tir gerllaw ym Muarth y Foel ynghylch yr angen i ymgynghori ar y newidiadau; gan fod y cais yn ceisio caniatâd am yr hyn yr ystyrir yn newidiadau ansylweddol i gynllun a gymeradwywyd, nid yw’r gofyn i gynnal ymgynghoriad yn berthnasol.  Ymgynghorwyd yn uniongyrchol â pherchennog Buarth y Foel ynghylch  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12.

13.

Materion Eraill pdf eicon PDF 592 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

13.1 FPL/2020/101 – Cais llawn ar gyfer codi annedd ynghyd â chreu mynedfa i gerbydau ar dir yn Rallt Gwta, Niwbwrch, Llanfairpwllgwyngyll

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais wedi cael ei gymeradwyo yng nghyfarfod y Pwyllgor ym mis Ebrill 2021, gydag amodau, ac yn amodol hefyd ar gwblhau cytundeb cyfreithiol yn gofyn am symud a rhoi’r gorau i ddefnyddio carafán a chynwysyddion a oedd ar y safle.

Dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio bod rhaid symud y garafán a’r cynhwysyddion oddi ar y tir fel rhan o’r caniatâd, er mwyn sicrhau na fyddai’r datblygiad yn cael effaith andwyol ar fwynderau preswyl eiddo gerllaw’r safle neu ar fwynderau’r ardal ehangach a’r AHNE. Mae’r garafán a’r cynwysyddion wedi cael eu symud oddi ar y safle erbyn hyn felly nid oes angen cytundeb, ac o ganlyniad gellir rhyddhau’r penderfyniad yn ddarostyngedig i amodau.

Wrth gadarnhau adroddiad y Swyddog, gofynnodd y Cynghorydd Bryan Owen, Aelod Lleol, i’r Pwyllgor gymeradwyo’r cais.

Mewn ymateb i ymholiad ynghylch sut all yr Awdurdod fod yn sicr na fydd y garafán a’r cynwysyddion yn cael eu symud yn ôl ar y safle, dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio bod cynllun y datblygiad yn dangos y bydd yr annedd arfaethedig yn cael ei leoli ar safle’r garafán a bod y mynediad i’r safle’n croesi’r man lle’r arferai’r cynwysyddion sefyll. Felly, pan fydd y cynnig wedi cael ei weithredu a’r annedd wedi cael ei adeiladu, ni fydd yn bosib dod â’r garafán a’r cynwysyddion yn ôl ar y safle. Fodd bynnag, pe byddent yn ailymddangos ar y safle heb ganiatâd yn y cyfamser, yna byddai camau’n cael eu hystyried bryd hynny i ddelio â’r sefyllfa.

Cynigiodd y Cynghorydd Eric Jones bod y cais yn cael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes, MBE.

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad.