Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol wedi'i Ffrydio'n Fyw (ar hyn o bryd nid oes modd i'r cyhoedd fynychu'r cyfarfod)

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fel y nodir isod.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb.

 

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 304 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gafwyd ar 1 Rhagfyr, 2021.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod rhithwir blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 1 Rhagfyr, 2021 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

 

4.

Ymweliad Safleoedd pdf eicon PDF 180 KB

Cyflwyno cofnodion yr ymweliad safle rhithiol a gafwyd ar 15 Rhagfyr, 2021.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion yr ymweliadau safle rhithwir a gynhaliwyd ar 15 Rhagfyr, 2021 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

 

5.

Siarad Cyhoeddus

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw Siaradwyr Cyhoeddus yn y cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

6.

Ceisiadau fydd yn cael ei gohirio

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

7.

Ceisiadau'n Codi pdf eicon PDF 564 KB

7.1 - FPL/2021/136 – Wylfa, Ffordd Bangor, Benllech

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000OKf7JUAT/fpl2021136?language=cy

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

7.1  FPL/2021/136 Cais llawn ar gyfer newid defnydd yr adeilad allan yn llety gwyliau ynghyd â’i addasu a’i ehangu yn Wylfa, Ffordd Bangor, Benllech

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeisydd yn perthyn i “swyddog perthnasol” fel y’i diffinnir ym mharagraff 4.6.10 Cyfansoddiad y Cyngor. Mae Swyddog Monitro’r Cyngor wedi craffu ar y cais yn unol â’r gofynion o dan baragraff 4.6.10.4 y Cyfansoddiad. Yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 1 Rhagfyr 2021, penderfynodd y Pwyllgor ymweld â safle’r cais.  Cynhaliwyd ymweliad rhithwir â'r safle ar 15 Rhagfyr, 2021. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Margaret M Roberts, Aelod Lleol, fod y cais ar gyfer troi adeilad allan yng nghefn yr eiddo yn llety gwyliau un ystafell wely.  Dywedodd ei bod yn amlwg yn yr ymweliad safle rhithwir y bydd yr adeilad allan yn mynd yn adfail os nad oes gwaith yn cael ei wneud ar yr adeilad allan.  Mae lleoliad yr adeilad allanol o fewn cwrtil yr ymgeiswyr ac mae digon o le parcio i ddarparu ar gyfer datblygiad o'r fath.  Nid yw'r Awdurdod Priffyrdd lleol wedi cyflwyno unrhyw wrthwynebiad i'r datblygiad.  Dywedodd y Cynghorydd Roberts fod ceisiadau am unedau gwyliau mawr wedi cael eu cyflwyno yn yr ardal dros y blynyddoedd diwethaf. Gofynnodd i'r Pwyllgor gymeradwyo'r cais hwn gan mai llety gwyliau un uned oedd hon gan breswylydd lleol. 

 

Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod polisi cynllunio TWR 2 o fewn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd yn ymwneud â llety gwyliau.  Cyfeiriodd at Faen Prawf v - sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r cynnig beidio ag arwain at orddarpariaeth o lety o'r fath yn yr ardal.  At hynny, nod adran 4.6 o Ganllawiau Cynllunio Atodol Cyfleusterau a Llety i Dwristiaid yw diffinio'r mater o orddarpariaeth ac mae paragraff 4.6.1 yn datgan y gall nifer uchel o lety gwyliau neu ddarpariaeth o lety gwyliau mewn ardal benodol gael effaith andwyol ar wead cymdeithasol cymunedau.  Cyfeiriodd ymhellach at Baragraff 4.6.5 y cyfeiriwyd ato yn adroddiad y Swyddog.  Cyfeiriodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio hefyd at y data diweddaraf am y Dreth Gyngor sy'n dangos bod cyfran yr ail gartrefi a'r llety gwyliau hunanarlwyo yn ardal Cyngor Cymuned Llanfair Mathafarn Eithaf yn 18.47%, sy'n uwch na'r trothwy o 15%.  Cydnabyddir y gall rhai amgylchiadau eithriadol godi lle mae manteision amlwg i ganiatáu llety gwyliau mewn ardal sydd eisoes â nifer uchel o lety gwyliau ac ail gartrefi y tu hwnt i'r trothwy o 15%; mae'r achosion eithriadol hyn yn cynnwys: Menter sy'n gysylltiedig ag arallgyfeirio gwledig a chynnig a fyddai'n golygu cadw a gwneud defnydd amgen o adeilad rhestredig o werth hanesyddol.   Nid yw'r un o'r rhain yn berthnasol i'r cais hwn, o ganlyniad ystyrir felly y byddai'r cynnig yn arwain at or-ddarpariaeth o lety gwyliau yn yr ardal ac o ganlyniad nid yw'r cynnig yn cyd-fynd â darpariaethau polisi TWR 2 o'r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd.   Yr argymhelliad yw gwrthod y cais gan y byddai'n arwain at or-ddarpariaeth o lety gwyliau  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Ceisiadau Economaidd

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

9.

Cesiadau am Dy Fforddiadwy

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

10.

Ceisiadau'n Gwyro pdf eicon PDF 326 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

10.1  VAR/2021/39 – Cais o dan Adran 73A am amrywio amod (09) (Cynlluniau Cymeradwy) caniatâd cynllunio sydd â'r cyfeirnod 29C39D (adnewyddu addasu adeiladau allan yn i 4 uned wyliau) er mwyn caniatáu lle ychwanegol i deuluoedd i unedau ym Mhenmynydd, Llanfwrog, Caergybi

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cynnig yn groes i bolisïau'r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ond y mae'r Awdurdod Cynllunio Lleol yn bwriadu ei gymeradwyo. 

 

Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod yr egwyddor o ddatblygu'r safle eisoes wedi'i sefydlu o dan gyfeirnod cais cynllunio 29C39B lle rhoddwyd caniatâd i adnewyddu caniatâd cynllunio 29C39B ar gyfer addasu adeiladau allan yn 4 uned wyliau ynghyd ag adeiladu mynediad i gerbydau a chreu safle trin carthion preifat ynghyd â diwygio amod (04) o ganiatâd cynllunio 29C39B i ganiatáu preswylio llawn amser yn y 4 uned a ganiatawyd yn flaenorol fel anheddau.  Barnwyd bod cais am dystysgrif defnydd arfaethedig yn gyfreithlon lle cadarnhaodd yr ymgeisydd fod y gwaith wedi dechrau ar y safle ac felly'n diogelu'r cyfeirnod caniatâd cynllunio 29C39D.  Nododd hefyd fod Polisi TAI 7 o'r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd yn nodi mai dim ond at ddefnydd cyflogaeth y caniateir addasu adeiladau traddodiadol at ddefnydd preswyl, os nad yw hyn yn opsiwn, gallai'r datblygiad ddarparu uned fforddiadwy fel y nodir yn adroddiad y Swyddog.  Mae'r newidiadau a gynigir ar gyfer codi estyniad bach i bob un o'r 4 annedd preswyl, sy'n mesur 3m x 4m, yn amrywio o 3.9 m i 4.4m o uchder oherwydd lefelau llawr amrywiol.  Mae'r ddau estyniad ar ddrychiad gorllewinol un o'r adeiladau allan a addaswyd tra bod y ddau estyniad arall ar ddrychiad deheuol yr ail adeilad allan a addaswyd.  Mae'r arwynebedd llawr y ddau adeilad allan presennol yn mesur cyfanswm o 462 metr sgwâr gyda chyfanswm arwynebedd llawr y 4 estyniad yn mesur cyfanswm o 48 metr sgwâr sy'n llai na 10% o gynnydd yng nghyfanswm arwynebedd y llawr.  Yr argymhelliad oedd cymeradwyo'r cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylid cymeradwyo'r cais ac eiliodd y Cynghorydd John Griffith y cynnig. 

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau a geir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

11.

Cynigion Datblygu a Gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

12.

Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 5 MB

12.1 – VAR/2021/38  - Fferm Wynt Trysglwyn, Rhosybol

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000OKCetUAH/var202138?language=cy

 

12.2 – FPL/2021/298 - Lolfa Gymunedol St Seiriol, St Seiriols Close, Caergybi

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000QbIxOUAV/fpl2021298?language=cy

 

12.3 – FPL/2021/299 – Bryn Tirion, Biwmaris

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000QbIxTUAV/fpl2021299?language=cy

 

12.4 – FPL/2021/285 - Gerddi Stanley, Biwmaris

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000Qb6n1UAB/fpl2021285?language=cy

 

12.5 – FPL/2021/297 - Lolfa Gymunedol Tre Rhosyr, Niwbwrch

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000QbIxJUAV/fpl2021297?language=cy

 

12.6 – MAO/2021/32 - Beaumaris Social Club, Steeple Lane, Biwmaris

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000QbvXGUAZ/mao202132?language=cy

 

12.7 – DIS/2021/101 - Beaumaris Social Club, Steeple Lane, Biwmaris

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000QbvSWUAZ/dis2021101?language=cy

 

12.8 – DIS/2021/102 - Beaumaris Social Club, Steeple Lane, Biwmares

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000QbvSbUAJ/dis2021102?language=cy

 

12.9 - TPO/2021/31 – Dingle, Llangefni

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000QcDJxUAN/tpo202131?language=cy

 

12.10 – FPL/2021/276 - Burgess Agricultural Engineers, Stryd y Bont, Llangeni

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000O5hmVUAR/fpl2021276?language=cy

 

12.11 – ADV/2021/9 - Bloc E, Stad Diwydiannol Penrhos, Caergybi

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000O3WLFUA3/adv20219?language=cy

 

12.12 – FPL/2021/304 - The Lodge, Capel Bach, Rhosybol

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000QbNP3UAN/fpl2021304?language=cy

 

12.13 – FPL/2021/302 - Bunwerth, Bae Trearddur, Caergybi

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000QbN4uUAF/fpl2021302?language=cy

 

12.14 – VAR/2021/63 - Ysgol Gynradd Llanfachraeth, Llanfachraeth

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000O3QycUAF/var202163?language=cy

 

12.15 – MAO/2021/31 – Fferm Wynt Rhyd y Groes, Cemaes

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000QbICdUAN/mao202131?language=cy

 

 

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

12.1  VAR/2021/38 – Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amodau 15 ac 16 o'r cyfeirnod caniatâd cynllunio APP45-36 (caniatâd ar apêl) a ganiataodd adeiladu 15 tyrbin gwynt ar dir yn Nhrysglwyn Fawr, Rhosybol) er mwyn ymestyn cyfnod gweithredol 14 o dyrbinau a adeiladwyd ar y safle am gyfnod pellach o 10 mlynedd hyd at 29.6.31,  ymestyn y cyfnod lle mae angen dadgomisiynu'r fferm yn ogystal ag ymestyn y cyfnod o orfod tynnu tyrbin oddi ar y safle os nad yw'n cynhyrchu trydan i'r grid lleol yn Fferm Wynt Trysglwyn, Rhosybol

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod atodiad  Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol yn cyd-fynd â'r cais.  Mae'n ofynnol cyflwyno'r cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion i'w benderfynu yn unol â pharagraff 3.5.3.5(ii) o'r Cyfansoddiad.

 

Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu mai'r cais yw ymestyn cyfnod gweithredol y fferm wynt o 10 mlynedd i 25 mlynedd, 35 mlynedd o'r pwynt cynhyrchu cyntaf a fydd yn dod i ben ar 29 Mehefin 2031.  Mae'r ymgeisydd wedi cyflwyno'r cais mewn ymdrech i wneud y mwyaf o botensial cynhyrchu’r fferm wynt; er bod oes y fferm wynt wedi'i phennu'n wreiddiol am 25 mlynedd, os caiff tyrbinau eu cynnal yn briodol gallant weithredu y tu hwnt i'r cyfnod y dyluniwyd hwy’n wreiddiol a chyfrannu at gyrraedd targedau a chyflenwi pŵer adnewyddadwy heb y gofyniad i gael eu hailbweru.  Mae amod 15 o'r penderfyniad apêl yn ei gwneud yn ofynnol, os bydd unrhyw dyrbin gwynt yn methu â chynhyrchu trydan a gyflenwir i'r grid lleol am gyfnod parhaus o 6 mis, y bydd y tyrbin hwnnw ynghyd ag unrhyw offer ategol yn cael ei ddatgymalu i’r ddaear a'i symud o'r safle a bydd y safle'n cael ei adfer at

ddefnydd amaethyddol o fewn 3 mis.  Mae'r cais yn bwriadu cynyddu'r cyfnod cyn y bydd tyrbin gwynt yn cael ei ddatgomisiynu os yw'n methu â chynhyrchu trydan parhaus o 3 i 9 mis.  Mae amod 16 o'r penderfyniad apêl yn ei gwneud yn ofynnol i'r tyrbinau gael eu symud o'r safle o fewn 6 mis i'r tyrbinau gael eu dadgomisiynu a rhoi’r gorau i’w defnyddio. Mae'r cais hefyd yn bwriadu ymestyn y cyfnod datgomisiynu o 6 i 12 mis, sy'n cyd-fynd â chaniatâd ailbweru tebyg diweddar ar Fferm Wynt Rhyd y Groes.  Nid oes unrhyw waith adeiladu ychwanegol yn cael ei gynnig gan fod modd ddefnyddio'r holl seilwaith presennol wrth ymestyn oes y datblygiad. Fodd bynnag, byddai ymestyn y caniatâd yn gofyn am waith cynnal a chadw parhaus ac o bosibl ychwanegol, wrth i'r cyfarpar fynd yn hŷn.  Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu ymhellach fod polisïau'r Cynllun Datblygu Cenedlaethol a Lleol yn rhoi arweiniad ar geisiadau o'r fath. Er bod pwyslais y dylid annog ynni adnewyddadwy, ni ddylai datblygiadau arfaethedig niweidio'r ardal gyfagos, safleoedd dynodedig ac eiddo cyfagos sy'n bodoli eisoes.  Dywedodd hefyd fod yr Awdurdod Cynllunio wedi asesu'r cais mewn perthynas â'r effeithiau ar y dirwedd, ecoleg, traffig a thrafnidiaeth, amwynderau eiddo cyfagos a manteision economaidd-gymdeithasol.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12.

13.

Materion Eraill

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.