Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol (ar hyn o bryd nid oes modd i'r cyhoedd fynychu'r cyfarfod)

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fel y’u nodir uchod.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu i’r Cynghorydd K P Hughes ddatgan diddordeb personol mewn perthynas â chais 12.1 ond, ar ôl cael cyngor cyfreithiol, cafwyd y câi siarad ar y cais a phleidleisio arno.

 

Bu i’r Cynghorydd Robin Williams ddatgan diddordeb personol oedd yn rhagfarnu mewn perthynas â chais 7.1.

 

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 477 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gafwyd ar 2 Chwefror, 2022.  

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd 2 Chwefror, 2022 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

 

4.

Ymweliad Safleoedd

Ni chafwyd Ymweliad Safle.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chynhaliwyd yr un ymweliad safle yn dilyn cyfarfod 2 Chwefror, 2022 o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

 

5.

Siarad Cyhoeddus

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd Siaradwyr Cyhoeddus mewn perthynas â cheisiadau 12.2 a 12.3.

 

 

6.

Ceisiadau fydd yn cael ei gohirio

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafodd yr un ei ystyried yn y cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

7.

Ceisiadau'n godi pdf eicon PDF 420 KB

 

 7.1 – FPL/2021/304 - The Lodge, Capel Bach, Rhosybol

 https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00 000QbNP3UAN/fpl2021304?language=cy

 

7.2    – FPL/2021/302 - Bunwerth, Bae Trearddur, Caergybi

 https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00 000QbN4uUAF/fpl2021302?language=cy

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

7.1  FPL/2021/304 – Cais ôl-weithredol i ddefnyddio carafán sefydlog ar gyfer gwyliau yn The Lodge, Capel Bach, Rhosybol

 

(Ar ôl datgan cysylltiad personol oedd yn rhagfarnu mewn perthynas â’r cais, gadawodd y Cynghorydd Robin Williams y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r penderfyniad).

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol. Yn ei gyfarfod a gynhaliwyd y 12fed o Ionawr 2022, argymhellodd y Pwyllgor y dylid ymweld yn rhithwir â safle’r cais. Cynhaliwyd ymweliad rhithwir â’r safle wedi hynny,16 Ionawr, 2022. Yn ei gyfarfod a gynhaliwyd 2 Chwefror 2022, penderfynodd y Pwyllgor gymeradwyo'r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog, gan yr ystyriwyd ei fod yn rhan o fenter dwristiaeth gyfredol a'i fod o ansawdd uchel. O’r herwydd, ystyriwyd ei fod yn cydymffurfio â pholisïau cynllunio PCYFF 1 a TWR 3 y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio y gwnaed y cais i newid y defnydd o fod yn un ar gyfer carafán sefydlog at ddibenion achlysurol yn un ar gyfer llety gwyliau. Cydnabuwyd bod gan y safle Drwydded Clwb Carafanau am bum carafán deithiol a bod lle wedi ei drosi’n lle gwyliau ar y safle ond ystyriwyd y rhain yn opsiynau llety gwyliau amgen yn hytrach na chyfleusterau cysylltiedig. O’r herwydd, nid oedd y bwriad yn cydymffurfio 'r â’r canllawiau yn y Canllawiau Cynllunio Atodol. Nodai Canllawiau Cynllunio Atodol Cyfleusterau a Llety Twristiaeth na châi ceisiadau am garafanau, cabanau neu bodiau unigol oedd wedi’u gosod mewn cae neu o fewn cwrtil anheddau preswyl heb unrhyw gyfleusterau cysylltiedig, eu hystyried yn ddatblygiadau o ansawdd uchel ac, felly, nid oeddynt yn cyd-fynd â Pholisi TWR 3. Nid oedd y math yma o ddatblygiadau yn gwella math ac ansawdd yr hyn a gynigir i dwristiaeth yn ardal y cynllun a gallai effeithiau cronnol datblygiadau o'r fath gael effaith negyddol ar y dirwedd. Aeth y Rheolwr Datblygu Cynllunio ymlaen i ddweud y byddai caniatáu’r cais yn creu cynsail ar gyfer datblygiadau eraill o’r fath ac, felly, nid ystyrid bod y datblygiad arfaethedig yn cydymffurfio â’r polisïau cynllunio perthnasol yma. Dywedodd mai gwrthod y cais oedd yr argymhelliad yn dal i fod.

 

Dywedodd y Cynghorydd Aled M Jones, Aelod Lleol, bod cyfarfod blaenorol y Pwyllgor hwn wedi caniatáu’r cais oherwydd yr ystyriwyd bod y garafán sefydlog bresennol ar y safle yn rhan o fenter dwristiaeth gyfredol ac yn cynnig llety gwyliau o’r safon uchaf. Roedd lleoliad y safle yn gynaliadwy gan ei fod ym mhentref Rhosybol ac roedd yr ymgeisydd yn lleol i'r ardal. Gofynnodd y Cynghorydd Jones i'r Pwyllgor ailddatgan ei benderfyniad blaenorol i ganiatáu'r cais.

 

Dywedodd y Cynghorydd Ieuan Williams fod nifer o garafanau sefydlog ar draws yr Ynys yn cael eu defnyddio ar gyfer gwyliau, yn groes i amodau cynllunio. Fodd bynnag, roedd yr ymgeisydd wedi cyflwyno cais ffurfiol i'r awdurdod cynllunio i ddefnyddio carafán sefydlog ar gyfer llety gwyliau. Nododd fod gan y safle lety gwyliau ar y safle ynghyd â Thrwydded Clwb Carafanau ar gyfer pum carafán deithiol.  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Ceisiadau Economaidd

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafodd yr un ei ystyried yn y cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

9.

Ceisiadau am dy fforddiadwy

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafodd yr un ei ystyried yn y cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

10.

Ceisiadau'n Gwyro pdf eicon PDF 489 KB

 

10.1 – VAR/2021/84 – Ty Uchaf, Llangristiolus

 https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00 000QbvN5UAJ/var202184?language=cy

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

10.1  VAR/2021/84 – Cais dan Adran 73 i amrywio amod (03) (Cynlluniau a Gymeradwywyd) cais cynllunio cyfeirnod VAR/2021/11 (amrywio amod (02)) cais cynllunio cyfeirnod 36C320A a MAO/2018/3 (Codi annedd) er mwyn caniatáu dyluniad newydd i’r garej yn Nhŷ Uchaf, Llangristiolus

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y bwriad yn groes i bolisïau’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ond roedd yr Awdurdod Cynllunio Lleol o blaid caniatáu.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod yr egwyddor o annedd ar y safle eisoes wedi ei sefydlu dan gais cynllunio 36C320A a chymeradwywyd newidiadau dan MAO/2018/3 a VAR/2021/11. Barnwyd bod Tystysgrif Cyfreithlondeb yn gyfreithlon dan gais LUP/2018/1 gan fod gwaith ar y fynedfa wedi dechrau. Cais oedd hwn i ddiwygio dyluniad y tŷ a ganiatawyd trwy leihau maint y garej arfaethedig. Ers mabwysiadu'r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd, roedd Llangristiolus wedi'i nodi yn Bentref Lleol dan ddarpariaeth Polisi TAI 14. Nid oedd safle'r cais o fewn ffin ddatblygu Llangristiolus ac, felly, mae wedi'i ddosbarthu yn lleoliad cefn gwlad agored. Fodd bynnag, gan y dechreuwyd ar y datblygiad a bod tystysgrif defnydd cyfreithlon wedi ei brofi'n gyfreithlon, roedd y datblygiad, felly, wedi ei ddiogelu. Byddai maint garej y cynllun yn cael ei leihau-  rhywbeth fyddai’n lleihau unrhyw effeithiau posibl ar fwynder preswyl. Yr argymhelliad oedd caniatáu’r cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Vaughan Hughes ganiatáu’r cais. Eiliodd y Cynghorydd K P Hughes y cynnig i ganiatáu.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

11.

Cynigion datblygu a gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafodd yr un ei ystyried yn y cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

12.

Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 2 MB

12.1   – FPL/2021/316 – Bryn Glas, Llanrhuddlad https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00 000QbZfjUAF/fpl2021316?language=cy

 

12.2   – HHP/2021/331 - Glan y Mor, Ffordd y Traeth, Porthaethwy https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00 000O5fyLUAR/hhp2021331?language=cy

 

12.3   – FPL/2021/337 - Hen Safle Roadking, Stop Tryciau, Parc Cybi, Caergybi https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00 000Qc641UAB/fpl2021337?language=cy

 

12.4   – FPL/2021/332 – Traeth Coch https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00 000QbzgKUAR/fpl2021332?language=cy

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

12.1      FPL/2021/316 - Cais llawn i newid defnydd ac adnewyddu dau adeilad amaethyddol yn olchfa fasnachol ynghyd â gwella'r fynedfa yn 'Bryn Glas', Llanrhuddlad

 

(Wedi datgan diddordeb personol mewn perthynas â'r cais, dywedodd y Cynghorydd K Hughes, yn dilyn cyngor cyfreithiol, y câi siarad mewn perthynas â'r cais).

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais aelod lleol.

 

Gofynnodd y Cynghorydd K P Hughes, aelod lleol, am gael ymweld â’r safle oherwydd pryderon lleol bod y ffyrdd sy'n arwain at safle'r cais yn gul. Cynigiodd y Cynghorydd Hughes ymweld yn rhithwir â'r safle. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd John Griffith.

 

PENDERFYNWYD ymweld yn rhithwir â’r safle, yn unol â chais yr Aelod Lleol am y rhesymau a roddir. 

 

12.2  HHP/2021/331 – Cais ôl-weithredol i gadw gwaith altro ac estyniadau sy’n cynnwys balconi yn ‘Glan y Môr’, Ffordd y Traeth, Porthaethwy

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.

 

Dywedodd y Cadeirydd, y Cynghorydd Robin Williams, ei fod, fel aelod lleol, wedi cyfeirio'r cais i'r Pwyllgor oherwydd gwrthwynebiad gan yr eiddo cyfagos i'r cais. Aeth yn ei flaen i ddweud fod trigolion yr eiddo cyfagos bellach wedi tynnu eu gwrthwynebiad i'r cais yn ôl.

 

Siaradwr Cyhoeddus

 

Wrth gefnogi ei gais, dywedodd Mr Craig Bonnington y dymunai egluro mai’r rheswm bod y disgrifiad o'r datblygiad yn cyfeirio at y gwaith fel gwaith rhannol ôl-weithredol yn deillio o gamddealltwriaeth ar eu rhan nhw a’u bod wedi credu bod y newidiadau yn ddatblygiad a ganiateir. Pan ddaeth y camgymeriad i'r amlwg, roeddynt wedi gweithio gyda Swyddogion y Cyngor i sicrhau fod y bwriad yn dderbyniol o ran effaith ar yr Ardal Gadwraeth ac ar gymdogion. Yn adroddiad y pwyllgor, cyn y cyfarfod hwn, roedd ganddynt nawr gynnig oedd yn gwella’r adeilad hwn mewn modd oedd yn gydnaws â’r Ardal Gadwraeth. Fe’i cefnogid gan eich Swyddog Cadwraeth, a hefyd, ni chodwyd unrhyw wrthwynebiad gan Gyngor Tref Porthaethwy. Yn ogystal â mesurau i sicrhau fod dyluniad y bwriad yn dderbyniol, bu cyfaddawdu i sicrhau y diogelid preifatrwydd eu cymydog. Yn naturiol, roeddynt yn dymuno manteisio ar y golygfeydd tuag at y Fenai, fel y byddai pawb yn y lleoliad hwn. Eisoes, roedd ffenestri mawr yn wynebu'r de tuag at y Fenai ac roedd y bwriad yn newid y rhain i ddrysau Ffrengig oedd yn arwain allan i falconi cul. Byddai’r olygfa'n dal i wynebu’r Fenai yn hytrach na'u cymydog i'r ochr. Er mwyn sicrhau y cynhelid eu preifatrwydd, roedd y bwriad bellach yn ychwanegu sgrîn gwydr tywyll 1.8 medr i ochr y balconi bach. Y gobaith oedd bod y ffaith nad oedd yr un o’r cymdogion wedi penderfynu annerch y pwyllgor heddiw, bellach, yn arwydd bod y bwriad yn dderbyniol iddynt, o gofio’r cyfaddawdu a fu o ran dyluniad a diogelu preifatrwydd,

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio mai gwaith i gadw’r balconi yng nghefn y tŷ, oedd yn cael ei adnewyddu ar hyn o bryd, oedd y gwaith datblygu arfaethedig. Y bwriad oedd tynnu to brig a gosod  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12.

13.

Materion Eraill pdf eicon PDF 757 KB

13.1 – DEM/2022/1 – Canolfan Gymunedol Newry, Caergybi

 https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00 000Qdm4TUAR/dem20221?language=en_GB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

13.1  DEM/2022/1 – Caniatâd ymlaen llaw i ddymchwel Canolfan Gymunedol Newry, Caergybi

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd bod y cais yn ymwneud â thir y Cyngor.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio y câi’r cais ei wneud dan Ran 31 Dymchwel Adeiladau'r Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygiad Cyffredinol a Ganiateir) 1995, i ddymchwel Canolfan Gymunedol Newry yng Nghaergybi. Dan y Gorchymyn, nid oedd angen caniatâd cynllunio i ddymchwel adeiladau (a elwir yn 'ddatblygiad a ganiateir') ar yr amod bod y datblygwr yn gwneud cais yn gyntaf i'r Awdurdod Cynllunio Lleol i gadarnhau a oedd angen caniatâd ymlaen llaw mewn perthynas â'r dull dymchwel ac am unrhyw waith adfer y safle. Dan y broses hon, roedd Awdurdod Cynllunio Lleol yn cael cyfnod o 28 diwrnod i gyflawni’r gwaith dymchwel yr oedd y cais hwn yn ymwneud ag o ac roedd yn ofynnol iddynt gadarnhau o fewn y cyfnod 28 diwrnod p’run y byddai angen caniatâd ymlaen llaw'r Awdurdod Cynllunio Lleol neu beidio cyn dechrau dymchwel ar y safle. Yr argymhelliad oedd caniatáu’r cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Eric W Jones ganiatáu’r cais. Eiliodd y Cynghorydd Dafydd Roberts y cynnig i ganiatáu.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig.