Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol wedi'i ffrydio'n fyw (ar hyn o bryd nid oes modd i'r cyhoedd fynychu)

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fel y nodwyd uchod.

 

2.

Datganiad o Ddiddordeb

To receive any declaration of interest by any Member or Officer in respect of any item of business.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu i’r Cynghorydd K P Hughes ddatgan diddordeb personol a rhagfarnus mewn perthynas â chais 7.1.

 

Bu i’r Cynghorydd Nicola Roberts ddatgan diddordeb personol a rhagfarnus mewn perthynas â chais 11.1.

 

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 413 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Cynllunio a gafwyd ar 2 Mawrth, 2022.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawyd bod cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd 2 Mawrth, 2022 yn gywir.

 

4.

Ymweliad Safleoedd pdf eicon PDF 426 KB

Cyflwyno cofnodion yr ymweliadau safle rhithiol a gafwyd ar 18 Mawrth, 2022.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Adroddodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol bod rhaid cael 6 aelod yn bresennol er mwyn sicrhau cworwm ac mai dim ond 4 oedd yn bresennol yn ystod yr ymweliad safle. Cafodd recordiad o’r ymweliad safle ei rannu â’r aelodau a oedd yn absennol. Gan nad oedd cworwm, yn dechnegol nid oedd yr ymweliad wedi digwydd. Ond oes oedd y Pwyllgor yn fodlon bod ganddynt wybodaeth ddigonol i’w galluogi i fwrw ymlaen â’r mater yna dylent gadarnhau’r cofnodion cyn mynd ati i ystyried y mater.

 

Dywedodd y Cynghorydd Robin Williams ei fod wedi gwylio’r recordiad gan nad oedd yn gallu bod yn bresennol yn ystod yr ymweliad safle a chynigodd y dylid cadarnhau bod cofnodion yr ymweliad safle rhithwir a gynhaliwyd ar 18 Mawrth, 2022 yn gywir a bod y Pwyllgor yn mynd ymlaen i ystyried y cais heddiw. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Dafydd Roberts.

 

5.

Siarad Cyhoeddus

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd Siaradwyr Cyhoeddus mewn perthynas â cheisiadau 7.1 a 12.5.

 

6.

Ceisiadau fydd yn cael ei gohirio

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd ceisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

7.

Ceisiadau'n codi pdf eicon PDF 324 KB

7.1 – FPL/2021/316 – Bryn Glas, Llanrhuddlad

FPL/2021/316

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 7.1  FPL/2021/316 - Cais llawn ar gyfer newid defnydd ac adnewyddu dau adeilad amaethyddol i londret fasnachol yn ogystal â gwella’r fynedfa ym Mryn Glas, Llanrhuddlad

 

(Gan ei fod wedi datgan diddordeb personol a rhagfarnus mewn perthynas â’r cais, gadawodd y Cynghorydd K P Hughes y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais).

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais aelod lleol. Yn y cyfarfod ar 2 Mawrth, 2022 argymhellodd y Pwyllgor y dylid cynnal ymweliad safle rhithwir. O ganlyniad cynhaliwyd ymweliad safle rhithwir ar 18 Mawrth, 2022.

 

Siaradwyr Cyhoeddus

 

Darllenodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol ddatganiad gan Ms Laura Simons a oedd wedi cofrestru i siarad yn y cyfarfod blaenorol ond a oedd methu â bod yn bresennol yn y cyfarfod heddiw oherwydd ymrwymiadau gwaith.

 

Roedd y datganiad gan Ms Simons fel a ganlyn :-

 

Pa ddiben sydd i fusnes sydd wedi’i leoli yn y rhan fwyaf gogleddol o Gymru? Mae’r peth yn warthus yn ecolegol ac amgylcheddol. Ni ddylem fod yn annog sefydlu busnesau sy’n golygu llawer o deithio.  Mae safleoedd gwell eisoes ar gael mewn paciau diwydiannol. Pam gwario miloedd ar y safle hwn pan mae unedau mwy hygyrch ar gael yn nes at yr A55 sy’n llawer mwy addas ar gyfer y math yma o ddiwydiant? e.e. Parc Cybi. Beth yw’r cynlluniau ar gyfer y dyfodol? Ni fuaswn yn gwario miloedd oni bai fy mod yn gallu gwneud elw, felly pam maen nhw?

 

Yn bennaf:

 

1.  Mae plant yn defnyddio’r lôn yn ymyl yr eiddo hwn er mwyn mynd at y bws ysgol… DOES DIM LLWYBR TROED.  Felly yn y gaeaf mae’n dywyll ac yn beryglus iawn gan fod y lôn yn gul ac ar gornel DDALL. Nid oes cyfyngiad cyflymder na mesurau gostegu traffig.

2.  Mae’r pentrefwyr yn defnyddio’r lôn i gerdded o amgylch y pentref... yn ogystal â phobl sy’n marchogaeth, seiclwyr, rhieni gyda phramiau a phobl sy’n mynd â’u cŵn am dro. NID OES FFORDD ARALL O AMGYLCH Y PENTREF. Does dim llwybrau troed.

3. Llygredd sŵn a golau di-baid. Felly mae oriau agor yn amherthnasol. Bydd y bwyleri a goleuadau’r synwyryddion yn dal i fod ymlaen.

4. I ble fydd y gwastraff yn mynd? Beth fydd yn digwydd i’r powdr golchi? Amonia? A fydd y draeni’n gallu ymdopi â hyn? Ffrwydrad stem. 

5. Nid wyf yn meddwl bod marchnad leol ar gyfer hyn? Pryderon ynglŷn ag ehangu ac oriau hirach.

6. Bydd y boblogaeth hŷn, yn bennaf, yn colli ansawdd bywyd. 

 

Darllenwyd yr e-bost canlynol a oedd hefyd wedi’i anfon gan Ms Simons:-

 

Er bod pawb o’r farn y dylem groesawu busnesau newydd i Ynys Môn ni ddylai hynny fod ar draul ansawdd bywyd Llanrhuddlad.  Mae’r rhan fwyaf o’r bobl sy’n byw yma yn dymuno cael ymddeoliad heddychlon. Rydym eisoes yn gorfod delio â diffyg cyfyngiadau cyflymder yn y pentref. Mae diffyg palmentydd ac arwyddion ger cyffyrdd yn ei gwneud hi’n beryglus i yrwyr a cherddwyr deithio o amgylch y pentref. Mae’r ffordd yn cael ei  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Ceisiadau Economaidd

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd ceisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

9.

Ceisiadau am Dy Fforddiadwy

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd ceisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

10.

Ceisiadau'n Gwyro

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd ceisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

11.

Cynigion datblgu a gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion pdf eicon PDF 500 KB

11.1 – HHP/2022/38 – Mandela, Rhosmeirch

HHP/2022/38

 

11.2 – FPL/2022/23 – Ger y Bont, Elim

FPL/2022/23

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

11.1      HHP/2022/38 – Cais llawn ar gyfer addasu ac ehangu yn Mandela, Rhosmeirch

 

(Gan ei bod wedi datgan diddordeb personol a rhagfarnus mewn perthynas â’r cais, gadawodd y Cynghorydd Nicola Roberts y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais).

 

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeisydd yn perthyn i ‘swyddog perthnasol’ yn unol â’r diffiniad ym mharagraff 4.6.10.4 yn y Cyfansoddiad.

 

Adroddodd y Prif Swyddog Cynllunio mai’r brif ystyriaeth cynllunio yw'r effaith ar fwynderau lleol i eiddo cyfagos o ran y newidiadau arfaethedig i'r eiddo. Mae’r eiddo yn eiddo un llawr sengl gyda gerddi blaen ac ochr sylweddol fel rhan o'i gwrtil. Mae'r tai sengl cyfagos bob ochr i’r eiddo yn dai deulawr. Bydd llinell newydd y to yn cynnwys 4 ffenestr to a 4 ffenestr dormer ar ongl ar gyfer ystafelloedd gwely newydd yr estyniad. Bydd 2 o'r ffenestri newydd hyn i'w codi ar ddrychiad blaen yr eiddo sy'n wynebu'r briffordd gyhoeddus gyda phellter o tua. 30m o'r eiddo cyfagos agosaf. Mae'r 2 ffenestr dormer arall i'w codi ar ddrychiad cefn yr eiddo, sy'n cefnu ar gaeau amaethyddol heb unrhyw gymdogion cyfagos yn wynebu'r ochr hon. Ystyrir nad fydd y cynnig yn cael effaith andwyol ar gymeriad yr ardal nac ar eiddo cyfagos ac argymhellwyd bod y cais yn cael ei gymeradwyo. 

 

Cynigodd y Cynghorydd Eric W Jones bod y cais yn cael ei gymeradwyo ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd John Griffith.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

11.2  FPL/2022/23 - Cais llawn ar gyfer codi sied amaethyddol i storio peiriannau a'r tir ger Ger y Bont, Elim

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeisydd yn perthyn i ‘swyddog perthnasol’ yn unol â’r diffiniad ym mharagraff 4.6.10.4 yn y Cyfansoddiad. Roedd y Swyddog Monitro wedi craffu r y cais yn unol â’r gofyniad ym mharagraff 4.6.10.4 yn y Cyfansoddiad.

 

Adroddodd y Prif Swyddog Cynllunio bod y cynnig yn cydymffurfio â’r polisïau cynllunio lleol a chenedlaethol. Mae’r adeilad arfaethedig ar gyfer storio peiriannau amaethyddol. Ceir mynediad i'r safle drwy fynedfa amaethyddol bresennol ac ni chynigir unrhyw draciau na mannau caled fel rhan o'r datblygiad. Mae safle'r cais ar dir sy'n berchen i'r ymgeisydd ac mae’n ymestyn i 5.7erw, fodd bynnag, ynghyd â safle'r cais, mae'r ymgeisydd hefyd yn berchen ac yn ffermio tua 100 erw arall ym Modedern. Mae'r ACLl felly yn fodlon bod cyfiawnhad digonol yn bodoli ar gyfer y datblygiad. Mae'r adeilad arfaethedig yn briodol o ran ei leoliad, graddfa a dyluniad ac ni fyddai'n anghydnaws yn y dirwedd wledig. Ni ystyrir ychwaith y byddai'n achosi effeithiau annerbyniol ar fwynderau eiddo cyfagos. Dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio bod Cyngor Cymuned Tref Alaw hefyd wedi codi pryderon mewn perthynas â chael gwared ar ddŵr wyneb, perygl llifogydd, cydymffurfio â gofynion SDCau a chaniatâd hanesyddol ar y tir. Er y bydd angen cymeradwyaeth SDCau ar wahân ar gyfer y datblygiad, nid oes unrhyw faterion yn ymwneud â draenio  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 11.

12.

Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 1 MB

12.1 – FPL/2021/61 – Tyddyn Dai, Pentrefelin, Amlwch

FPL/2021/61

 

12.2 – HHP/2021/303 – Pant y Bwlch, Llanddona

HHP/2021/303

 

12.3 - FPL/2022/43 – Cyn Safle Heliport, Stad Ddiwydiannol Penrhos, Caergybi

FPL/2022/43

 

12.4 – FPL/2021/370 – Chwarelau, Brynsiencyn

FPL/2021/370

 

12.5 – FPL/2022/36 - Mona Island Dairy, 8 Parc Ddiwydiannol Mona, Mona

FPL/2022/36

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

FPL/2021/61 - Cais llawn ar gyfer newid defnydd adeilad allanol i 2 uned gwyliau, newid defnydd modurdy dwbl ar wahân i anecs ynghyd â datblygiadau cysylltiedig yn Nhyddyn Dai, Pentrefelin, Amlwch

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais aelod lleol.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Aled M Jones, aelod lleol, am ymweliad safle oherwydd cyflwr y ffyrdd tuag at safle’r datblygiad a hefyd cynaliadwyedd y cais mewn cefn gwlad agored.

 

Cynigodd y Cynghorydd K P Hughes bod ymweliad safle rhithwir yn cael ei gynnal ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd John Griffith.

 

PENDERFYNWYD y dylid cynnal ymweliad safle rhithwir yn unol â chais yr Aelod Lleol am y rhesymau a nodwyd.

 

12.2  HHP/2021/303 - Cais llawn i ddymchwel ystafell ardd bresennol ynghyd â chodi swyddfa gartref/campfa yn ei lle ym Mhant y Bwlch, Llanddona

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais aelod lleol ar ran Cyngor Cymuned Llanddona.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Margaret M Roberts, aelod lleol, am ymweliad safle oherwydd pryderon ynglŷn â’r cais yn lleol.

 

Cynigodd y Cynghorydd Ieuan Williams bod ymweliad safle rhithwir yn cael ei gynnal ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd T Ll Hughes MBE.

 

PENDERFYNWYD y dylid cynnal ymweliad safle rhithwir yn unol â chais yr Aelod Lleol am y rhesymau a nodwyd.

 

12.3  FPL/2022/43 -Cais llawn ar gyfer codi 6 uned busnes ynghyd a thirlunio a datblygiadau cysylltiedig yn Cyn Safle Heliport, Stad Ddiwydiannol Penrhos, Penrhos, Caergybi

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais yn  cael ei gyflwyno ar ran yr Awdurdod Lleol.

 

Adroddodd y Prif Swyddog Cynllunio bod safle’r cais wedi’i amgylchynu gan ddatblygiadau masnachol / diwydiannol y tu ôl i siop Morrisons; mae’r unedau busnes yn ymyl y safle arfaethedig eisoes wedi cael eu cwblhau.  Aeth ymlaen i ddweud bod y datblygiad yn cyd-fynd â Pholisïau Cynllunio Cenedlaethol a’r Cynllun Datblygu lleol ar y Cyd o ran egwyddor. Bernir bod y cynnig yn dderbyniol mewn termau technegol ac na fydd yn achosi niwed i fwynderau lleol, yr AHNE gerllaw, yr amgylchedd hanesyddol na diogelwch y briffordd.  Dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio nad yw ymateb Llywodraeth Cymru i’r ymgynghoriad wedi’i dderbyn eto mewn perthynas â’r traffig dyddiol cyfartalog blynyddol a fydd yn cael ei gynhyrchu gan y datblygiad a’r effaith ar Gyffordd 2 yr A55.  

 

Dywedodd y Cynghorydd T Ll Hughes MBE er ei fod yn cefnogi’r cais bod ganddo bryderon ynglŷn â’r cerbydau HGV sy’n parcio ar balmentydd ger y safle. Ymatebodd y Prif Swyddog Cynllunio bod cyfarfodydd ar y gweill gyda Llywodraeth Cymru mewn perthynas â’r problemau parcio yn yr ardal o amgylch safle’r cais.

 

Cynigodd y Cynghorydd Glyn Haynes bod y cais yn cael ei gymeradwyo ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd  Robin Williams.

 

PENDERFYNWYD rhoi’r awdurdod i’r Swyddogion gymeradwyo’r cais, gydag amodau priodol, yn dilyn ymateb boddhaol gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â'r traffig dyddiol cyfartalog blynyddol a ragwelir gan y datblygiad arfaethedig, a'r effaith y rhagwelir y bydd hyn yn ei chael ar Gyffordd  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12.

13.

Materion Eraill

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw faterion eraill yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.