Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: |
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cafwyd datganiadau o ddiddordeb fel â ganlyn:-
Bu’r Cynghorydd Glyn Haynes ddatgan diddordeb personol mewn perthynas ag eitem 12.6.
Bu’r Cynghorydd Llinos Medi ddatgan diddordeb personol ac un a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas a chais 12.12.
Bu’r Cynghorydd John I Jones ddatgan fod cynrychiolwyr yr ymgeisydd wedi cysylltu ag ef mewn perthynas â chais 12.13.
Bu’r Cynghorydd Dafydd Roberts ddatgan diddordeb personol ac un a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas â chais 7.1.
Bu’r Cynghorydd Ken Taylor ddatgan diddordeb personol mewn perthynas ag eitem 12.6.
Bu’r Cynghorydd Alwen Watkin ddatgan bod yr ymgeisydd wedi cysylltu â hi mewn perthynas â chais 12.2.
Bu’r Cynghorydd Liz Wood ddatgan diddordeb personol ac un a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas â chais 12.6. |
|
Cyflwyno cofnodion y cyfarfodydd blaenorol o Bwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar y dyddiadau canlynol:-
· Cofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 6 Ebrill, 2022 · Cofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 31 Mai, 2022 (Ethol Cadeirydd ac Is-gadeirydd) Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cadarnhawyd fod cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion yn gofnod cywir:-
· Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Ebrill, 2022 · Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 31 Mai, 2022 (Ethol Cadeirydd ac Is-gadeirydd) |
|
Ymweliad Safleoedd Cynhelir yr ymweliadau safle rhithiol ar fore'r cyfarfod mewn perthynas a'r ceisiadau canlynol :-
FPL/2021/370 – Chwarelau, Brynsiencyn
HHP/2021/303 – Pant y Bwlch, Llanddona
FPL/2021/61 – Tyddyn Dai, Pentrefelin, Amlwch
Bydd adroddiad llafar gan y Rheolwr Datblyu Cynllunio yn y cyfarfod. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Nodi y cynhaliwyd yr ymweliadau safle ar fore’r cyfarfod mewn perthynas a’r ceisiadau canlynol:-
FPL/2021/370 – Chwarelau, Brynsiecyn HHP/2021/303 – Pant y Bwlch, Llanddona FPL/2021/61 – Tyddyn Dai, Pentrefelin, Amlwch
|
|
Siarad Cyhoeddus Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cafwyd Siaradwyr Cyhoeddus mewn perthynas â cheisiadau 7.1, 7.2 a 12.13. |
|
Ceisiadau fydd yn cael ei gohirio Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: 6.1 FPL/2021/361 – Cais llawn ar gyfer codi uned cyfnod sylfaen a uned gofal plant newydd, man chwarae allanol, maes parcio ynghyd a gwaith cysylltiedig ar dir ger Ysgol y Graig, Llangefni.
PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle rhithiol yn unol ag argymhelliad y Swyddog. |
|
7.1 – FPL/2021/370 – Chwarelau, Brynsiencyn
7.2 – HHP/2021/303 – Pant y Bwlch, Llanddona
7.3 – FPL/2021/61 – Tyddyn Dai, Pentrefelin, Amlwch
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: 7.1 FPL/2021/370 – Cais llawn ar gyfer newidiadau i caniatâd cynllunio rhif FPL/2019/212 (newid defnydd yr adeilad allanol yn llety gwyliau, yn Chwarelau, Brynsiencyn
PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog oherwydd pryderon am leoliad y man pasio a’r parcio ar y safle.
(Yn unol â gofynion Cyfansoddiad y Cyngor, gohiriwyd y cais yn awtomatig i'r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i Swyddogion baratoi adroddiad mewn perthynas â'r rhesymau a roddwyd dros gymeradwyo'r cais).
7.2 HHP/2021/303 – Cais llawn i ddymchwel ystafell ardd bresennol ynghyd â chodi swyddfa gartref/campfa yn ei le yn Pant y Bwlch, Llanddona
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.
7.3 FPL/2021/61 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd adeilad allanol i 2 uned gwyliau, newid defnydd modurdy dwbl ar wahan i anecs ynghyd a datbylgiadau cysylltiedig yn Tyddyn Dai, Pentrefelin, Amlwch
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.
|
|
Ceisiadau Economaidd Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath gan y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. |
|
Ceisiadau am Dy Fforddiadwy Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath gan y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. |
|
10.1 – FPL/2021/243 - Ty Ni, Plot 1 Glan Llyn, Cerrigman, Amlwch Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: 10.1 FPL/2021/243 – Cais llawn ar gyfer cynlluniau diwygiedig ar gyfer codi annedd a ganiatawyd yn gynt dan ganiatad cynllunio rhif 24C268J/DA yn Tŷ Ni, Plot 1 Glan Llyn, Cerrigman, Amlwch
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig. |
|
Cynigion datblgu a gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath gan y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. |
|
12.1 – FPL/2021/267 - Plot 13, Pentre Coed, Porthaethwy
12.2 – FPL/2022/7 - Mornest Caravan Park, Pentre Berw
12.3 – FPL/2021/317 - Cumbria & High Wind, Stryd Fawr, Rhosneigr
12.4– FPL/2021/349 - Caerau, Llanfairynghornwy, Cemaes
12.5 – FPL/2022/63 - Ocean's Edge, Lon Isallt, Treaddur
12.6 – MAO/2022/11 – Ysgol Gynradd Llaingoch, Ffordd Ynys Lawd, Caergybi
12.7 – FPL/2022/65 - Plot 9 (Hanner Dwyreiniol), Parc Cybi, Caergybi
12.8 – FPL/2021/266 – Ffordd Garreglwyd, Caergybi
12.9 – VAR/2020/20 - Canolfan Addysg Y Bont, Ffordd Cildwrn, Llangefni
12.10 – FPL/2021/160 - Bryn Bela, Lon St Ffraid, Trearddur
12.11 – TP/2022/8 – 12 Brig y Nant, Llangefni
12.12 – OP/2021/10 - Tir gerllaw a Tyn y Ffynnon, Llannerch-y-medd
12.13– FPL/2021/198 - Bryn Gollen Newydd, Llanerchymedd
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: 12.1 FPL/2021/267 – Cais llawn ar gyfer codi llety gwyliau ynghyd â gwaith cysylltiedig yn Plot 13, Pentre Coed, Porthaethwy
PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle rhithiol yn unol â chais yr Aelod Lleol ac am y rhesymau a roddwyd.
12.2 FPL/2022/7 – Cais llawn i ail ddatblygu’r maes carafanau presennol i letya carafanau sefydlog ac ymestyn y safle i gynnwys carafanau symudol, ynghyd â chodi bloc toiledau/cawodydd llawn yn Parc Carafanau Mornest, Pentre Berw
PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle rhithiol yn unol â chais yr Aelod Lleol ac am y rhesymau a roddwyd.
12.3 FPL/2021/317 – Cais llawn i ddymchwel adeilad tri llawr presennol yn cynnwys dau fflat breswyl a storfa breswyl ategol ar y llawr gwaelod ac adeiladu adeilad tri llawr newydd yn cynnwys dau fflat breswyl a gwesty 10 ystafell gyda bwyty cysylltiedig ar y llawr gwaelod a chwaraeon dŵr. cyfleuster ar gyfer gwesteion a pharcio cysylltiedig yn Cumbria & High Wind, Stryd Fawr, Rhosneigr
PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle rhithiol yn unol â chais yr Aelod Lleol ac am y rhesymau a roddwyd.
12.4 FPL/2021/349 – Cais llawn ar gyfer creu menage marchogaeth preifat ynghud a newid defnydd tir amaethyddol yn safle gwersylla trwy'r flwyddyn yn Caerau, Llanfairynghornwy, Cemaes
PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle rhithiol yn unol â chais yr Aelod Lleol ac am y rhesymau a roddwyd.
12.5 FPL/2022/63 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd y sied storio bresennol i fod yn giosg gwerthu bwyd a diod ar gyfer hufen ia, wafflau a diodydd meddal yn Ocean's Edge, Lon Isallt, Bae Treaddur.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.6 MAO/2022/11 – Mân newidiadau i gynllun sydd wedi ei ganiatáu yn flaenorol o dan caniatád cynllunio FPL/2019/34 er mwyn diwygio tirlunio meddal yn Ysgol Gynradd Llaingoch, Ffordd Ynys Lawd, Caergybi
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.7 FPL/2022/65 – Cais llawn i gadw maes parcio HGV a gwaith cysylltiedig am gyfnod dros dro o 12 mis yn Plot 9 (Hanner Dwyreiniol), Parc Cybi, Caergybi
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.8 FPL/2021/266 – Cais llawn ar gyfer codi 8 fflat preswyl fforddiadwy, adeiladu mynedfa newydd i gerbydau, adeiladu ffordd newydd ar y safle ynghyd â thirlunio caled a meddal ar dir ger Ffordd Garreglwyd, Caergybi
PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle rhithiol yn unol â chais yr Aelod Lleol ac am y rhesymau a roddwyd.
12.9 VAR/2022/20 – Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (01) (Symud adeilad ac adfer y tir i gyflwr blaenorol cyn 01/04/2022) o caniatâd cynllunio rhif FPL/2021/220 ( Adeilad parod dros dro) er mwyn cadw yr adeilad ar y safle hyd at 31/01/2023 yn Canolfan Addysg Y Bont, Ffordd Cildwrn, Llangefni
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau sydd wedi eu ... view the full Penderfyniad text for item 12. |
|
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: 13.1 DEM/2022/3 – Cais i bennu os oes angen caniatâd blaenorol ar gyfer dymchwel modurdai yn Ffordd Corn Hir, Pennant, Llangefni
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.
|