Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriadau.
|
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem of fusnes. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cynghorydd Jeff Evans, yn dilyn cyngor cyfreithiol, ei fod yn gallu cymryd rhan a phleidleisio mewn perthynas â cheisiadau 7.1, 7.2 and 7.3.
Bu i’r Cyngorydd Liz Wood ddatgan diddordeb personol a oedd yn rhagfarnu yng ngheisiadau 7.4 a 7.6.
|
|
Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gafwyd ar 5 Ebrill, 2023. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd 5 Ebrill, 2023 a chadarnhawyd eu bod yn gywir yn amodol ar gynnwys enw’r Cynghorydd Alwen Watkin at yr aelodau a oedd yn bresennol.
|
|
Cyflwyno cofnodion yr Ymweliadau Safle a gafwyd ar 26 Ebrill, 2023. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cadarnhawyd bod cofnodion yr ymweliadau safle a gynhaliwyd ar 26 Ebrill, 2022 yn gywir.
|
|
Siarad Cyhoeddus Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd Siaradwyr Cyhoeddus ar gyfer ceisiadau 7.1, 7.2, 7.3, 7.4 a 7.6.
|
|
Ceisiadau fydd yn cael ei gohirio Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd unrhyw un yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
Copio lythyr i Richard Buxton Solicitors er gwybodaeth
7.1 – 46C427L/COMP - Land and Lakes, Parc Arfordirol Penrhos, Caergybi
7.2 – S106/2020/3 - Land and Lakes, Parc Arfordirol Penrhos, Caergybi
7.3 – COMP/2021/1 - Land and Lakes, Parc Arfordirol Penrhos, Caergybi
7.4 – FPL/2022/256 – Crown Street, Gwalchmai
7.5 – HHP/2022/291 – Monfa, Ffordd Caergybi, Mona
7.6 – FPL/2020/247 – Stad Y Bryn, Llanfaethlu
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Er gwybodaeth i’r Pwyllgor cyflwynwyd copi o lythyr at Richard Buxton Solicitors dyddiedig 28 Mawrth, 2023 gan Burges Salmon LLP a oedd yn mynd i'r afael â materion a godwyd o ran gweithredu caniatâd Land and Lakes o dan gyfeirnod 6C427K/RE/EIA/ECON.
7.1 46C427L/COMP – Cyflwyno Cynllun Grŵp Cyswllt Cymunedol er mwyn cydymffurfio â Thelerau Cytundeb a nodir yn Atodlen 8, Adran 7 a Chynllun Tir Mynediad Cyhoeddus Penrhos fel y nodir yn Atodlen 8, Adran 13.1 y Cytundeb Adran 106 sydd ynghlwm wrth gyfeirnod cynllunio 46C427K/TR/EIA/ECON yn Land and Lakes, Parc Arfordirol Penrhos, Caergybi
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn ymwneud â chyflawni rhwymedigaethau Cytundeb Adran 106 a oedd ynghlwm wrth ganiatâd cais a oedd yn cyd-fynd ag Asesiad Effaith Amgylcheddol. Fe’i cyfeiriwyd felly at y Pwyllgor i'w benderfynu yn unol â pharagraff 3.5.3.10 o'r Cyfansoddiad. Yng nghyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 5 Ebrill, 2023 penderfynwyd gohirio ystyried y cais.
Siaradwr Cyhoeddus
Siaradodd Mrs Hilary Paterson-Jones fel gwrthwynebydd i'r cais a dywedodd fod dros 16,000 o bobl sy'n gwrthwynebu'r cynlluniau Land & Lakes ar gyfer Penrhos yn dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae goblygiadau difrifol i gymuned Ynys Gybi ac Ynys Môn os caniateir torri cymaint o goed, Penrhos yw'r unig goetir sydd gennym. O ganlyniad i ddatblygwyr yn torri coedwigoedd mae tua hanner bywyd anifeiliaid a phlanhigion Cymru wedi diflannu. Rydym mewn Argyfwng Natur. Canfu Cyfoeth Naturiol Cymru fod 6,200 o rywogaethau mewn perygl - mae 3,902 dan fygythiad o ddiflannu, yn benodol yng Nghymru yn ystod y blynyddoedd nesaf. Ers COP15 mae Llywodraeth Cymru wedi ychwanegu ei llais dros warchod a rheoli cynefinoedd gwerthfawr fel Penrhos. Mae newidiadau i Bolisi Cynllunio Cymru 6.4 ar wytnwch ecosystemau, coed, coetiroedd ac AHNE wedi cael eu cryfhau. Gofynnwch i chi'ch hun a fydd y budd hwn yn digwydd ym Mhenrhos? Hynny yw, a fydd y canlyniad yn well na'r sefyllfa gychwynnol ar gyfer rhywogaethau ar ôl torri bron i 30 erw o hen goed a choed hynafol? Er bod gan Gymru gynllun gweithredu adfer natur, eto i gyd rydych chi'n caniatáu i ddatblygwyr amharchu tirwedd treftadaeth Cymru i wneud lle i 500 o gabanau, archfarchnadoedd, bariau, bwytai a phwll nofio trofannol a gosod concrid ar rannau o goetir ar gyfer bron i 1,000 o geir! Mae gennym dystiolaeth sy’n dangos yr amser a’r dyddiad sy’n profi nad yw gwaith datblygu wedi dechrau yn gyfreithlon gan Land & Lakes ar gyfer eu pentref Hamdden o'r Radd Flaenaf. Nid yw'r gwaith wedi dechrau o fewn yr amser a nodir ar y caniatâd, felly mae’r caniatâd wedi dod i ben, fel y diffinnir yn y Deddf Cynllunio Gwlad a Thref, sef gosod sylfeini, creu neu adeiladu ffordd a newid sylweddol i adeilad neu dir. Honnir bod y Beili yn 'Ganolfan Ymwelwyr', mae gennym dystiolaeth ffotograffig bod arwyddion yn dal i ddangos bod yr adeilad yn parhau i fod yn 'Glwb Criced Caergybi. Tynnodd Land & Lakes garped o'r ystafell, a symudwyd cadeiriau/meinciau i'r naill ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7. |
|
Ceisiadau Economaidd Dim i’w hysteriad gan y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafodd yr un eu hystyried yn y cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
Ceisiadau am Dy Fforddiadwy Dim i’w hysteriad gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafodd yr un eu hystyried yn y cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 10.1 FPL/2023/43 – Cais ôl-weithredol ar gyfer codi annedd newydd ynghyd â chreu mynedfa newydd i gerbydau ar dir ger 27 Zealand Park, Caergeiliog, Caergybi
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cynnig yn groes i bolisïau Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Ynys Môn a Gwynedd ond yn un y mae'r Awdurdod Cynllunio Lleol yn ystyried y dylid ei ganiatáu.
Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod yr egwyddor o ddatblygiad preswyl ar y safle eisoes wedi'i sefydlu drwy ganiatâd cynllunio 32C192 a 32C192A. Mae Tystysgrif Cyfreithlondeb wedi'i chyhoeddi sy'n cadarnhau bod y gwaith wedi dechrau ar y cynnig sydd wedi sicrhau'r caniatâd. Cais yw hwn i ddiwygio dyluniad yr eiddo a gymeradwywyd a fydd 700mm yn uwch na'r hyn a gymeradwywyd yn flaenorol a gydag ôl troed ychydig yn uwch. Er bod yr annedd a gymeradwywyd yn flaenorol yn debyg i'r tri eiddo a ddatblygwyd yn ddiweddar yr ochr arall i’r llwybr mynediad, bydd y cynnig presennol yn parchu graddfa a chymeriad yr eiddo cyfagos sy’n rhannu ffin â’r eiddo dan sylw tua gogledd y safle. Dywedodd ymhellach fod 4 llythyr o wrthwynebiad wedi'u derbyn gan ddeiliaid dau eiddo cyfagos, ni ystyrir y bydd y cynnig yn effeithio ar amwynderau'r eiddo cyfagos. Mae'r cais yn groes i bolisi cynllunio TAI 4 o'r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd, ond mae sefyllfa wrth gefn yn bodoli gan fod y caniatâd eisoes wedi’i roi.
Cynigiodd y Cynghorydd T Ll Hughes MBE y dylid cymeradwyo'r cais. Eiliodd y Cynghorydd Dafydd Roberts y cynnig.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad ysgrifenedig. |
|
Cynigion Datblygu a Gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion Dim i’w hysteriad gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafodd yr un eu hystyried yn y cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
12.1 – FPL/2023/49 - Canolfan Addysg Y Bont, Ffordd Clidwrn, Llangefni
12.2 – FPL/2023/38 - Ysgol Gynradd Bodorgan Primary School, Bodorgan
12.3 – HHP/2023/51 – Lancefield, Ffordd Cynlas, Benllech
12.4 – ADV/2023/6 - Twr Gwylio Amlwch
12.5 – MAO/2023/2 - Tir ger Stad Bryn Glas, Brynsiencyn
12.6 – FPL/2022/219 - 1, Lon Deg, Caergybi Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 12.1 FPL/2023/49 – Cais llawn i gadw’r adeilad parod ar y tir dros dro am 5 mlynedd ychwanegol, er mwyn darparu dwy ystafell ddosbarth a thoiledau ar gyfer disgyblion yng Nghanolfan Addysg y Bont, Ffordd Cildwrn, Llangefni
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y tir yn eiddo i'r Cyngor.
Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu mai cais yw hwn i gadw adeilad parod ar y tir dros dro am 5 mlynedd ychwanegol er mwyn darparu dwy ystafell ddosbarth a thoiledau ar gyfer disgyblion yng Nghanolfan Addysg y Bont. Yn wreiddiol, gofynnwyd am yr adeilad parod er mwyn cwblhau gwaith cynnal a chadw hanfodol a helaeth ar y to yn Ysgol y Bont. Roedd yr adeilad parod yn golygu fod disgyblion yn gallu parhau i gael mynediad at gymaint â phosib o ddysgu wyneb yn wyneb tra bod y gwaith hanfodol yn mynd rhagddo. Mae'r gwaith hanfodol i'r to bellach wedi'i gwblhau, fodd bynnag, mae'r Adran Eiddo wedi gofyn am gadw'r adeilad parod ar y tir am 5 mlynedd ychwanegol tra bydd niferoedd disgyblion yn cael eu monitro a thra ymchwilir i atebion hirdymor i ddarparu lle ychwanegol yn yr ysgol. Ni ystyrir bod y cynnig yn cael unrhyw effaith ar yr ardal gan ei fod wedi'i leoli o fewn cwrtil yr ysgol ac nid yw'n gyfagos i eiddo preswyl.
Gan siarad fel Aelod Lleol, dywedodd y Cynghorydd Nicola Roberts fod angen dybryd am yr adeilad parod gan fod yr ysgol dros ei chapasiti.
Cynigiodd y Cynghorydd Geraint Bebb y dylid cymeradwyo'r cais. Eiliodd y Cynghorydd Alwen Watkin y cynnig.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.2 FPL/2023/38 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd yr hen ysgol gynradd i ganolfan gymunedol yn Ysgol Gynradd Bodorgan, Bodorgan
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod safle'r cais yn eiddo i'r Awdurdod Lleol.
Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod y cais ar gyfer newid defnydd yr hen ysgol gynradd i fod yn ganolfan gymunedol. Dywedodd fod 24 llythyr o gefnogaeth ar gyfer y cais wedi dod i law gyda 2 lythyr o wrthwynebiad. Roedd yn awyddus i newid adroddiad y Swyddog gan fod Cyngor Cymuned Bodorgan wedi ymateb yn ystod y broses ymgynghori ac wedi nodi bod ganddynt bryderon ynghylch y diffyg gwybodaeth am y cais, y dilysrwydd o ran pwy yw'r ymgeisydd, y ffaith bod yr adeilad yn llaith, nad oes adroddiadau trydan a diogelwch tân wedi’u cyflwyno, diffyg adroddiad strwythurol, materion traffig a pharcio. Hefyd ni chyflwynwyd unrhyw arolwg ecolegol ac roedd materion yn ymwneud â phrydlesu'r adeilad. Fodd bynnag, cais yw hwn ar gyfer newid defnydd yr adeilad ac nid oes angen y materion a godwyd ar gyfer cais o'r fath. Dywedodd fod y Swyddog Ecoleg wedi dweud nad oes angen arolwg ecolegol ac nad oes angen adroddiad strwythurol gan y bydd yr adeilad presennol yn cael ei ddefnyddio. Nid yw materion tân a thrydan yn faterion cynllunio gan eu ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12. |
|
Materion Eraill Dim i’w hysteriad gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafodd yr un eu hystyried yn y cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|