Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fel y nodir uchod.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem of fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

 

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 255 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gafwyd ar 7 Mehefin, 2023.                                                                                  

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawyd bod cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion, a gynhaliwyd ar 7 Mehefin 2023, yn gofnod cywir, yn amodol ar gywiro’r cofnod ar gyfer cais 12.1 yn y cofnodion Cymraeg i nodi mai’r Cynghorydd Geraint Bebb a gynigiodd y dylid caniatáu argymhelliad a bod y Cynghorydd Liz Wood wedi eilio’r cynnig.

 

4.

Ymweliadau Safle

Dim wedi ei gynnal.  

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chynhaliwyd yr un ymweliad safle.

 

5.

Siarad Cyhoeddus

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd siaradwyr cyhoeddus mewn perthynas â chais 7.1.

 

6.

Ceisiadau fydd yn cael eu Gohirio

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd dim i’w ystyried yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

7.

Ceisiadau yn Codi pdf eicon PDF 1 MB

7.1 – HHP/2023/51 – Lancefield, Ffordd Cynlas, Benllech

HHP/2023/51

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

7.1  HHP/2023/51 – Cais llawn ar gyfer dymchwel y garej bresennol ynghyd ag adeiladu anecs deulawr yn Lancefield, Ffordd Cynlas, Benllech

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol ar sail gorddatblygu’r safle ac effaith andwyol ar fwynderau eiddo cyfagos. Yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 3 Mai 2023, penderfynwyd cynnal ymweliad safle corfforol a chynhaliwyd yr ymweliad safle ar 17 Mai 2023. Derbyniwyd cynlluniau ychwanegol a newidiadau i’r cynlluniau arfaethedig mewn perthynas â’r cais ar 15 Mai 2023 ac fe’u dosbarthwyd i’r Aelodau Lleol ac Aelodau’r Pwyllgor yn ystod yr ymweliad safle. Ail ymgynghorwyd ar y cais ar 17 Mai 2023 ac, yn y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 7 Mehefin 2023, argymhellwyd gohirio’r cais yn ystod y cyfnod ymgynghori cyn cyflwyno adroddiad llawn yng nghyfarfod y Pwyllgor ym mis Gorffennaf 2023.

 

Siaradwyr Cyhoeddus

 

Dywedodd Mrs Andrea Thorburn, a oedd yn gwrthwynebu’r cais, ei bod yn gwrthwynebu’r cais i adeiladu anecs yn Lancefield, Ffordd Cynlas, Benllech. Dywedodd fod y penseiri eu hunain wedi datgan fod y ffenestr llawr cyntaf ar y drychiad de ddwyrain yn tarfu ar breifatrwydd ei hystafell wely. Mae’r pensaer yn cynnig y bydd ffens 2.2m o uchder yn atal y goredrych ac mae’r swyddfa gynllunio’n cytuno â’r canfyddiad hwn ond mae lluniad D918.09 fersiwn C strydlun yn dangos fod y wybodaeth hon yn anghywir ac yn gwbl gamarweiniol. Yn ogystal, mae’r lluniad yn dangos ffenestr yr ystafell wely yn y lle anghywir ac yn is nag y dylai fod gan olygu fod y wybodaeth yn anghywir. Mae lluniad D918.10 hefyd yn dangos y ffens 2.2m o uchder a fyddai’n cael ei hadeiladu ac a ddylai atal goredrych ac mae’n uwch na’r caniatâd y gofynnwyd amdano. Ychwanegodd ei bod wedi adeiladu ffens 2.2m o uchder i ganfod a yw’r ffens yn addas i bwrpas ond mae hyn wedi cadarnhau na fydd y ffens yn atal goredrych. Mae’r garej unllawr presennol sy’n 3m o uchder i’w gweld yn glir uwchben llinell y ffens. Gofynnodd i’r pwyllgor cynllunio ystyried a fyddai adeiladu ffens yn amddiffyn ei phreifatrwydd a ph’un ai yw’r cais cynllunio’n gywir; y rheswm am hyn yw bod y swyddfa gynllunio, ar 4 Mai 2023, wedi rhoi cyfarwyddyd i’r pensaer ailgyflwyno’r lluniadau gan fod y wybodaeth ynghylch y ffens yn gamarweiniol. Fodd bynnag, y diwrnod cynt, sef 3 Mai 2023, roedd y swyddfa gynllunio wedi cyhoeddi ei ganfyddiadau a oedd yn datgan y byddai’n caniatáu’r cais ac roeddent wedi derbyn y wybodaeth anghywir er gwaethaf ei gwrthwynebiadau cyson. Nid yw lleoliad y cais hwn wedi newid ac mae’n cynnwys gwybodaeth anghywir am y ffens derfyn. Dywedodd fod ei Chyfreithiwr wedi ei chynghori i hysbysu’r pwyllgor y bydd Cyngor Môn yn gyfrifol am dalu iawndal am dresmasu a niwsans os bydd caniatâd yn cael ei roi i’r anecs ac os na fydd y ffens yn atal goredrych. Mae’r swyddfa gynllunio wedi datgan hefyd y gellir gweld i mewn i’w hystafell wely o Lancefield yn  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Ceisiadau Economaidd

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau economaidd yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

9.

Ceisidadau am Dy Fforddiadwy

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau economaidd yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

10.

Ceisiadau’n Gwyro pdf eicon PDF 487 KB

10.1 – VAR/2023/18 – Gwynfryn Lodge, Rhoscolyn

VAR/2023/18

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

10.1  VAR/2023/18 – Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (01) o gais cynllunio rhif 43C54G/VAR (codi annedd) er mwyn caniatáu 5 mlynedd pellach i gychwyn y datblygiad yn Gwynfryn Lodge, Rhoscolyn

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn gwyro oddi wrth y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ond mae’r Awdurdod Cynllunio Lleol yn argymell ei ganiatáu.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod caniatâd cynllunio wedi’i roi yn 1992 ar gyfer adeiladu annedd ar y safle. Yn 2012, caniatawyd tystysgrif cyfreithlondeb i sicrhau’r caniatâd gan fod gwaith sylweddol wedi cychwyn yn barod ar yr eiddo. Yn dilyn hynny, caniatawyd dyluniad diwygiedig yn 2013 ac yn 2018 rhoddwyd caniatâd i ymestyn y caniatâd am 5 mlynedd arall. Nododd fod hwn yn gais i ymestyn oes y caniatâd ac na fu newidiadau sylweddol i’r cyd-destun polisi o ran dyluniad i’r fath raddau y byddai’r adran yn dod i wahanol gasgliad. Yr argymhelliad oedd caniatáu’r cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes MBE fod y cais yn cael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y Swyddog. Eiliwyd y cynnig i ganiatáu gan y Cynghorydd John I Jones.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

11.

Cynigion Datblygu gan Gynghorwyr a Swyddogion

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

12.

Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 3 MB

12.1 – VAR/2023/33 – Ysgol y Graig, Llangefni

VAR/2023/33

 

12.2 – VAR/2023/8 – Plas Alltran, 3 Ffordd Turkey Shore, Caergybi

VAR/2023/8

 

12.3 – LBC/2023/9  - Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch

LBC/2023/9

 

12.4 – FPL/2022/264 – Ty’n Cae, Rhostrewhwfa

FPL/2022/264

 

12.5 - HHP/2023/59 – Pebbles, Trigfa, Moelfre

HHP/2023/59

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

12.1  VAR/2023/33 – Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (18) (Tirlunio) a (20) (Llwybrau Troed) o ganiatâd cynllunio rhif FPL/2021/361 (Cais llawn ar gyfer codi uned cyfnod sylfaen ac uned gofal plant newydd, man chwarae allanol a maes parcio ynghyd â gwaith cysylltiedig) er mwyn caniatáu gwybodaeth mewn perthynas ag amod (18) ar ôl i waith gychwyn ar y safle a chaniatáu newid geiriad amod (20) i ganiatáu cyflwyno gwybodaeth cyn cychwyn gwaith ar lwybrau ar dir ger Ysgol y Graig Llangefni

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn gais a gyflwynwyd gan yr Awdurdod Lleol.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod hwn yn gais o dan Adran 73 i amrywio amod (18) (Tirlunio) a (20) (Llwybrau i Gerddwyr) o gais cynllunio rhif FPL/2021/361 a ganiatawyd ym mis Gorffennaf y llynedd. Roedd amod (18) yn datgan bod rhaid i’r ymgeisydd ddarparu tirlunio caled a meddal, gan gynnwys gwybodaeth am ba goed fyddai’n cael eu cadw, ynghyd â mesurau gwarchod coed ar gyfer eu hamddiffyn tra bod gwaith yn mynd rhagddo ar y datblygiad, cyn cychwyn gwaith ar y safle. Fodd bynnag, mae gwaith wedi cychwyn ar y safle heb ryddhau’r amod yn ffurfiol. Mae’r ymgeisydd wedi darparu manylion tirlunio llawn fel rhan o’r cais hwn, ynghyd â manylion am ba goed fydd yn cael eu cadw. Mae’r manylion yn cynnwys Ffens Heras hefyd i Amddiffyn Gwreiddiau Coed er mwyn sicrhau fod y coed yn cael eu hamddiffyn tra bod y datblygiad yn mynd rhagddo. Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod Amod (20) yn datgan fod rhaid cyflwyno manylion llawn y llwybrau cyswllt i gerddwyr a’u cymeradwyo’n ysgrifenedig cyn cychwyn gwaith ar y safle, ond, serch hynny, mae gwaith wedi cychwyn heb ryddhau’r amod yn ffurfiol. Mae’r ymgeisydd wedi gofyn am gael newid geiriad yr amod er mwyn cyflwyno manylion llawn y llwybrau cyswllt i gerddwyr i’r Awdurdod Cynllunio Lleol, a derbyn cymeradwyaeth ysgrifenedig ganddo, cyn cychwyn gwaith ar y llwybrau. Dywedodd hefyd fod y wybodaeth tirlunio a gyflwynwyd gyda’r cais cynllunio yn bodloni gofynion Amod (18) ac ystyrir y byddai’n briodol hefyd newid geiriad Amod (20) i ganiatáu mwy o amser i’r ymgeisydd gyflwyno gwybodaeth am lwybrau cyswllt i gerddwyr cyn cychwyn gwaith ar y llwybrau.

 

Cynigodd y Cynghorydd Geraint Bebb fod y cais yn cael ei ganiatáu yn unol ag argymhelliad y Swyddog. Eiliwyd y cynnig i ganiatáu gan y Cynghorydd Robin Williams.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.2  VAR/2023/8 – Cais o dan Adran 73 i amrywio amod (07) (Cynlluniau a Gymeradwywyd) o ganiatâd cynllunio rhif FPL/2021/1 (newid defnydd adeilad rhestredig yn 4 fflat tai cymdeithasol ynghyd ag addasiadau ac estyniadau) er mwyn newid y dyluniad ym Mhlas Alltran, 3 Ffordd Turkey Shore, Caergybi

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn gais a gyflwynwyd gan yr Awdurdod Lleol.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod caniatâd cynllunio wedi’i roi i newid defnydd  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12.

13.

Materion Eraill

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.