Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fel y nodir uchod.

 

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 99 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, cofnodion blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 5 Gorffennaf, 2023.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 5 Gorffennaf, 2023 eu cadarnhau yn gofnod cywir ar yr amod y byddid diwygio pwynt 12.3 Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch mai’r Cynghorydd Neville Evans eiliodd y cynnig ac nid y Cynghorydd Dafydd Roberts.

 

4.

Ymweliad Safleoedd pdf eicon PDF 410 KB

Cyflwyno cofnodion yr ymweliadau safle Cynllunio a gynhaliwyd ar 19 Gorffennaf, 2023.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion yr ymweliadau safle a gynhaliwyd ar 19 Gorffennaf yn gofnod cywir.

 

5.

Siarad Cyhoeddus

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd siaradwr cyhoeddus ar gyfer cais 7.3.

 

6.

Ceisiadau fydd yn cael eu gohirio

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid ystyriwyd dim yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

7.

Ceisiadau'n Codi pdf eicon PDF 2 MB

7.1 – HHP/2023/51 – Lancefield, Ffordd Cynlas, Benllech

HHP/2023/51

 

7.2 – FPL/2022/264 – Ty’n Cae, Rhostrewhwfa

FPL/2022/264

 

7.3 - HHP/2023/59 – Pebbles, Trigfa, Moelfre

HHP/2023/59

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

7.1  HHP/2023/51 – Cais llawn i ddymchwel y modurdy presennol ynghyd â chodi anecs deulawr yn Lancefield, Ffordd Cynlas, Benllech, Tynygongl.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol gan ei fod yn orddatblygiad o’r safle ac yn cael effaith andwyol ar fwynderau cyfagos. Yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 3 Mai 2023, penderfynwyd ymweld â’r safle yn y cnawd ac, yn sgil hynny, ymwelwyd â’r safle ar 17 Mai, 2023. Derbyniwyd cynlluniau ychwanegol a diwygiadau i’r cynlluniau arfaethedig yn ymwneud â’r cais ar 15 Mai, 2023 ac fe’u dosbarthwyd i Aelodau Lleol ac aelodau’r Pwyllgor yn ystod yr ymweliad. Cynhaliwyd ailymgynghoriad ar 17 Mai, 2023 ac

argymhellwyd y dylid gohirio’r cais yn ystod y cyfnod ymgynghori a chyflwyno adroddiad llawn i gyfarfod 5 Gorffennaf 2023 o’r Pwyllgor. Yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Gorffennaf 2023, penderfynodd y Pwyllgor wrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog gan yr ystyriwyd bod y cais yn orddatblygiad o’r safle; ei fod yn edrych drosodd ar yr eiddo cyfagos a bod ymateb Cyfoeth Naturiol Cymru i’r ymgynghoriad yn anghywir gan ei fod yn dangos ar eu mapiau perygl llifogydd bod yr annedd mewn ardal lle ceid perygl llifogydd.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio y byddai’n rhoi sylw i’r rhesymau dros wrthod y cais, yn groes i argymhelliad y Swyddog, yn y cyfarfod blaenorol. Dywedodd fod safle'r cais ym mharth llifogydd C2 y Mapiau Cyngor Datblygu. Fodd bynnag, roedd y cais a gyflwynwyd yn ‘Gais gan Ddeiliad Tŷ’ am Ganiatâd Cynllunio am waith neu estyniad i annedd’. Ni fyddai Cyfoeth Naturiol Cymru yn cyflwyno sylwadau ar berygl llifogydd pan oedd yn ymgynghori ar geisiadau ‘deiliaid tai’ oni bai y câi effaith uniongyrchol ar gwrs dŵr. Gan fod tŷ a modurdy presennol ar y safle ac mai cais i ymestyn y tŷ presennol hwnnw oedd y cais, trwy ddymchwel y modurdy a chreu anecs, nid oedd risg ychwanegol o lifogydd. Roedd y fersiwn ddiweddaraf o NCT15 yr ymgynghorwyd arno rhwng Ionawr ac Ebrill, 2023 yn nodi ym mharagraff 14.7 ‘na ddylai ceisiadau am estyniadau neu addasiadau mewn ardaloedd perygl llifogydd godi materion arwyddocaol oni bai eu bod yn debygol o gael effaith uniongyrchol neu amrywiol ar gwrs llifogydd neu ei hamddiffynfeydd rhag llifogydd'. Gan mai cais i godi anecs oedd yn atodol i'r tŷ presennol oedd hwn, ni fyddai’n cael effaith uniongyrchol ar y cwrs dŵr, ni fyddai'n amharu ar fynediad i amddiffynfeydd llifogydd ac ni fyddai'n cael effaith gronnol ar gapasiti storio llifogydd. Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio nad oedd hwn yn rheswm dilys dros wrthod y cais gan nad oedd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi codi unrhyw bryderon a bod perygl, pe câi’r cais ei wrthod, y byddai’n rhaid talu costau yn ymwneud ag apêl

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio at yr ail reswm a roddwyd dros wrthod y cais yn y cyfarfod diwethaf mewn perthynas â gorddatblygu'r safle ac nad oedd yn gweddu i'r stryd breswyl. Dywedodd fod y bwriad yn adeilad modern,  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Ceisiadau Economaidd

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid ystyriwyd dim yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

9.

Ceisiadau am Dy Fforddiadwy

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid ystyriwyd dim yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

10.

Ceisiadau'n Gwyro

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid ystyriwyd dim yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

11.

Cynigion datblygu a gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid ystyriwyd dim yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

12.

Gweddill y Ceisiadau

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid ystyriwyd dim yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

13.

Materion Eraill

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid ystyriwyd dim yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.