Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM
Cyswllt: Ann Holmes / Mairwen Hughes 01248 752518
Rhif. | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: |
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 26 Gorffennaf, 2023. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd cadarnhau cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd 26 Gorffennaf 2023 fel cofnod cywir. |
|
Ymweliadau Safle Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni ystyriwyd dim yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. |
|
Siarad Cyhoeddus Dogfennau ychwanegol: |
|
Ceisiadau Fydd yn Cael eu Gohirio Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni ystyriwyd dim yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. |
|
Ceisiadau'n Codi Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni ystyriwyd dim yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. |
|
Ceisiadau Economaidd Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni ystyriwyd dim yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. |
|
Ceisiadau am Dy Fforddiadwy Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni ystyriwyd dim yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
10.1 VAR/2023/37 – Yr Erw, Llansadwrn
10.2 FPL/2023/23 – Bryn Tawel, Ty Croes
10.3 VAR/2023/15 – Llain Capelulo, Pentre Berw
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: 10.1 VAR/2023/37 – Cais dan Adran 73A i ddiwygio amod (09) (Cynlluniau cymeradwy) o ganiatâd cynllunio rhif VAR/2019/32 (codi annedd) er mwyn caniatau diwygiad i'r dyluniad yn Yr Erw, Llansadwrn.
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad ysgrifenedig.
10.2 FPL/2023/23 – Cais llawn ar gyfer codi garej ar wahân ynghyd â newidiadau i'r cynllun a gymeradwywyd dan gyfeirnod cais cynllunio 28C257B/DA yn Bryn Tawel, Ty Croes
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad ysgrifenedig.
10.3 VAR/2023/15 – Cais dan Adran 73 ar gyfer amrywio amod (06) (Cynlluniau wedi eu cymeradwyo) o ganiatâd cynllunio cyfeirnod VAR/2018/14 (Codi 3 annedd ar blotiau 8,9 a 10) er mwyn diwygio’r lleoliad a chyfeiriad y 3 annedd yn Llain Capelulo, Pentre Berw, Gaerwen
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad ysgrifenedig ac ar yr amod na fyddai unrhyw gynrychiolaethau newydd yn cael eu gwneud cyn diwedd y cyfnod ail ymgynghori ar 8 Medi 2023. |
|
Cynigion Datblygu a gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni ystyriwyd dim yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. |
|
12.1 FPL/2022/186 – Esgobaeth Bran, Llanbedrgoch
12.2 FPL/2023/177 - Canolfan Hamdden Plas Arthur, Llangefni
12.3 FPL/2022/296 – The Lodge, Ffordd yr Ysgol, Llanddaniel
12.4 FPL/2023/143 – Ysgol Gymuned Y Fali, Lon Spencer, Valley
12.5 FPL/2023/155 – Llwyn Onn, Llanfairpwll
12.6 VAR/2023/36 – Stad y Felin, Llanfaelog
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: 12.1 FPL/2022/186 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd tir amaethyddol i faes carafan teithiol, newid defnydd yr adeilad allanol presennol i ddefnydd ategol i'r maes carafan ynghyd a gosod system trin carthffosiaeth yn Esgobaeth Bran, Llanbedrgoch
Penderfynwyd cynnal ymweliad safle ffisegol yn unol â chais yr Aelod Lleol am y rheswm a roddwyd.
12.2 FPL/2023/177 – Cais llawn ar gyfer amnewid y llifoleuadau presennol ar y cae synthetig yng Nghanolfan Hamdden Plas Arthur, Llangefni
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.3 FPL/2022/296 – Cais llawn am godi paneli solar arae yn cynnwys dwy res o 20 panel solar yn The Lodge, Ffordd yr Ysgol, Llanddaniel
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.4 FPL/2023/143 – Cais llawn ar gyfer adeilad modiwlaidd newydd ar gyfer gofal plant yn Ysgol Gymuned Y Fali, Lôn Spencer, Y Fali
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.5 FPL/2023/155 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd adeilad allanol i uned gwyliau ynghyd a gwaith cysylltiedig yn Llwyn Onn, Llanfairpwll
Penderfynwyd cynnal ymweliad safle ffisegol yn unol â chais yr Aelod Lleol am y rheswm a roddwyd.
12.6 VAR/2023/36 – Cais dan Adran 73 i ddiwygio amod (05)(Gosodiad y ffordd a goleuadau stryd) o caniatâd cynllunio rhif FPL/2020/149 (codi 8 annedd fforddiadwy ynghyd a creu mynedfa cerbydau newydd ac datblygiadau cysylltiedig) er mwyn newid yr amod cyn dechrau ar y gwaith i amod cyn i rywun ddechrau byw yn yr annedd ar dir yn Stad y Felin, Llanfaelog
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad ysgrifenedig ac ar yr amod fod yr ymgeisydd yn llofnodi cytundeb Adran 106 newydd. |
|
13.1 Land and Lakes, Parc Arfordirol Penrhos, Caergybi
13.2 Gorchymyn Rheoleiddio Traffig – Cemaes
13.3 Gorchymyn Rheoleiddio Traffig – Rhostrehwfa Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: 13.1 Land and Lakes Ltd
Penderfynwyd cefnogi’r safbwynt fel y manylwyd yn adroddiad y Swyddog.
13.2 Gorchymyn Rheoleiddio Traffig – Cemaes
Penderfynwyd –
· Cymeradwyo’r cynigion yn unol â’r gorchmynion a chynlluniau a gyflwynwyd a · Cytuno bod hyd y ffordd rhwng ystâd Gwelfor a chylchfan yr A5025 yn cadw’r cyfyngiad o 30mya fel y nodwyd yn y Gorchymyn drafft, ac i gadarnhau’r gorchymyn drafft hwn a’r gorchmynion drafft eraill yn yr adroddiad.
13.2 Gorchymyn Rheoleiddio Traffig – Rhostrehwfa
Penderfynwyd cymeradwyo’r cynnig yn unol a’r Gorchmynion a’r cynlluniau a gyflwynwyd, ac I’r Awdurdod barhau i gymeradwyo’r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig a chynlluniau.
|