Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion - Cyfarfod Hybrid - Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM, Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion - Dydd Mercher, 1af Tachwedd, 2023 1.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM

Cyswllt: Ann Holmes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr John I. Jones, R. Llewelyn Jones, Jackie Lewis, ac Alwen Watkin.

 

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o funes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb.

 

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 283 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 4 Hydref, 2023.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 4 Hydref, 2023 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

 

4.

Ymweliad Safleoedd

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafodd yr un ymweliad ei ystyried gan y cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchymyn.

 

5.

Siarad Cyhoeddus

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd Siaradwyr Cyhoeddus mewn perthynas â cheisiadau 12.6 a 12.9.

 

6.

Ceisiadau fydd yn cael eu gohirio

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafodd yr un ei ystyried yn ystod y cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchymyn.

 

7.

Ceisiadau'n Codi pdf eicon PDF 336 KB

7.1 – FPL/2022/186 – Esgobaeth Bran, Llanbedrgoch

FPL/2022/186

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

7.1 FPL/2022/186 – Change of use of agricultural land into touring caravan park, change of use of existing building to use ancillary to the caravan park together with the installation of a package treatment plant at Esgobaeth Bran, Llanbedrgoch.

 

The application was withdrawn.

 

8.

Ceisiadau Economaidd

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafodd yr un ei ystyried yn ystod y cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchymyn.

 

9.

Ceisiadau am Dy Fforddiadwy

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafodd yr un ei ystyried yn ystod y cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchymyn.

 

10.

Ceisiadau'n Gwyro

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafodd yr un ei ystyried yn ystod y cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchymyn.

 

11.

Cynigion Datblygu a gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafodd yr un ei ystyried yn ystod y cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchymyn.

 

12.

Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 5 MB

12.1 – DIS/2023/17 – Cyn Safle Roadking, Parc Cybi, Caergybi

DIS/2023/17

 

12.2 – VAR/2022/71 - Cyn Safle Roadking, Parc Cybi, Caergybi

VAR/2022/71

 

12.3 – FPL/2023/61 – Taldrwst, Lon Fain, Dwyran

FPL/2023/61

 

12.4 – FPL/2023/42 – Treiddon, Ffordd y Traeth, Porthaethwy

FPL/2023/42

 

12.5 – FPL/2023/235 – Cyngor Sir Ynys Môn, Llangefni

FPL/2023/235

 

12.6 – VAR/2023/59 – Safle Carafannaau Teithio Bryn Goleu, Bryngwran

VAR/2023/59

 

12.7 – VAR/2023/41 - A5025 rhwng y Gyffordd ar yr A5 i’r Dwyrain o’r Fali i’r Orsaf Bwer yng Nghemaes

VAR/2023/41

 

12.8 – VAR/2023/40 – Stad y Bryn, Llanfaethlu

VAR/2023/40

 

12.9 – FPL/2021/124 – Bodwina Bellaf, Gwalchmai

FPL/2021/124

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

12.1 DIS/2023/17 – Cais i ryddhau amod (16) (asesiad risg) o gais cynllunio FPL/2021/337 (cais llawn ar gyfer adeiladu Cyfleuster Ffiniau Mewndirol (IBF) yn Hen Safle Roadking, Stop Tryciau, Parc Cybi, Caergybi

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai cais ydyw i ryddhau amod a osodwyd gan y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion wrth benderfynu ar gais cynllunio rhif FPL/2021/337- Cais llawn ar gyfer adeiladu Cyfleuster Ffin Mewndirol (IBF) yn yr hen safle Roadking, Stop Tryciau, Parc Cybi, Caergybi.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod amod (16) yn ei gwneud yn ofynnol i'r ymgeisydd gyflwyno asesiad risg gan gynnwys mesurau lliniaru pe na fyddai’r safle’n gallu cynnal y gwiriadau gofynnol neu pe na fyddai’r safle’n gallu gweithredu oherwydd bod rhaid cau’r safle’n annisgwyl. Mae'r manylion a gyflwynwyd wedi cael eu hanfon ymlaen i'r Adran Briffyrdd ac i Adran yr Economi a Seilwaith Llywodraeth Cymru ac nid oedd unrhyw wrthwynebiad. Felly, ystyrir bod y wybodaeth a dderbyniwyd yn ddigonol i ryddhau amod (16) (asesiad risg/mesurau lliniaru).

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylid cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Geraint Bebb.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog gan felly ryddhau amod (16).

 

12.2 VAR/2022/71 – Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (15) (arolwg cyflwr ar gyfer graddau'r ffyrdd ymuno/ymadael) o ganiatâd cynllunio rhif FPL/2021/337 (Cais llawn ar gyfer adeiladu Cyfleuster Ffiniau Mewndirol (IBF) er mwyn caniatáu cyflwyno a chymeradwyo manylion yn dilyn cychwyn gwaith datblygu yn Hen Safle Roadking, Stop Tryciau, Parc Cybi, Caergybi

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn cael ei wneud o dan Adran 73 i amrywio cais FPL/2021/337 – Cais llawn ar gyfer adeiladu Cyfleuster Ffin Mewndirol (IBF) yn yr hen safle Roadking, Stop Tryciau, Parc Cybi, Caergybi a benderfynwyd gan y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Mawrth,  2022.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod amod (15) yn ei gwneud yn ofynnol i'r datblygwr o fewn 6 mis i ddyddiad y caniatâd fod wedi cyflwyno arolwg amod i'r Awdurdod Cynllunio Lleol ar gyfer y ffyrdd ymadael yng Nghyffordd 2 yr A55 i sicrhau nad oedd y datblygiad arfaethedig yn cael effaith andwyol ar y rhwydwaith priffyrdd ehangach. Gosodwyd yr amod hwn gan Adran Priffyrdd Llywodraeth Cymru ac er nad oedd y wybodaeth yn yr arolygon a ddarparwyd gan y datblygwr yn bodloni Priffyrdd Llywodraeth Cymru i ddechrau, yn dilyn trafodaethau pellach, codwyd y cyfarwyddyd atal a gyhoeddwyd gan Adran Priffyrdd Llywodraeth Cymru ac ni chodwyd unrhyw wrthwynebiad i ryddhau’r amod (15). Felly, mae'r Awdurdod Cynllunio Lleol yn fodlon y gellir amrywio'r amod yn unol â hynny a'r argymhelliad yw cymeradwyo'r cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylid cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Dafydd Roberts.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12.

13.

Materion Eraill

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafodd yr un ei ystyried yn ystod y cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchymyn.