Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion - Cyfarfod Hybrid - Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM, Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion - Dydd Mercher, 6ed Rhagfyr, 2023 1.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fel y nodwyd uchod.

 

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu i’r Cynghorydd John I Jones ddatgan diddordeb personol sy’n rhagfarnu mewn perthynas â chais 10.1.

 

Bu i’r Cynghorydd John I Jones ddatgan diddordeb personol mewn perthynas â chais 7.3.

 

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 197 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 1 Tachwedd, 2023.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 1 Tachwedd, 2023 fel cofnod cywir. 

 

4.

Ymweliad Safleoedd pdf eicon PDF 91 KB

Cyflwyno cofnodion yr Ymweliadau Safle a gynhaliwyd ar 15 Tachwedd, 2023.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion yr Ymweliadau Safle a gynhaliwyd ar 1 Tachwedd, 2023 fel cofnod cywir, yn amodol ar un diwygiad sef mai’r Arweinydd Tîm (Gwen Jones) oedd yn bresennol ac nid y Rheolwr Rheoli Datblygu. 

 

5.

Siarad Cyhoeddus

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd Siaradwyr Cyhoeddus mewn perthynas ag eitemau 7.2 ac 7.3.

 

6.

Ceisiadau fydd yn cael eu gohirio

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafodd yr un ei ystyried yn ystod y cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

7.

Ceisiadau'n Codi pdf eicon PDF 2 MB

7.1 – VAR/2023/59 – Safle Carafannaau Teithio Bryn Goleu, Bryngwran

VAR/2023/59

 

7.2 - FPL/2023/42 – Treiddon, Ffordd y Traeth, Porthaethwy

FPL/2023/42

 

7.3 - FPL/2023/61 – Taldrwst, Lon Fain, Dwyran

FPL/2023/61

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 7.1  VAR/2023/59 – Cais o dan Adran 73A i ddiwygio amod (04)(Defnydd tymhorol) o ganiatâd cynllunio rhif FPL/2021/30 (Cais llawn ar gyfer newid defnydd presennol safle Cartio Môn i fod yn safle carafanau teithiol â 20 llain ar gyfer carafanau teithiol ynghyd ag adeiladu ffordd breifat) er mwyn caniatáu defnydd drwy'r flwyddyn o'r safle fel maes carafanau teithiol yn Safle Carafanau Teithiol Bryn Goleu, Bryngwran

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.  Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 1 Tachwedd, 2023 penderfynodd y Pwyllgor gymeradwyo'r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog oherwydd ystyrid bod y cynnig yn unol â pholisi cynllunio TWR 5 gan nad yw'r polisi yn gwahardd defnydd penodol o safleoedd carafanau teithiol drwy gydol y flwyddyn.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu mai cais yw hwn ar gyfer amrywio amod (04) (Defnydd Tymhorol) i ganiatáu defnydd trwy'r flwyddyn o'r safle fel maes carafanau teithiol ar Safle Carafanau Teithiol Bryn Goleu, Bryngwran.  Dywedodd ei fod wedi pwysleisio yn y cyfarfod diwethaf, er nad yw polisi cynllunio TWR 5 yn gwahardd defnydd ar hyd y flwyddyn (fel arall byddai’r cais yn gwyro), bod yn rhaid sylweddoli mai defnydd tymhorol sydd wedi bod wrth graidd y polisi erioed.  Mae hyn yn cael ei ailadrodd yn y polisi, gyda theitl y polisi ‘llety carafanau teithiol, gwersylla a gwersylla dros dro amgen’

Mae defnydd parhaol/drwy gydol y flwyddyn yn cael ei ystyried dan bolisi TWR 3, nad yw’n cynnwys carafanau teithiol. Yn ogystal â hyn, mae meini prawf y polisi yn cyfeirio at y gallu i dynnu unedau oddi ar safleoedd y tu allan i’r tymor.  Mae meini prawf 3 o'r polisi yn nodi y dylid cyfyngu eu cysylltiad ffisegol â'r ddaear ac y dylai fod modd eu symud o'r safle yn nhymor y gaeaf (diwedd mis Hydref i ddechrau mis Mawrth).  Mae meini prawf 7 o'r polisi hefyd yn nodi y dylai'r safle fod ar gyfer defnydd carafanau teithiol yn unig ac y dylid symud unrhyw uned o'r safle pan nad yw'n cael ei defnyddio.  Mae paragraff 6.8.83 o'r Cynllun Datblygu Lleol hefyd yn nodi y ‘dylid symud unedau oddi ar y safle pan nad ydynt yn cael eu defnyddio ac yn ystod misoedd y gaeaf’.  Ystyrir bod polisi TWR3 yn nodi’n glir y dylid defnyddio'r safle ar gyfer defnydd tymhorol yn ystod misoedd y gwanwyn a'r haf yn unig.    Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu ymhellach, yn dilyn penderfyniad y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar 1 Tachwedd, 2023, fod perchnogion a gweithredwyr safleoedd carafanau eraill wedi cysylltu â'r Adran Gynllunio yn gofyn a fyddai’n bosibl iddynt newid i weithredu am 12 mis.  Byddai cymeradwyo'r cynllun hwn yn peri risg sylweddol o osod cynsail ar gyfer unrhyw geisiadau tebyg yn y dyfodol.  Mae'r cynllun yn groes i bolisi cynllunio TWR 5 y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ac nid oes unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill sy'n awgrymu bod unrhyw ddewis ond gwrthod y cais.  

 

Siaradodd y Cynghorydd G O Jones, Aelod Lleol o blaid y  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Ceisiadau Economaidd

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafodd yr un ei ystyried yn ystod y cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

9.

Ceisiadau am Dy Fforddiadwy

 

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafodd yr un ei ystyried yn ystod y cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

10.

Ceisiadau'n Gwyro pdf eicon PDF 640 KB

10.1 – FPL/2023/193 – Arwel, Llanddona

FPL/2023/193

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

10.1  FPL/2023/193 – Cais llawn i godi annedd ynghyd ag addasu'r fynedfa bresennol ar dir ger Arwel, Llanddona

 

(Ar ôl datgan diddordeb personol sy’n rhagfarnu mewn perthynas â’r cais, gadawodd y Cynghorydd John I Jones y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais).

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cynnig yn gais sy’n gwyro oddi wrth y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd y mae’n rhaid i Swyddogion ei ystyried.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod caniatâd amlinellol wedi'i roi ar gyfer codi annedd yn 1986 a chais materion wrth gefn yn 1988.  Ym mis Mai eleni, rhoddwyd Tystysgrif Defnydd Cyfreithlon i'r ymgeisydd gan ei fod wedi profi bod gwaith perthnasol wedi dechrau ar y safle a bod caniatâd wedi'i weithredu'n gyfreithlon.  Felly, mae caniatâd wedi’i ddiogelu ar y tir ar gyfer annedd.  Mae hwn yn gais ar gyfer newid dyluniad yr annedd o fyngalo dormer tair ystafell wely hyd at uchder o 7.4m i annedd ddeulawr gyda phedair ystafell wely gydag uchder o 7.6m.  Bydd y cynnig yn fwy ac ychydig yn uwch na'r hyn a gymeradwywyd yn flaenorol ac oherwydd yr amrywiaeth o wahanol arddulliau o eiddo yn yr ardal gyfagos, ni ystyrir y bydd yn effeithio ar yr ardal gyfagos nac eiddo cyfagos na'r caniatâd wedi’i ddiogelu a gymeradwywyd yn flaenorol.  Mae digon o le yn y llain fawr o dir ar gyfer annedd ar y raddfa hon heb niweidio amwynderau eiddo preswyl cyfagos gyda digon o le parcio ar y safle.  Roedd pryderon gan drigolion eiddo cyfagos y byddai gosodiad y llain yn cael effaith negyddol ar eu mwynderau, ond mae'r eiddo wedi'i leoli tua 26m oddi wrth yr eiddo cyfagos agosaf. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylid cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog. Eiliodd y Cynghorydd Liz Wood y cynnig o gymeradwyo. 

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.

 

11.

Cynigion Datblygu a gyflwynwyd gan Gynghorwyr neu Swyddogion

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafodd yr un ei ystyried yn ystod y cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

12.

Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 3 MB

12.1 – VAR/2023/58 – Parc Gwledig y Morglawdd, Caergybi

VAR/2023/58

 

12.2 – FPL/2023/287 – Siop 2, Maes Athen, Llanerchymedd

FPL/2023/287

 

12.3 – FPL/2023/291 – Ysgol, Ysgol Uwchradd Bodedern, Bodedern

FPL/2023/291

 

12.4 – FPL/2023/273 – Ysgol Gynradd Llanfechell, Lôn Mynydd, Llanfechell

FPL/2023/273

 

12.5 – FPL/2023/297 – Canolfan Hamdden Plas Arthur, Llangefni

FPL/2023/297

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

12.1  VAR/2023/58 – Cais o dan Adran 73A i ddiwygio amod (02) (Cynlluniau a Gymeradwywyd) o ganiatâd cynllunio rhif FPL/2019/50 (addasu ac ehangu ynghyd â chreu lle chwarae treftadaeth a thirweddu cysylltiedig) ym Mharc Gwledig Morglawdd Caergybi

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai'r Cyngor Sir yw ymgeisydd a pherchennog y tir.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod y safle arfaethedig wedi'i leoli o fewn Parc Gwledig y Morglawdd ac mae canolfan wybodaeth ymwelwyr y warden presennol yn adeilad un llawr gyda cherrig naturiol a waliau wedi'u rendro gyda tho llechi naturiol.  Mae'r cais yn gais ôl-weithredol i gadw’r newidiadau a wnaed i’r adeilad, gan gynnwys adeiladu to’r estyniad a ganiatawyd yn flaenorol yn lefel â tho’r adeilad presennol, symud paneli solar a ganiatawyd yn flaenorol i leoliad newydd ar y to, lleihau maint y ffenestr to yng nghefn yr adeilad ynghyd â pheidio â chynnwys ffenestr yn y to ar flaen yr adeilad.  Y gwahaniaeth rhwng uchder to’r estyniad a gymeradwywyd yn flaenorol a’r to presennol oedd 0.25m.  Mae'r gwaith ar y safle o safon uchel ac mae'r ganolfan ymwelwyr a'r ardal chwarae plant yn boblogaidd gydag ymwelwyr â'r safle.  Trafodwyd y cais gyda'r Cynghorwyr Treftadaeth perthnasol ac ni chafwyd gwrthwynebiad oherwydd ystyrir mai mân amrywiadau yw’r rhai a gynigir a’u bod yn annhebygol o gael effaith sylweddol ar yr ardal.

 

Cynigiodd y Cynghorydd R Ll Jones y dylid cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y swyddog.  Eiliodd y Cynghorydd T Ll Hughes MBE y cynnig i’w gymeradwyo.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.

 

12.2  FPL/2023/287 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd hen siop (Dosbarth Defnydd A1) i neuadd amlbwrpas (Dosbarth Defnydd D1) yn Siop 2, Maes Athen, Llannerch-y-medd

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod safle'r cais yn eiddo i'r Cyngor Sir.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod hwn yn gais ar gyfer newid defnydd hen siop i neuadd amlbwrpas at ddefnydd y gymuned leol.  Mae safle'r cais wedi'i leoli o fewn ffin ddatblygu pentref gwasanaeth Llannerch-y-medd ac felly mae'n cydymffurfio â pholisi cynllunio ISA2 fel y nodir yn adroddiad y Swyddog.  Er bod lleoliad y cynnig o fewn canol ffin ddatblygu'r pentref, ystyrir ei bod yn hawdd ei gyrraedd ar droed neu drwy ddulliau trafnidiaeth eraill.  Fodd bynnag, mae yna lefydd parcio hefyd yn hen faes parcio'r orsaf sydd hefyd yn safle sy'n cael ei redeg gan y gymuned.  Yng nghefn yr hen siop mae 3 lle parcio ac mae parcio digyfyngiad hefyd o fewn ffordd Maes Athen.  Nododd y bydd yr adeilad presennol o raddfa a dyluniad priodol ar gyfer y newid defnydd arfaethedig, ac ni fydd yn cael mwy o effaith ar yr eiddo cyfagos na'r busnes siop blaenorol ar y safle. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylid cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.  Eiliodd y Cynghorydd John I Jones y cynnig i’w gymeradwyo.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12.

13.

Materion Eraill

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafodd yr un ei ystyried yn ystod y cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.