Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fel y nodwyd uchod.

 

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu’r Cynghorydd John I Jones ddatgan diddordeb personol a oedd yn rhagfarnu yn eitem 7.2 – Fferm Tŷ Coch, Rhostrehwfa. 

 

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 187 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 10 Ionawr, 2024.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Ionawr, 2024 fel rhai cywir.

 

4.

Ymweliad Safleoedd pdf eicon PDF 87 KB

Cyflwyno cofnodion yr Ymweliadau Safle a gynhaliwyd ar 24 Ionawr, 2024.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion yr Ymweliadau Safle a gynhaliwyd ar 24 Ionawr, 2024 fel cofnod cywir.

 

5.

Siarad Cyhoeddus

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd Siaradwyr Cyhoeddus mewn perthynas â cheisiadau 7.1, 7.2, 12.2 a 12.4.

 

 

6.

Ceisiadau fydd yn cael eu gohirio pdf eicon PDF 623 KB

6.1 – FPL/2023/61 – Taldrwst, Lon Fain, Dwyran

FPL/2023/61

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

6.1  FPL/2023/61 – Cais llawn ar gyfer newydd defnydd tir amaethyddol i fod yn safle cabanau gwyliau er mwyn lleoli 13 o gabanau gwyliau, adeiladu ffordd newydd ar y safle, addasiadau i’r fynedfa bresennol i gerbydau ynghyd â gwaith tirweddu meddal a chaled ar dir yn Nhaldrwst, Lôn Fain, Dwyran

 

      Cafodd y cais ei adrodd i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.  Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 1 Tachwedd, 2023, penderfynwyd ymweld â'r safle.  Cynhaliwyd yr ymweliad safle ar 15 Tachwedd, 2023.  Yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Rhagfyr, 2023 penderfynodd y Pwyllgor wrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog ar y sail nad oedd digon o wybodaeth am drefniadau draenio wedi'i darparu i aelodau allu gwneud penderfyniad.  Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Ionawr, 2024, penderfynwyd gohirio’r penderfyniad er mwyn caniatáu amser i dîm draenio arbenigol yr Awdurdod asesu'r wybodaeth a ddarparwyd gan yr ymgeisydd yn llawn.

 

      Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod manylion y profion mandylledd wedi'u darparu gan yr ymgeisydd er mwyn canfod pa mor dderbyniol yw’r ffosydd cerrig arfaethedig.  Argymhelliad y Swyddog yw gohirio'r cais i ganiatáu amser i dîm draenio arbenigol yr Awdurdod asesu'r wybodaeth yn llawn. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylid gohirio'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.  Eiliodd y Cynghorydd Alwen Watkin y cynnig.

 

      PENDERFYNWYD gohirio'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd.

 

 

7.

Ceisiadau'n Codi pdf eicon PDF 889 KB

7.1 – FPL/2023/146 – Cae Graham, Pentraeth

FPL/2023/146

 

7.2 - FPL/2023/227 – Ty Coch Farm, Rhostrehwfa

FPL/2023/227

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

7.1  FPL/2023/146 – Cais llawn ar gyfer dymchwel yr annedd bresennol a chodi annedd newydd ynghyd â gwaith cysylltiedig yng Nghae Graham, Pentraeth.

 

Cafodd y cais ei adrodd i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod lleol.  Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Ionawr, 2024 penderfynwyd ymweld â'r safle.  Cynhaliwyd yr ymweliad safle ar 24 Ionawr, 2024.

 

Dywedodd y Cadeirydd fod Aelod Lleol, y Cynghorydd Ieuan Williams wedi gofyn a oedd yn dderbyniol i 4 ffotograff gael eu dangos i'r Pwyllgor o ran y cais hwn.  Dywedodd ei fod, fel Cadeirydd, wedi penderfynu caniatáu i'r 4 llun gael eu dangos yn dilyn cyngor cyfreithiol.  Dywedodd y bydd pob cais yn cael ei asesu ar sail ei deilyngdod ei hun gan nad oedd yn dymuno gosod cynsail a bod angen anfon ceisiadau o'r fath i'r Adran Gynllunio i ganfod a ydynt yn berthnasol.  Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol fod y Cyfansoddiad ond yn nodi bod siaradwyr cyhoeddus yn cael eu hatal rhag dosbarthu dogfennau ychwanegol i'r Pwyllgor.  Nododd ei fod yn cytuno gyda'r Cadeirydd y dylid anfon ceisiadau o'r fath gan Aelodau Lleol i gyflwyno unrhyw wybodaeth ychwanegol i'r Adran Cynllunio er mwyn caniatáu digon o amser i’r Swyddog perthnasol ystyried a yw'r dogfennau’n berthnasol fel rhan o'r cais a drafodir.

 

Siaradwr Cyhoeddus

 

Dywedodd Mrs Anne Grady wrth annerch y Pwyllgor, fel gwrthwynebydd i'r cais, ei bod hefyd yn cynrychioli ei chymdogion sydd hefyd wedi gwrthwynebu'r cais hwn, pob un ohonynt naill ai wedi'u geni neu wedi bod yn byw yma ers mwy o flynyddoedd na'i gŵr a hithau.  Ar ben draw’r lôn darmac, dywedodd bod 9 eiddo gyda mynediad uniongyrchol atynt o’r lôn sy'n mynd yn ei blaen am Gae Graham. Mae 11 o berchnogion yn byw mewn 6 o'r cartrefi hyn; mae 2 dŷ arall yn gartrefi gwyliau parhaol Airbnb, ar gyfer cyfanswm o hyd at 20 o oedolion ac mae Cae Graham yn gartref gwyliau Airbnb a oedd yn cael ei osod rhwng 2018 a 2020.  Dywedodd eu bod gwrthwynebu’r cais hwn gan ei fod yn mynd yn groes i bolisi Cynllun Datblygu TA 13 - Maen Prawf 5 - mae'n disodli caban gwyliau, Maen Prawf 6 - dylid lleoli tŷ sydd i’w ailadeiladu oddi mewn i’r un ôl troed â’r adeilad presennol oni bai y gellir dangos bod ail leoli o fewn y cwrtil yn lleihau ei effaith weledol, Maen Prawf 7 - mae'r cynnydd mewn maint dros 3 gwaith yr uchafswm a ganiateir ac nid oes cyfiawnhad wedi'i roi ar gyfer hyn?   Dyluniad a defnydd yn ei amgylchedd - Mae'r ymgeisydd yn cynnig dymchwel y caban unllawr, un ystafell wely, un ystafell ymolchi a brynodd yn 2016 ac sydd, dros y flwyddyn ddiwethaf, wedi'i addasu (trwy gynnwys yr hen bortsh mynediad â chanopi) er mwyn hawlio, ar dudalen 24 o'r Datganiad Dylunio a Mynediad, bod yr annedd arfaethedig yn disodli eiddo 3 ystafell wely. Mae ceir sydd wedi'u parcio o flaen y caban i'w gweld yn glir o'r traeth, felly hefyd y  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Ceisiadau Economaidd

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

9.

Ceisiadau am Dy Fforddiadwy

Dim i’w hystryied gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

10.

Ceisiadau'n Gwyro

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

11.

Cynigion Datblygu a gyflwynwyd gan Gynghorwyr neu Swyddogion

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

12.

Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 3 MB

 12.1 – FPL/2023/348 - Ysgol Syr Thomas Jones, Ffordd Tanybryn, Amlwch

FPL/2023/349

 

12.2 – FPL/2023/343 - Parc Carafanau Golden Sunset, Benllech

FPL/2023/343

 

12.3 – FPL/2023/176 – Swyddfa Bost, Ffordd Caergybi, Gwalchmai

FPL/2023/176

 

12.4 – VAR/2023/67 – Lon Garreglwyd, Caergybi.

VAR/2023/67

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

12.1  FPL/2023/349 – Cais llawn ar gyfer canopi annibynnol gyda tho uwchben ynghyd â lloches beiciau yn Ysgol Syr Thomas Jones, Ffordd Tanybryn, Amlwch

 

Cafodd y cais ei adrodd i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y tir yn eiddo i'r Cyngor Sir.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais yn cael ei wneud ar gyfer canopi annibynnol gyda tho uwchben ynghyd â lloches beiciau.  Fel y nodwyd yn y cyfarfod diwethaf mae Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch yn Adeilad Rhestredig Gradd 11* a'r brif ystyriaeth yw effaith y cais ar yr adeilad hanesyddol hwn. Bydd y canopi annibynnol yn mesur 3.3 metr x 15 metr a 38 metr o uchder a bydd y lloches beiciau yn mesur 4.1 metr x 2.3 metr a bydd yn cael ei osod o dan y cysgod.  Ymgynghorwyd â Swyddog Treftadaeth y Cyngor Sir ac ystyrir na fydd y cais yn cael effaith negyddol ar yr adeilad hanesyddol. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Liz Wood y dylid cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y swyddog.  Eiliodd y Cynghorydd Jeff Evans y cynnig.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog ac yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad. 

 

12.2  FPL/2023/343 – Cais ôl-weithredol ar gyfer yr estyniad i'r decin presennol ym Mharc Carafannau Golden Sunset, Benllech

 

Cafodd y cais ei gyflwyno i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.

 

Siaradwr Cyhoeddus

 

Dywedodd Ms Carol Price, wrth annerch y Pwyllgor, fel gwrthwynebydd i'r cais, fod y gwrthwynebiad tuag ato ar sail ei fod yn gwaethygu iechyd a diogelwch, ynghyd â diffyg unrhyw lywodraethu (asesiad risg, dyletswydd mewn perthynas â diogelwch y cyhoedd ar Barc Gwyliau Golden Sunset neu gerllaw iddo ac unrhyw esgeulustod gweladwy fel trwyddedai cyfrifol Deddf Safleoedd Carafanau a Rheoli Datblygu 1960) i gyngor offerynnau statudol o ran dwysedd agos a lle rhwng carafanau cyfagos eraill a allai gyfrannu tuag at dân yn lledaenu rhwng unedau gan achosi risg tân annerbyniol i'r preswylwyr; yn ychwanegol at hyn mae'r garafán sefydlog yn ymestyn dros ffin yr eiddo a'r tu mewn i'r ffin ar y cyd, felly, nid oes unrhyw fwlch rhwng y garafán hon a’r ffin fel y cynghorir yn Neddf Safleoedd Carafanau a Rheoli Datblygu 1960.  Lleolir y garafán ar y ffin ag eiddo cyfagos ger y maes carafanau ac mae'n amlwg yn mynd yn groes i unrhyw bellter diogelwch 3 metr o ymyl y ffin gan achosi risg tân annerbyniol ychwanegol i'r preswylwyr.

 

Dywedodd Mr Stan Johnson, wrth y Pwyllgor, fel yr ymgeisydd, iddo ef a'i wraig  brynu’r garafán ym mis Chwefror 2021 ar gyfer defnydd penodol ein teulu estynedig.  Dywedodd ei fod yn edifar bod gwaith ar yr estyniad decin wedi dechrau cyn gofyn am ganiatâd cynllunio, gan nad oedd yn ymwybodol bod caniatâd cynllunio wedi'i roi yn 2016 ar gyfer y decin gwreiddiol ac, felly, byddai angen caniatâd newydd yn ar gyfer y decin hwn, fodd bynnag, cafwyd caniatâd gan berchennog y safle cyn dechrau unrhyw waith. Mae'r estyniad  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12.

13.

Materion Eraill

Dim i’w hystryied gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafodd unrhyw fater arall ei ystyried gan y cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.