Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion - Cyfarfod Hybrid - Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM, Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion - Dydd Mercher, 6ed Mawrth, 2024 1.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM

Cyswllt: Ann Holmes / Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Jackie Lewis a’r Cynghorydd Nicola Roberts (Aelod Portffolio Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Newid Hinsawdd).

 

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o fuddiant.

 

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 286 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 7 Chwefror 2024.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 7 Chwefror, 2024 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

 

4.

Ymweliadau Safle pdf eicon PDF 120 KB

Cyflwyno cofnodion yr ymweliadau safle Cynllunio a gynhaliwyd ar 21 Chwefror 2024.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion yr ymweliad safle a gynhaliwyd ar 21 Chwefror, 2024 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at y nifer isel o aelodau a oedd yn bresennol yn ystod yr ymweliad safle Cynllunio ar 21 Chwefror. Roedd yn siomedig mai dim ond pedwar aelod oedd yn bresennol ac mai dim ond pedwar aelod oedd wedi ymddiheuro ymlaen llaw, sy’n golygu bod pum aelod yn absennol heb unrhyw rybudd. Bu iddo atgoffa’r Aelodau bod ymweliadau safle’n cael eu cynnal yn dilyn penderfyniad gan y Pwyllgor a’u bod yn bwysig, a bod gan yr Aelodau ddyletswydd i wneud pob ymdrech i fynychu. Er ei fod yn gwerthfawrogi nad yw hynny bob amser yn bosib, dywedodd bod ymweliadau safle bob amser yn cael eu cynnal bythefnos wedi’r cyfarfod o’r Pwyllgor, ac y dylai’r Aelodau aildrefnu eu dyddiaduron yn unol â hynny os oes modd.   Gofynnodd yn barchus i’r Aelodau ymddiheuro ymlaen llaw os na allant fod yn bresennol.

 

5.

Siarad Cyhoeddus

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

6.

Ceisiadau Fydd yn Cael eu Gohirio pdf eicon PDF 614 KB

6.1 FPL/2023/61 – Taldrwst, Lôn Fain, Dwyran

 

FPL/2023/61

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

6.1 FPL/2023/61 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd tir amaethyddol i fod yn safle cabanau gwyliau er mwyn lleoli 13 o gabanau gwyliau, adeiladu ffordd newydd ar y safle, addasu’r fynedfa bresennol i gerbydau ynghyd â gwaith tirlunio meddal a chaled ar dir yn Taldrwst, Lôn Fain, Dwyran

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol. Yn ei gyfarfod ar 21 Tachwedd, 2023 penderfynodd y Pwyllgor gynnal ymweliad safle a gynhaliwyd ar 15 Tachwedd, 2023. Yn ei gyfarfod ar 6 Rhagfyr, 2023 penderfynodd y Pwyllgor wrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog ar y sail bod yr wybodaeth a dderbyniwyd ar y system ddraenio yn annigonol i alluogi’r Aelodau wneud penderfyniad. 

 

Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu bod materion yn ymwneud â dŵr wyneb y tu allan i gylch gorchwyl y broses gynllunio. Er hyn, mae’r datblygwr wedi cytuno i ddarparu’r wybodaeth hon i’r Pwyllgor Cynllunio er mwyn i benderfyniad allu cael ei wneud. Mae’r datblygwr wedi cyflwyno cais SuDS i’r Awdurdod Lleol fel y Corff Cymeradwyo SuDS ac mae’r wybodaeth yn cael ei hasesu ar hyn o bryd. Mae’r adran yn cynnig bod y cais yn cael ei ohirio tan y cyfarfod cynllunio nesaf er mwyn i’w wybodaeth allu cael ei hasesu’n llawn ac i benderfyniad allu cael ei wneud ar y cais SuDS.

 

Cynigodd y Cynghorydd John I. Jones bod y cais yn cael ei ohirio yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Liz Wood.

 

Penderfynwyd gohirio’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a nodwyd.

 

7.

Ceisiadau'n Codi pdf eicon PDF 1 MB

7.1 FPL/2023/176 – Swyddfa’r Post, Ffordd Caergybi, Gwalchmai

 

FPL/2023/176

 

7.2 FPL/2023/146 – Cae Graham, Pentraeth

 

FPL/2023/146

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

7.1 FPL/2023/176 – Cais llawn i ddymchwel 2 dŷ allan a chodi 2 annedd fforddiadwy, 4 annedd marchnad agored a chreu mynedfa newydd i gerbydau ar dir y tu ôl i’r Swyddfa Bost, Ffordd Caergybi, Gwalchmai

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol oherwydd y ffordd fynediad newydd ar yr A5 a gallu’r rhwydwaith carthffosiaeth cyhoeddus i ymdopi â llif ychwanegol. Yn ei gyfarfod ar 7 Chwefror 2024 penderfynodd y Pwyllgor gynnal ymweliad safle corfforol a chynhaliwyd yr ymweliad 21 Chwefror, 2024.

 

Siaradwyr Cyhoeddus

 

Siaradodd Mr Oswyn Williams yn erbyn y cais ar ran y Cyngor Cymuned a thrigolion Gwalchmai sy’n gwrthwynebu’r cais.

 

Cyfeiriodd Mr Williams at y diffyg eglurder ynglŷn â statws yr anheddau arfaethedig. Nid yw’n glir a ydynt yn unedau fforddiadwy, eiddo marchnad agored neu eiddo rhent marchnad agored. Mae’r ffordd fynediad i’r safle yn peri pryder. Mae’n anaddas ac yn beryglus ar y rhan yma o’r A5 lle mae ceir, loriau, tractors a threlars yn parcio i ddefnyddio’r siop a’r post gerllaw. Mae trigolion sy’n byw yn y tai teras gyferbyn yn gorfod parcio’u ceir ar yr A5 yn agos at y fynedfa i’r datblygiad hwn. Nid yw’r Adran Briffyrdd wedi ystyried hyn. Sonnir am y ceir a fydd yn parcio ar y safle ond nid y ceir sy’n parcio ar hyd yr A5 ar hyn o bryd ac a fydd yn amharu ar welededd o’r ffordd fynediad newydd i’r briffordd brysur hon.     

 

Mae’r wybodaeth a ddarparwyd yn adran 2 o’r cais yn anghywir gan fod ffos ar hyd y ffin, llai na 20 metr oddi wrth y datblygiad arfaethedig. Mae dŵr wyneb yn cronni yn yr ardal hon a chafwyd gorlifiad dŵr drwy’r twll archwilio ar ffordd Pentrefuchaf ym mis Ionawr eleni gan fod y ffos wedi blocio.  Byddai ychwanegu mwy o arwynebedd caled yn gwaethygu’r sefyllfa a chreu llifogydd yn yr ardal hon ac yn y pentref. Mae cyswllt rheolaidd wedi bod dros y mis diwethaf rhwng yr Adran Gynllunio a phartïon a chanddynt fuddiant ynglŷn â’r mater hwn. Pryder arall yw’r materion yn ymwneud â charthffosiaeth yn enwedig yn ardal Pant o’r pentref lle mae carthffosiaeth amrwd i’w weld  o amgylch y tai ac yn gorlifo drwy’r tyllau archwilio ac mae’r sefyllfa wedi gwaethygu yn dilyn mwy o ddatblygu a chysylltu i’r isadeiledd bregus yma.

 

Siaradodd Mr Williams hefyd am effaith bosib y cynnig ar y Gymraeg a nododd nad oes cyfeiriad at bolisïau i hybu’r Gymraeg a thargedau Llywodraeth Cymru. Nid oes cyfeiriad chwaith at y camau fydd yn cael eu cymryd i ddiogelu’r to asbestos pan fydd y storfa wrth y palmant yn cael ei dymchwel.   Bydd cael gwared ar y clawdd terfyn nad yw’n eiddo i’r datblygwr yn effeithio ar fywyd gwyllt, a bydd y deuddeg ffenestr a fydd yn edrych dros yr eiddo cyfagos yn amharu ar fwynderau a phreifatrwydd y cymdogion.

 

Siaradodd Mr Jamie Bradshaw o gwmni Owen Devenport o blaid y cais a chadarnhaodd bod hwn yn gynnig  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Ceisiadau Economaidd

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

 

9.

Ceisiadau am Dy Fforddiadwy

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

10.

Ceisiadau'n Gwyro

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

11.

Cynigion Datblygu a gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

12.

Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 652 KB

12.1 DIS/2024/1 – Treiddon, Ffordd y Traeth, Porthaethwy

 

DIS/2024/1

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

12.1 DIS/2024/1 – Cais i ryddhau amodau (09) (Cynllun Rheoli Traffig Adeiladu) & (10) (Cynllun Rheoli Amgylcheddol Adeiladu) o ganiatâd cynllunio FPL/2023/42 (dymchwel yr annedd bresennol ynghyd â chodi dau annedd newydd) yn Treiddon, Ffordd y Traeth, Porthaethwy

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn gais i ryddhau amodau a osodwyd gan y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion wrth benderfynu ar gais cynllunio rhif FPL/2023/42 yn Treiddon Porthaethwy “Cais llawn i ddymchwel yr annedd bresennol ynghyd â chodi dwy annedd newydd yn ei le yn Treiddon, Porthaethwy” yn ei gyfarfod ar 6 Rhagfyr 2023.

 

Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu bod amod yn gofyn am gyflwyno a chymeradwyo Cynllun Rheoli Traffig Adeiladu (CTMP) ac mae amod (10) yn gofyn am gyflwyno a chymeradwyo Cynllun Rheoli Amgylcheddol Adeiladu (CEMP). Yn unol â'r amodau uchod mae’r wybodaeth wedi'i chyflwyno i'r Awdurdod Cynllunio Lleol ac ymgynghorwyd â'r Adran Briffyrdd ac Ecolegydd y Cyngor. Yn dilyn sylwadau gan y ddau ymgynghorydd, mae diwygiadau wedi'u gwneud i'r ddogfen i fynd i'r afael â'r materion a godwyd.  Mae'r ddau ymgynghorydd wedi cadarnhau ers hynny bod y wybodaeth a gyflwynwyd yn dderbyniol ac yn bodloni gofynion yr amodau fel y gellir eu rhyddhau.

 

Cynigodd y Cynghorydd Robin Williams bod y cais yn cael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd John I. Jones.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog ac felly mae amod (09) a (10) wedi cael eu rhyddhau.

 

 

13.

Materion Eraill

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.