Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Cyfarfod Hybrid - Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Fe y nodwyd uchod.
|
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu i’r Cynghorydd Geraint Bebb ddatgan diddordeb yng nghais 12.1. Yn dilyn cyngor cyfreithiol, dywedodd y Cynghorydd Bebb ei fod yn gallu cymryd rhan yn y drafodaeth ar y cais ond ei fod wedi penderfynu gadael y cyfarfod.
Bu i’r Cynghorydd Neville Evans ddatgan diddordeb sy’n rhagfarnu yng nghais 11.1 a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais arno.
|
|
Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 5 Chwefror 2025. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cadarnhawyd bod cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 5 Chwefror, 2025 yn gywir.
|
|
Ymweliadau Safle Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd unrhyw ymweliad safle yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
Siarad Cyhoeddus Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd unrhyw Siaradwyr Cyhoeddus yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
Ceisiadau Fydd yn Cael eu Gohirio Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
Ceisiadau'n Codi Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
Ceisiadau Economaidd Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
Ceisiadau am Dy Fforddiadwy Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
Ceisiadau'n Gwyro Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
Cynigion Datblygu a gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 11.1 FPL/2025/26 – Cais ôl-weithredol ar gyfer cadw'r cynhwysydd storio yn Iorwerth Arms, Stryd Fawr, Bryngwran
(Bu i’r Cynghorydd Neville Evans ddatgan diddordeb personol sy’n rhagfarnu mewn perthynas â'r cais ac yn dilyn cyngor cyfreithiol gadawodd y cyfarfod)
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod cysylltiad rhwng yr ymgeisydd ac Aelod Etholedig yn unol ag adran 4.6.10.2 o gyfansoddiad y Cyngor.
Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais yn gais ôl-weithredol ar gyfer cadw cynhwysydd storio sy'n cael ei ddefnyddio fel cyfleuster storio sy'n gysylltiedig â'r Iorwerth Arms. Mae'r cynhwysydd o ddyluniad a graddfa briodol sy’n golygu ei fod yn integreiddio i'r safle ac mae wedi'i leoli'n agos at y terfyn gorllewinol sy'n cynnwys coed a gwrychoedd. Gan fod y cais yn gais ôl-weithredol, bydd amod yn cael ei osod (Amod 04) a fydd yn caniatáu i'r awdurdod cynllunio lleol ailasesu'r sefyllfa mewn 3 blynedd i fonitro unrhyw effeithiau ar yr ardal gyfagos. Nododd nad oedd unrhyw wrthwynebiad wedi'i dderbyn mewn perthynas â'r cais a'r argymhelliad oedd cymeradwyo'r cais.
Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylid cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.
Eiliodd y Cynghorydd Jackie Lewis y cynnig i’w gymeradwyo.
PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.
|
|
12.1 – FPL/2024/264 – Hafod y Bryn, 37 Cae Mair, Biwmares
12.2 – HHP/2024/227 – 6 Penycefn, Amlwch
12.3 – FPL/2024/296 – Tir ger 13 Stad y Bryn, Llanfaethlu
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 12.1 FPL/2024/264 – Cais llawn ar gyfer creu mynedfa newydd, ynghyd ag estyniad i'r cwrtil yn Hafod y Bryn, 37 Cae Mair, Biwmares
(Bu i’r Cynghorydd Geraint Bebb ddatgan diddordeb personol yn y cais 12.1. Yn dilyn cyngor cyfreithiol, dywedodd y Cynghorydd Bebb ei fod yn gallu cymryd rhan yn y drafodaeth ar y cais ond ei fod wedi penderfynu tynnu'n ôl o'r cyfarfod).
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol oherwydd pryderon lleol a gwrthwynebiadau gan y Cyngor Tref.
Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio mai cais yw hwn i ymestyn y cwrtil preswyl i greu mynedfa newydd i'r eiddo. Dangoswyd lleoliad a chyd-destun y cais i'r Pwyllgor ar 'Google Maps' a 'Google Street View'. Nododd fod y trigolion a'r Cyngor Tref wedi mynegi pryderon ynglŷn â'r cais yn sgil colli lle parcio yn ogystal â chael effaith negyddol ar y traffig ar ffordd yr ystâd. Mae'r Cyngor Tref wedi mynegi bod yr ardal ddatblygu wedi cael ei chydnabod yn hanesyddol fel man pasio/ardal barcio a byddai'n achosi problemau i drigolion eraill yr ystâd. Mae'r darn o dir dan sylw yn y cais hwn ar hyn o bryd o fewn perchnogaeth y Cyngor Sir, gan ei fod wedi'i fabwysiadu gan yr Awdurdod Priffyrdd yn y gorffennol gan berchennog blaenorol yr eiddo. Mae'r ymgeisydd wedi dadlau bod ganddynt berchnogaeth o'r ardal ddatblygu arfaethedig yn dechnegol ac yn hanesyddol a’i bod yn ymddangos ar weithredoedd yr eiddo. Fodd bynnag, mae’r Awdurdod Priffyrdd wedi cadarnhau bod ffordd yr ystâd wedi'i mabwysiadu a'i chynnal gan yr Awdurdod Lleol. At hyn, dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio, pe byddai'r cais yn cael ei gymeradwyo, y byddai angen i'r ymgeisydd wneud cais i Weinidogion Cymru, o dan Adran 247 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, am orchymyn cau ar gyfer y rhan o’r briffordd fydd ddim yn cael ei defnyddio. Mae'r ymgeisydd wedi cyflwyno'r Tystysgrifau perthnasol ac nid oes gan yr Awdurdod Priffyrdd unrhyw wrthwynebiad i golli'r darn hwn o dir. Dywedodd y byddai'r fynedfa newydd yn caniatáu i'r ymgeisydd barcio cerbydau o fewn cwrtil ei eiddo, felly ni fyddai'r fynedfa yn arwain at gynnydd peryglus o ran symudiadau cerbydau. Ni fyddai'r fynedfa newydd yn cael unrhyw effaith ar drefniadau parcio presennol y cymdogion yn yr ystâd gan fod gan bob eiddo ei le parcio ei hun yn eu heiddo. Gofynnodd yr Awdurdod Priffyrdd am gynllun i raddfa yn dangos lleiniau gwelededd 45 metr o hyd y naill ochr a’r llall i’r fynedfa. Nid oedd y pellter angenrheidiol o ran gwelededd yn bosibl; felly, cynhaliwyd arolwg cyflymder i benderfynu ynghylch cyflymder cerbydau. Roedd yr Awdurdod Priffyrdd yn fodlon â chanlyniadau'r arolwg cyflymder a phellter y llain welededd ac maent hefyd yn fodlon â mesuriadau'r fynedfa newydd. Mynegodd yr awdurdod priffyrdd bryder am led y llwybr troed. Roeddent yn derbyn nad oedd yn unol â’r safon, ond bydd gwelededd yn cael ei wella gan fod llinell y cwrb yn cael ei symud tuag allan a’i ledu er mwyn gweld yn ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12. |
|
Materion Eraill Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
Ni ystyriwyd unrhyw faterion eraill yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|