Rhaglen a Phenderfyniadau

Cyfarfod Rhithiol wedi'i ffrydio'n Fyw, Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion - Dydd Mercher, 6ed Gorffennaf, 2022 1.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol wedi'i ffrydion'n Fyw

Cyswllt: Ann Holmes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 639 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofonodion y cyfarfod blaenorol rhithiol o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gafwyd ar 15 Mehefin, 2022.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod rhithwir blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 15 Mehefin 2022 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

 

4.

Ymweliad Safleoedd pdf eicon PDF 263 KB

Cyflwyno cofnodion yr Ymweliadau Safle rhithiol fel a ganlyn:-

 

·                     Cofnodion yr Ymweliadau Safle a gafwyd ar 15 Mehefin, 2022.

·                     Cofnodion yr Ymweliadau Safle a gafwyd ar 29 Mehefin, 2022.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cyflwynwyd cofnodion yr ymweliadau safle rhithwir a gynhaliwyd ar 15 a 29 Mehefin 2022 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

5.

Siarad Cyhoeddus

Dogfennau ychwanegol:

6.

Ceisiadau fydd yn cael ei gohirio

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

7.

Ceisiadau'n Codi pdf eicon PDF 6 MB

7.1 – OP/2021/10 - Tir gerllaw a Tyn y Ffynnon, Llannerch-y-medd

OP/2021/10

 

7.2 – FPL/2021/370 – Chwarelau, Brynsiencyn

 FPL/2021/370

 

 

7.3 – FPL/2021/349 - Caerau,

Llanfairynghornwy

FPL/2021/349

 

7.4 FPL/2021/160 - Bryn Bela, Lon St Ffraid, Bae Trearddur

FPL/2021/160

 

7.5 – FPL/2021/266 - Ffordd Garreglwyd, Caergybi

FPL/2021/266

 

7.6 – FPL/2021/361 – Ysgol y Graig, Llangefni

 FPL/2021/361

 

7.7 – FPL/2021/267 - Plot 13, Pentre Coed, Porthaethwy

FPL/2021/267

 

7.8 - FPL/2021/317 - Cumbria & High Wind, Stryd Fawr , Rhosneigr

FPL/2021/317

 

7.9 – FPL/2022/7 - Parc Carafanau Mornest, Pentre Berw

FPL/2022/7

 

7.10 - FPL/2022/63 - Ocean's Edge, Lon Isallt, Bae Treaddur

FPL/2022/63

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

7.1 OP/2021/10 - Cais amlinellol ar gyfer adeiladu 10 annedd gyda mynediad, ffordd fynediad fewnol a pharcio cysylltiedig, yn ogystal â manylion llawn y mynediad a’r gosodiad yn Nhyn y Ffynnon, Llannerch-y-medd

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad a chwblhau cytundeb Adran 106 i sicrhau rhwymedigaethau mewn perthynas â darparu tai fforddiadwy a chyfraniad ariannol tuag at ddarparu man chwarae priodol oddi ar y safle, yn hytrach na’i ddarparu’n uniongyrchol o fewn y safle.

 

7.2 FPL/2021/370 – Cais llawn ar gyfer newidiadau i ganiatâd cynllunio rhif FPL/2019/212 ar gyfer newid defnydd yr adeilad allan yn llety gwyliau yn Chwarelau, Brynsiencyn

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.

 

7.3 FPL/2021/349 - Cais llawn ar gyfer creu manège marchogaeth preifat ynghyd â newid defnydd tir amaethyddol yn safle gwersylla trwy’r flwyddyn yn Caerau, Llanfairynghornwy 

 

Penderfynwyd gohirio’r cais er mwyn rhoi amser i Swyddogion gymharu’r cais â chais FPL/2019/223 a chyflwyno adroddiad i’r Pwyllgor.

7.4         FPL/2021/160 - Cais llawn ar gyfer newid defnydd annedd preswyl (Dosbarth Defnydd C3) i fod yn fusnes tecawê bwyd poeth (Dosbarth Defnydd A3) ynghyd ag addasiadau i’r fynedfa i gerbydau yn Bryn Bela, Lôn Sant Ffraid, Trearddur

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog ac yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.

7.5 FPL/2021/266 - Cais llawn ar gyfer adeiladu 8 fflat preswyl fforddiadwy, adeiladu mynedfa i gerbydau, adeiladu lôn newydd ar y safle ynghyd â thirlunio meddal a chaled ar dir ger Ffordd Garreglwyd, Caergybi

Penderfynwyd gohirio’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac am y rhesymau a roddwyd.

7.6 FPL/2021/361 – Cais llawn ar gyfer codi uned cyfnod sylfaen ac uned gofal plant newydd, mannau chwarae tu allan, maes parcio, ynghyd â gwaith cysylltiedig ar dir ger Ysgol y Graig, Llangefni

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.

7.7 FPL/2021/267 – Cais llawn ar gyfer codi caban gwyliau ynghyd â gwaith cysylltiedig ym Mhlot 13, Pentre Coed, Porthaethwy

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog ac yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.

7.8 FPL/2021/317 – Cais llawn ar gyfer dymchwel yr adeilad tri llawr presennol sy’n cynnwys dau fflat preswyl a storfa breswyl ategol ar y llawr gwaelod ac adeiladu adeilad tri llawr newydd yn cynnwys dau fflat preswyl a gwesty 10 ystafell wely gyda bwyty a chyfleuster chwaraeon dŵr cysylltiedig ar gyfer gwesteion a maes parcio cysylltiedig yn Cumbria and High Wind, Stryd Fawr, Rhosneigr

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog ac yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.

7.9 FPL/2022/7 – Cais llawn ar gyfer ailddatblygu’r Maes Carafanau presennol i letya carafanau sefydlog ac ymestyn y safle i osod carafanau teithiol, ynghyd ag adeiladu bloc toiledau/cawodydd ym Maes Carafanau Mornest, Pentre Berw  ...  view the full Penderfyniad text for item 7.

8.

Ceisiadau Economaidd

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

9.

Ceisiadau am Dy Fforddiadwy

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

10.

Ceisiadau'n Gwyro

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

11.

Cynigion Datblygu a Gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion pdf eicon PDF 384 KB

11.1 – HHP/2022/163 - Tan y Garnedd, Lon Fferam Uchaf, Pentraeth.

HHP/2022/163

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

11.1 HHP/2022/163 – Cais llawn ar gyfer addasiadau ac estyniadau yn Tan y Garnedd, Lôn Fferam Uchaf, Pentraeth

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog a gyda’r amodau cynllunio yn yr adroddiad.

12.

Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 3 MB

12.1 – VAR/2022/36 – Peboc, Llangefni

VAR/2022/36

 

12.2 – FPL/2022/87 – Ysgol Gynradd Llangaffo, Llangaffo

FPL/2022/87

 

12.3 – VAR/2022/3 – Cae Mawr, Llanerchymedd

VAR/2022/3

 

12.4 – FPL/2021/336 - Canolfan Iechyd Llanfairpwll, Ffordd Penmynydd, Llanfairpwll

FPL/2021/336

 

12.5 – FPL/2022/46 - Tir ger Stad Bryn Glas, Brynsiencyn

FPL/2022/46

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

12.1 VAR/2022/36 – Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (02) (caniatâd materion a gadwyd yn ôl) o ganiatâd cynllunio rhif OP/2019/6 (dymchwel hen weithle cemegol a chodi 7 uned fusnes) er mwyn caniatáu amser ychwanegol i gyflwyno’r cais materion a gadwyd yn ôl yn Hen Safle Peboc, Llangefni

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.

 

12.2 FPL/2022/87 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd rhan o hen gae chwarae’r ysgol yn fan chwarae i blant yn Ysgol Gynradd Llangaffo, Llangaffo

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog ac yn amodol ar yr amod cynllunio yn yr adroddiad.

 

12.3 VAR/2022/3 – Cais o dan Adran 73A i ddiwygio amodau (05) (Cynllun Rheoli Tail), (08) (Cynllun Tirlunio), (10) (Strategaeth Lliniaru Goleuadau), (11) (Cynllun Rheoli Coetir), (12) (Cynllun Rheoli Amgylcheddol Adeiladu), (17) (Gwaith Archeolegol), ac (18) (Cynllun Rheoli Traffig Adeiladu) o gais cynllunio rhif FPL/2019/251/EIA (codi uned ddofednod) er mwyn caniatáu cyflwyno a chymeradwyo manylion ar ôl cychwyn gwaith datblygu yng Nghae Mawr, Llannerch-y-medd

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog ac yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.

 

12.4 FPL/2021/336 - Cais llawn ar gyfer addasu ac ehangu'r ganolfan iechyd, adeiladu mannau parcio newydd ynghyd â thirlunio meddal yng Nghanolfan Iechyd Llanfairpwll, Ffordd Penmynydd, Llanfairpwll

 

Penderfynwyd cynnal ymweliad safle rhithwir yn unol â chais yr Aelod Lleol ac am y rheswm a roddwyd.

 

12.5 FPL/2022/46 – Cais llawn ar gyfer adeiladu 12 annedd ynghyd â chreu ffordd fynediad fewnol ar dir ger Stad Bryn Glas, Brynsiencyn

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.

13.

Materion Eraill

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.