Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Hybrid - Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni /Yn rhithiol drwy Zoom

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fel y nodir uchod.

 

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu i’r Cynghorydd Jackie Lewis ddatgan diddordeb personol a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas â chais 12.8 ar yr Agenda.

 

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 264 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gafwyd ar 7 Medi, 2022.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Medi, 2022 yn gywir.

4.

Ymweliad Safleoedd pdf eicon PDF 197 KB

Cyflwyno, cofnodion yr ymweliadau safle rhithiol a gafwyd ar 21 Medi, 2022.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion yr ymweliadau safle rhithwir a gynhaliwyd ar 21 Medi, 2021 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

5.

Siarad Cyhoeddus

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd Siaradwyr Cyhoeddus ar gyfer ceisiadau 7.3, 7.4 a 12.2.

 

6.

Ceisiadau fydd yn cael ei gohirio

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

7.

Ceisiadau'n Codi

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

7.1 FPL/2022/66 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd tir i greu ardal barcio ceir ym Mhorth Wen, Llanbadrig

 

Cafodd y cais ei gyflwyno i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.  Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Medi, 2022 penderfynodd y Pwyllgor gynnal ymweliad rhithwir ar y safle.  Cynhaliwyd ymweliad rhithwir â’r safle ar 21 Medi, 2022.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod y maes parcio arfaethedig yn cynnwys ardal o tua 1.2 erw ac mae wedi'i leoli ar hyd lôn wledig un trac tua 0.7km o brif briffordd yr A5025.  Lleolir y safle yng nghefn gwlad agored mewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ddynodedig rhwng aneddiadau Cemaes a Phorth Llechog.  Cydnabyddir bod problemau traffig a pharcio presennol yn yr ardal hon, yn enwedig yn ystod misoedd yr haf, gyda cheir yn parcio ar ochr y lôn unffordd.  Yn ystod yr ymweliad rhithwir â’r safle ar 21 Medi, 2022 dywedodd yr Aelodau Lleol fod pobl yn parcio yn y lleoliad yma i ymuno â Llwybr yr Arfordir oherwydd diffyg cyfleusterau parcio yng Nghemaes a Phorth Llechog.  Nododd fod cysylltiadau â Llwybr yr Arfordir ger safle'r cais, fodd bynnag, nid yw'n ymddangos ei fod yn lleoliad amlwg na naturiol i ymuno â Llwybr yr Arfordir. Y ffaith bod Gwaith Brics Porth Wen gerllaw sy'n denu pobl i'r lleoliad arbennig hwn yn bennaf.  Fodd bynnag, mae Gwaith Brics Porth Wen wedi'i leoli ar eiddo preifat, y tu allan i berchnogaeth yr ymgeisydd, heb fynediad i'r cyhoedd a lle bo pryderon iechyd a diogelwch hysbys.  Nododd ymhellach ei bod o'r farn y byddai darparu cyfleuster parcio ceir yn y lleoliad hwn yn debygol o arwain at gynnydd yn nifer yr ymwelwyr i'r ardal ac i'r Gwaith Brics yn arbennig.  O ystyried y ffeithiau hyn, mae'r Awdurdod Cynllunio Lleol o'r farn na fyddai'n ddarbodus i'r Cyngor gael ei weld yn annog pobl i dresmasu ar eiddo preifat.  Hefyd dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu nad oes cyfiawnhad dros faes parcio mor fawr â’r hyn sy'n cael ei gynnig ar y safle hwn a gallai arwain at gynyddu'r problemau traffig gan hwyluso mynediad i'r safle a hefyd ni fydd dim i atal cerbydau gwersylla ac ati, rhag defnyddio'r safle o ystyried ei faint a'i leoliad.  Dywedodd ymhellach fod llythyr pellach wedi ei dderbyn gan yr Adran Gynllunio oddi wrth yr Asiant yn tynnu sylw at y canlynol: y difrod y mae'r ceir yn ei wneud wrth barcio ar ochr y ffordd; yr angen am faes parcio, gan ei fod wedi’i leol wrth ymyl Llwybr yr Arfordir ac atyniadau lleol eraill; disgwylir y bydd 30 o geir yn parcio ar y safle a bydd gweddill y cae yn cael ei agor fel 'lle parcio ychwanegol' yn ystod y gwanwyn, yr haf a dechrau’r Hydref; Bydd y cyfleuster parcio yn cael ei reoli drwy godi ffens dros dro i ddiogelu'r tir yn ystod tymor y gaeaf. Dywedodd y Rheolwr Rheoli'r Datblygiad ymhellach fod cadarnhad wedi ei dderbyn y bydd yr ymgeisydd yn codi ffi am  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Ceisiadau Economaidd

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

9.

Ceisiadau am Dy Fforddiadwy

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

10.

Ceisiadau'n Gwyro

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

11.

Cynigion Datblygu a gyflwynwyd gan Cynghorwyr neu Swyddogion

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

12.

Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 5 MB

12.1 – TPO/2022/16 - Tir rhwng yr cronfa ddwr a 30, Ty Mawr Estate, Porthaethwy

TPO/2022/16

 

12.2 – VAR/2022/48 - Madryn House, Pen Dref Street, Niwbwrch

VAR/2022/48

 

12.3 – FPL/2022/134 – Tithe Barn, Henblas, Llangristiolus

FPL/2022/134

 

12.4 – DIS/2022/62 - Ysgol Y Graig, Ffordd y Coleg, Llangefni

DIS/2022/62

 

12.5 – VAR/2021/65  - Fferm Wynt Llyn Alaw, Llanbabo

VAR/2021/65

 

12.6 – HHP/2022/46 - Tan Yr Allt Bach, Llanddona

HHP/2022/46

 

12.7 – HHP/2022/219 – 7 Tre Gof, Llanddaniel

HHP/2022/219

 

12.8 – HHP/2022/171 - Awel Y Bryn, Trigfa, Moelfre

HHP/2022/171

 

12.9 – FPL/2022/216 – Glanllyn, Llanedwen

FPL/2022/216

 

12.10 – FPL/2022/198 – Swyddfeydd Cyngor Sir Ynys Mon, Llangefni

FPL/2022/198

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

12.1   TPO/2022/16 – Cais i wneud gwaith ar 6 o goed sydd wedi eu gwarchod gan Orchymyn Diogelu Coed ar dir rhwng y gronfa ddŵr a 30, Ystâd Tŷ Mawr, Porthaethwy

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai'r Awdurdod Lleol sy'n berchen ar y safle.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod y cais yn cyfeirio at waith ar 6 choeden sy'n destun Gorchymyn Diogelu Coed o'r enw 'Hen Gronfa Ddŵr' Porthaethwy a wnaed yn 1988.  Mae'r coed wedi'u lleoli ar dir sy'n rhan o arglawdd gogleddol y gronfa ddŵr, oddi ar ffordd Pentraeth ym Mhorthaethwy.  Yn ddiweddar, cynhaliwyd arolwg ar y coed oherwydd clefyd y coed ynn a bwriedir torri chwe choeden

oherwydd eu cyflwr a’u lleoliad ger y llwybr troed ar hyd y briffordd a ddefnyddir gan y cyhoedd a phlant sy’n cerdded i Ysgol David Hughes. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams bod y cais yn cael ei gymeradwyo.  Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Ken Taylor.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.2   VAR/2022/48 – Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (04) o ganiatâd cynllunio rhif 45C260B (Cais llawn i newid defnydd yr adeilad presennol o A1 (man werthu) i ddefnydd cymysg A1 ac A3 (man werthu a bwyd a diod)) er mwyn newid oriau agor presennol yn Madryn House, Pen Dref Street, Niwbwrch

 

Cafodd y cais ei gyflwyno i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.

 

Siaradwr Cyhoeddus

 

Wrth siarad o blaid y cais dywedodd Ms Sue Madine mai hi, ynghyd â Diane Broad, sy’n rhedeg ac yn berchen a Gaffi Wiwer Goch ac Oriel Nyth y Wiwer yn Niwbwrch. Dywedodd fod slot 3 munud heddiw yn teimlo'n gwbl annigonol i ymateb i wrthwynebiadau i'r cais a dadlau’r achos dros ddiogelu swyddi a dyfodol y busnes. Mae’r adran gynllunio yn tybio y bydd agor y caffi gyda'r nos yn cael effaith andwyol ar drigolion cyfagos. Hwn yw'r unig fusnes allan o 5 ar y sgwâr sy'n gorfod cau am 5pm. Ers agor yn 2014, mae'r busnes wedi darparu swyddi i 25 o bobl leol sy'n siarad Cymraeg yn bennaf; Ar hyn o bryd mae'n cyflogi 5, gyda channoedd o filoedd o bunnoedd yn cael ei gynhyrchu i'r economi leol. Mae'r caffi yn cefnogi neu'n cael ei wasanaethu gan 8 o gwmnïau o Ynys Môn. Mae'r oriel yn fan arddangos a gwerthu i 12 o grefftwyr annibynnol Ynys Môn. Mae'r rhan fwyaf o'r gwrthwynebiadau a godwyd yn destun dyfalu, yn farn, yn ffug a heb unrhyw wir dystiolaeth. Ar ôl blynyddoedd o gwynion yn erbyn y caffi, mae cofnodion y cyngor yn cadarnhau, er gwaethaf nifer o ymweliadau gan y cyngor ac yn llythrennol cannoedd o geisiadau i fesur sŵn gan ein cymydog agosaf, nad oes unrhyw achos o niwsans statudol wedi'i ganfod erioed. Ni chymerwyd unrhyw gamau gorfodi erioed. Mae'r arferion gweithio presennol a’r drefn o weithio yn y gegin wedi lleihau  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12.

13.

Materion Eraill

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.