Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Hybrid - Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni /Yn rhithiol drwy Zoom

Cyswllt: Ann Holmes / Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

Cyn dechrau’r cyfarfod, talodd y Cadeirydd deyrnged i’r diweddar Gynghorydd Alun Mummery, a fu farw’n fuan cyn y Nadolig; canmolodd ei gyfraniad i’r Cyngor, i’w gymuned, yr Ynys â thu hwnt dros y blynyddoedd.

 

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nodwyd yr ymddiheuriadau fel y nodir uchod.

 

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu i’r Cynghorydd Neville Evans ddatgan diddordeb personol a oedd yn rhagfarnu ynghylch cais 7.2 ar yr agenda, ar y sail ei fod yn perthyn i’r ymgeisydd a bod ei frawd wedi gweithio i’r ymgeisydd.

 

Bu i’r Cynghorydd Glyn Haynes ddatgan diddordeb personol a oedd yn rhagfarnu ynghylch cais 12.10 ar yr agenda fel llywodraethwr Ysgol Llanfawr, ac am fod ei ferch yn athrawes yn yr ysgol.

 

3.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 155 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol  -

 

·         7 Rhagfyr, 2022

·         15 Rhagfyr, 2022 (wedi’i ohirio o 7 Rhagfyr, 2022)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfodydd blaenorol  a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol a chadarnhawyd eu bod yn gywir:

 

·      7 Rhagfyr, 2022

·      15 Rhagfyr, 2022 (wedi’i ohirio o 7 Rhagfyr, 2022)

 

4.

Ymweliadau Safle pdf eicon PDF 15 KB

Cyflwyno cofnodion yr ymweliadau safle Cynllunio a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol

 

·         20 Rhagfyr, 2022

·         21 Rhagfyr, 2022

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion yr ymweliadau safle a gynhaliwyd ar 20 a 21 Rhagfyr 2022, a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

 

5.

Siarad Cyhoeddus

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd Siaradwyr Cyhoeddus mewn perthynas â cheisiadau 7.3 a 12.7.

 

6.

Ceisiadau Fydd yn Cael eu Gohirio pdf eicon PDF 545 KB

6.1 FPL/2022/60 – Cyn Ysgol Niwbwrch, Stryd Pen Dref, Niwbwrch

FPL/2022/60

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

6.1 FPL/2022/60 – Cais llawn i godi 14 annedd ynghyd â chreu ffordd fynediad fewnol a gwaith cysylltiedig â'r safle cyn Ysgol Niwbwrch, Stryd Pen Dref, Niwbwrch

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu gan fod yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn disgwyl gwybodaeth bellach ynghylch priffyrdd gan yr ymgeisydd, argymhellodd y Swyddog i ohirio’r cais.

 

Penderfynwyd gohirio’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rhesymau a nodwyd.

 

7.

Ceisiadau'n Codi pdf eicon PDF 2 MB

7.1 HHP/2022/230 – Dinas Bach, 5 Y Fron, Aberffraw

HHP/2022/230

 

7.2 FPL/2022/215 – Capel Bach, Rhosybol

FPL/2022/215

 

7.3  FPL/2022/195 – Pendref, Llanfairynghornwy

FPL/2022/195

 

7.4  DIS/2022/63 - Hen Safle Roadking,

Parc Cybi, Caergybi

DIS/2022/63

 

7.5  FPL/2022/172 – Eirianallt Goch, Carmel

FPL/2022/172

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

7.1      HHP/2022/230 – cais llawn ar gyfer addasu ac ehangu yn Ninas Bach, 5 Ystâd y Fron, Aberffraw

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol oherwydd pryderon lleol. Yn y cyfarfod a gynhaliwyd 7 Rhagfyr, 2022, penderfynodd y Pwyllgor i wrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog oherwydd credwyd bod y cais yn groes i Bolisi PCYFF 2 y Cynllun Datblygu Lleol oherwydd ei effaith ar fwynder yr eiddo preswyl cyfagos o ganlyniad i agosrwydd y datblygiad a diffyg cydymffurfiaeth gyda’r lleiafswm pellter mynegol a nodwyd yn y Canllawiau Cynllunio Atodol, ac oherwydd problemau parcio.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod adroddiad y Swyddog yn ymdrin â’r rhesymau a ddefnyddiwyd fel sail penderfyniad y Pwyllgor i wrthod y cais yn ei gyfarfod blaenorol. Mewn perthynas â’r effaith ar fwynder, cydnabyddir y bydd yr estyniad ochr un llawr 0.8m yn lletach na’r garej presennol, ac felly bydd 0.8m yn agosach at y ffin gyda 4 Y Fron. Fodd bynnag, o ystyried bod elfen o oredrych yn bodoli eisoes rhwng eiddo cyfagos, a bod hynny’n nodwedd arferol wrth fyw mewn ardal breswyl, mae’n rhaid i Swyddogion asesu a fydd y cais yn effeithio’n fwy ar fwynder na’r hyn sy’n digwydd eisoes. Er mwyn atal goredrych, mae’r ymgeisydd wedi cynnig codi ffens goed 1.95m o uchder ar ran o’r ffin, ac er bod hyn yn cael ei ystyried yn ddatblygiad a ganiateir, bydd yn rhan amodol o’r cynlluniau. Bydd yr estyniad ochr arfaethedig yn wynebu 4 Y Fron, a bydd yn cynnwys ffenestr ystafell wely, ffenestr ystafell ymolchi a drws sy’n agor i’r ystafell aml-bwrpas; credir bod camau priodol wedi’u cymryd a bod amodau priodol wedi’u gosod h.y. codi ffens a defnyddio gwydr aneglur i warchod preifatrwydd a mwynderau 4 Y Fron. Credir y bydd y mesurau hyn yn atal goredrych rhwng y ddau eiddo, gan warchod preifatrwydd a mwynderau eiddo cymdogion yn unol â Pholisi PCYFF 2.

 

Mewn perthynas â pharcio, gan fod yr eiddo’n cynnwys pedair ystafell wely, mae’n rhaid darparu tri man parcio er mwyn cydymffurfio â gofynion yr Awdurdod Priffyrdd, Mae’r cynllun safle arfaethedig yn dangos tri man parcio, yn ogystal â mannau ychwanegol ar gyfer mwy o gerbydau os bydd eu hangen, yn unol â safonau parcio polisi TRA 2. Mae’r pryderon a godwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori ynghylch problemau parcio ar ystâd Y Fron yn fater ar wahân ar gyfer yr Awdurdod Priffyrdd, ac ymdrinnir â’r mater ar wahân i’r cais hwn. Nid yw’r  Awdurdod Priffyrdd wedi codi unrhyw wrthwynebiad ar gyfer y cais ar hyn o bryd. Argymhelliad y Swyddog, felly, yw parhau i gymeradwyo’r cais.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu, pe byddai’r Pwyllgor yn glynu wrth ei benderfyniad blaenorol i wrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog, efallai y byddai’n rhaid i’r Pwyllgor gyfiawnhau’r penderfyniad mewn apeliad a allai arwain at gostau.

 

Wrth siarad fel Aelod Lleol, cwestiynodd y Cynghorydd Arfon Wyn a oedd unrhyw beth wedi newid ers gwrthod y cais yn y cyfarfod  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Ceisiadau Economaidd

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

9.

Ceisiadau am Dy Fforddiadwy

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

10.

Ceisiadau'n Gwyro

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

11.

Cynigion Datblygu a gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

12.

Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 6 MB

12.1 ADV/2022/12 - Cyfleusterau Cyhoeddus, Porth Dafarch, Lôn Isallt, Bae Trearddur.

ADV/2022/12

 

12.2 ADD/2022/13 - Maes Parcio Cyhoeddus, Lôn St Ffraid, Bae Trearddur

ADV/2022/13

 

12.3 ADV/2022/14 - Maes Parcio ger Ynys Lawd, Lôn Ynys Lawd, Caergybi.

ADV/2022/14

 

12.4 ADV/2022/15 - Parc Gwledig Morglawdd, Caergybi

ADV/2022/15

 

12.5 ADV/2022/16 – Parc Arfordirol Penrhos, Caergybi

ADV/2022/16

 

12.6 LBC/2022/33 – Amddiffyniad Pillbox ger Cofeb Skinner, Caergybi

LBC/2022/33

 

12.7 FPL/2022/248 - Gwenallt, Llansadwrn

FPL/2022/248

 

12.8 DIS/2022/36 - Hen Safle Roadking,Parc Cybi, Caergybi

DIS/2022/36

 

12.9 FPL/2022/258 - 3 Tan y Graig, Llanfairpwll

FPL/2022/258

 

12.10 FPL/2022/275 - Ysgol Llanfawr, Ffordd Tudur, Caergybi.

FPL/2022/275

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

12.1 ADV/2022/12 – Cais i osod arwydd dehongli treftadaeth ar wal yr adeilad toiled/cawod presennol yng Nghyfleusterau Cyhoeddus, Porth Dafarch, Lôn Isallt, Bae Trearddur.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai Cyngor Sir Ynys Môn yw’r ymgeisydd, a pherchennog y tir.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod y cais, ynghyd â’r ceisiadau canlynol 12.2 i 12.5, ar yr agenda, yn ffurfio rhan o gynllun ehangach ar draws Caergybi sy’n cael ei gyflwyno gan Bartneriaeth Tirwedd Ynys Cybi. Cyfeiriodd at safle, graddfa dyluniad ac ymddangosiad yr arwydd dwyieithog dan ystyriaeth, a chadarnhaodd ei fod yn dderbyniol ac yn cydymffurfio gyda pholisïau cynllunio PCYFF 2 a PCYFF 3 y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd. Hefyd, ni chredir y bydd y cais, mewn perthynas â graddfa ac ymddangosiad gweledol, yn cael unrhyw effaith negyddol ar yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol lle caiff ei leoli, na chymeriad yr adeiladu y gosodir yr arwydd. Felly, yr argymhelliad yw cymeradwyo’r cais.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunion yn yr adroddiad hwnnw.

 

12.2 ADV/2022/13 – Cais i leoli panel dehongli treftadaeth annibynnol ym Maes Parcio Cyhoeddus, Lôn Sant Ffraid, Bae Trearddur

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais yn cael ei gyflwyno gan Gyngor Sir Ynys Môn.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod y cais yn ddatblygiad graddfa fach i ddarparu panel dehongli treftadaeth dwyieithog ym maes parcio Bae Trearddur. Ystyrir bod gan y cais ddyluniad a graddfa briodol fydd yn sicrhau ei fod yn integreiddio o fewn y safle heb gael unrhyw effaith andwyol ar eiddo cyfagos. Bydd yn llawn gwybodaeth, ar gael i bawb ac yn cydymffurfio â pholisïau cynllunio perthnasol y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd. Argymhellir cymeradwyo’r cais.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunion yn yr adroddiad hwnnw.

 

12.3 ADV/2022/14 – Cais i godi arwydd dehongli treftadaeth yn y maes parcio ger Ynys Lawd, Lôn Ynys Lawd, Caergybi 

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai Cyngor Sir Ynys Môn oedd yr ymgeisydd ac sy’n berchen ar y tir.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu mai cais i godi arwydd treftadaeth sy’n sefyll ar ei ben ei hun yw hwn, a bydd yn ddwyieithog ac yn cynnwys gwybodaeth a lluniau ynghylch hanes Ynys Cybi. Ni chredir y bydd y cais yn cael effaith ar ddefnydd neu gymeriad y llwyfan gwylio presennol na’r Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol lle bydd yn cael ei leoli. Mae safle, dyluniad ac ymddangosiad y cynllun arfaethedig yn cydymffurfio â pholisïau cynllunio perthnasol, ac felly argymhellir cymeradwyo’r cais.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunion yn yr adroddiad hwnnw.

 

12.4 ADV/2022/15 – Cais i leoli arwydd dehongli treftadaeth wedi'i osod y ar wal y tu allan i adeilad presennol Canolfan Ymwelwyr Parc Gweledig y Morglawdd ym Mharc Gwledig Morglawdd, Caergybi

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12.

13.

Materion Eraill

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.