Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Hybrid - Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni /Yn rhithiol drwy Zoom

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes  01248 752518

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fel y nodwyd uchod.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Glyn Haynes ddiddordeb personol sy’n rhagfarnu mewn perthynas â chais 12.8.

 

Datganodd y Cynghorydd John I Jones ddiddordeb personol sy’n rhagfarnu mewn perthynas â chais 7.1.

 

Datganodd y Cynghorydd Ken Taylor ddiddordeb personol mewn perthynas â chais 12.8.

 

 

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 395 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gafwyd ar 1 Chwefror, 2023.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawyd fod cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 1 Chwefror 2023 yn gywir.

4.

Ymweliad Safleoedd pdf eicon PDF 175 KB

Cyflwyno cofnodion yr Ymweliad Safle a gynhaliwyd ar 15 Chwefror, 2023.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawyd fod cofnodion yr Ymweliad Safle a gynhaliwyd ar 15 Chwefror 2023 yn gywir.

 

Dywedodd y Cynghorydd Robin Williams ei fod wedi gofyn am gael gweld fideo o’r ymweliad safle corfforol a gynhaliwyd yn Lôn Penmynydd, Llangefni yn dilyn yr ymweliad safle. Mewn ymateb, dywedodd y Cadeirydd fod y fideo wedi ei rhoi ar TEAMS i aelodau’r Pwyllgor edrych arni. Dywedodd y Cynghorydd Williams nad oedd yn gallu dod i hyd i’r recordiad ac awgrymodd y dylid amlygu recordiadau yn well ar TEAMS yn y dyfodol ar gyfer Aelodau’r Pwyllgor.

 

5.

Siarad Cyhoeddus

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd siaradwyr cyhoeddus mewn perthynas â cheisiadau 7.2 a 12.8.

6.

Ceisiadau fydd yn cael ei gohirio pdf eicon PDF 330 KB

6.1 – S106/2020/3 - Land and Lakes, Parc Arfordirol Penrhos, Caergybi

S106/2020/3

 

6.2 – COMP/2021/1 - Land and Lakes, Parc Arfordirol Penrhos, Caergybi

COMP/2021/1

 

6.3 – 46C427L/COMP - Land and Lakes, Parc Arfordirol Penrhos, Caergybi

46C427L/COMP

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

6.1  S106/2020/3 - Cyflwyno ‘Cynllun Iaith Gymraeg Parc Arfordirol Penrhos’ o dan Adran 1 (Cynllun Iaith Gymraeg) o atodlen 12 o’r Cytundeb 106 a gwblhawyd mewn cysylltiad â chaniatâd cynllunio 46C427K/TR/EIA/ECON a chyflwyno Gweithred Amrywio i amrywio darpariaethau canlynol y cytundeb cyfreithiol hwn: paragraffau 2.1.1. Atodlen B (Manyleb Canolfan Ymwelwyr a Gwarchodfa Natur Cae Glas), Atodiad 2 Tabl Bondiau Canolfan Ymwelwyr Penrhos (yn cynnwys Toiledau Canolfan Ymwelwyr Penrhos) a gwaith cynnal a chadw, paragraffau 1.1 a 1.2 o Atodlen 12 (Cynllun Iaith Gymraeg) a chyfnewid Cynllun 2 Lluniad Tir Penrhos – Cynllun 2 cyfeirnod lluniad PL1114.VW008 /Rev 03 dyddiedig 03/03/2016 yn Land and Lakes, Parc Arfordirol Penrhos, Caergybi.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y Cyngor wedi derbyn llythyr gan Richard Buxton Solicitors, ar ran eu cleientiaid, a oedd yn herio dilysrwydd y caniatâd cynllunio a roddwyd i’r cynllun Land and Lakes, fel y nodir yn yr adroddiad. Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 1 Chwefror 2023, gohiriwyd y cais i roi digon o amser i’r Cyngor ystyried cynnwys y llythyr a dderbyniwyd ac ymateb yn unol â hynny. Oherwydd cymhlethdod y materion a godwyd, mae Swyddogion Cynllunio’n dal i ystyried y cais ac argymhellwyd fod y cais yn cael ei ohirio.

 

PENDERFYNWYD gohirio’r cais yn unol ag argymhelliad y swyddog ac am y rhesymau a roddwyd.

 

6.2  COMP/2021/1 - Cyflwyno gwybodaeth angenrheidiol i ryddhau adrannau; Atodlen 8, Adran 1, Cymal 1.1: Strategaeth Parcio Ceir a Mynediad Cyhoeddus – Cyfnod Parc Arfordirol Penrhos. Atodlen 8, Cymal 12.1: Cynllun Coetir Hynafol – Cyfnod Parc Arfordirol Penrhos. Atodlen 8, Adran 15, Cymal 15.1: Cynllun Cysylltiadau Gwyrdd – Cyfnod Parc Arfordirol Penrhos. Atodlen 8, Adran 17, Cymal 17.1: Cynllun Rheoli SoDdGA – Cyfnod Parc Arfordirol Penrhos. Atodlen 8, Adran 19, Cymal 19.1: Arolwg Ecolegol a Chynllun Monitro – Cyfnod Parc Arfordirol Penrhos. Atodlen 8, Adran 19, Cymal 19.4: Archwiliad Cydymffurfiaeth Ecolegol – Cyfnod Parc Arfordirol Penrhos. Atodlen 8, Adran 20, Cymal 20.1 – Cynllun Rheoli Coed Presennol – Cyfnod Parc Arfordirol Penrhos. Atodlen 8, Adran 21, Cymal 21.1 – Penodi Gwasanaeth Warden / Adroddiad Blynyddol Gwasanaeth Warden – Cyfnod Parc Arfordirol Penrhos. Atodlen 8, Adran 21, Cymal 21.2 – Gwasanaeth Warden, AHNE - Goblygiadau diogelwch / Asesiad monitro effaith Cysylltiadau Gwyrdd a’r defnydd ohonynt – Cyfnod Parc Arfordirol Penrhos. Atodlen 8, Adran 21, Cymal 21.3 – Gwasanaeth Warden, AHNE - Ymrwymiad Adroddiad Blynyddol ar yr Effaith – Cyfnod Parc Arfordirol Penrhos. Atodlen 9, Adran 3, Cymal 3.1: Cynllun Fesul Cyfnod Pentref Hamdden Penrhos – Cyfnod Parc Arfordirol Penrhos. Atodlen 11, Adran 1, Cymal 1.1: Cynllun Llafur Lleol – Cyfnod Parc Arfordirol Penrhos o oblygiadau’r cytundeb Adran 106 ynghlwm i ganiatâd cynllunio 46C427K/TR/EIA/ECON yn Land and Lakes, Parc Arfordirol Penrhos, Caergybi

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y Cyngor wedi derbyn llythyr gan Richard Buxton Solicitors, ar ran eu cleientiaid, a oedd yn herio dilysrwydd y caniatâd cynllunio a roddwyd i Land and Lakes, fel y nodir yn yr adroddiad. Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 1 Chwefror 2023, gohiriwyd y cais i roi  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Ceisiadau'n Codi pdf eicon PDF 1 MB

7.1 – FPL/2022/60 – Cyn Ysgol Niwbwrch, Stryd Pen Dref, Niwbwrch

FPL/2022/60

 

7.2 – FPL/2022/173 - Lon Penmynydd, Llangefni

FPL/2022/173

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

7.1  FPL/2022/60 – Cais llawn ar gyfer codi 14 annedd ynghyd â chreu lôn fynediad fewnol a gwaith cysylltiedig ar safle hen Ysgol Niwbwrch, Stryd Pen Dref, Niwbwrch

 

Gan iddo ddatgan diddordeb personol sy’n rhagfarnu yn y cais, gadawodd y Cynghorydd John I Jones y cyfarfod ac nid oedd yn bresennol yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais ar y cais.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais ar dir ym mherchnogaeth y Cyngor. Yng nghyfarfod diwethaf y Pwyllgor hwn, a gynhaliwyd ar 1 Chwefror 2023, gohiriwyd y cais er mwyn cynnal ymgynghoriad statudol pellach ar y wybodaeth a dderbyniwyd ynghylch diogelwch cerddwyr a gwybodaeth priffyrdd a gyflwynwyd gan yr ymgeisydd.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais yn gais llawn i godi 14 annedd ynghyd â chreu ffordd fynediad fewnol a gwaith cysylltiedig ar safle hen Ysgol Gynradd Niwbwrch yn Stryd Pendref. Mae’r tir wedi’i leoli o fewn ffin ddatblygu Niwbwrch, fel y caiff ei nodi yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd. Mae’r cynnig yn cynnwys tai pâr, teras o bedwar tŷ a fflatiau a bydd gan yr holl unedau lefydd parcio dynodedig ac ardaloedd amwynder preifat. Ni fydd llecyn agored cyhoeddus yn cael ei ddarparu ar y safle, ond, serch hynny, bydd angen darparu cyfraniad ariannol tuag at fannau chwarae anffurfiol a mannau chwarae gydag offer i blant, a gosodir amod cynllunio i sicrhau hynny. Ychwanegodd fod y safle o fewn ffin ddatblygu Niwbwrch, fel y caiff ei nodi yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd, a dyma safle’r hen ysgol gynradd, felly gellir ystyried y cynnig o dan bolisi cynllunio TAI 3. Mae maen prawf (3) ym Mholisi PCYFF 2 yn ceisio sicrhau fod cynigion yn gwneud y defnydd mwyaf effeithlon o dir, gan gynnwys cyflawni dwysedd o ddim llai na 30 uned dai yr hectar ar gyfer datblygiad preswyl. Tua 35 uned yr hectar yw dwysedd y cynnig hwn ac mae’n cydymffurfio â gofynion y Polisi. Gan fod y cais yn cael ei gyflwyno gan Adran Dai y Cyngor Sir, bydd 100% o’r datblygiad yn dai fforddiadwy ac mae hynny’n cydymffurfio â gofynion polisi TAI 15. 40 uned yw’r cyflenwad dangosol ar gyfer Niwbwrch yn ystod cyfnod y Cynllun (2011 – 2021) ac mae cyfanswm o 21 uned wedi’u cwblhau. Golyga hyn nad oes digon o gapasiti yn y cyflenwad dangosol ar gyfer Niwbwrch ar hyn o bryd a rhaid i’r ymgeisydd gyfiawnhau’r angen am y datblygiad hwn. Cyflwynodd yr ymgeisydd wybodaeth ychwanegol i brofi’r angen am y datblygiad hwn yn yr ardal. Cynhaliwyd Arolwg o’r Angen am Dai ac mae’r gymysgedd arfaethedig yn mynd i’r afael â’r angen a nodwyd yn yr arolwg hwnnw. Gan y byddai’r cynnig hwn yn arwain at safle ar hap ar gyfer datblygiad tai ar raddfa fawr, yn unol â maen prawf (2) o bolisi cynllunio PS1, mae angen cyflwyno asesiad o’r effaith ar yr iaith Gymraeg i’r Awdurdod Cynllunio Lleol. Ystyrir y bydd yr effaith ar y Gymraeg yn gymharol fychan  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Ceisiadau Economaidd

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

9.

Ceisiadau am Dy Fforddiadwy

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

10.

Ceisiadau'n Gwyro

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

11.

Cynigion Datblygu a gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion pdf eicon PDF 2 MB

11.1 – FPL/2022/128 - Safle 5, Stad Ddiwydianol Amlwch, Amlwch.

FPL/2022/128

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

11.1      FPL/2022/128 – Cais llawn ar gyfer estyniad i’r adeilad presennol yn ogystal â dymchwel y gweithdy presennol a chodi gweithdy newydd yn Safle 5, Stad Ddiwydiannol Amlwch, Amlwch

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeisydd yn swyddog perthnasol, yn unol â’r diffiniad ym mharagraff 4.5.10 y Cyfansoddiad. Mae’r Swyddog Monitro wedi archwilio’r cais yn unol â’r gofynion ym mharagraff 4.6.10.4 y Cyfansoddiad.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y datblygiad arfaethedig wedi’i leoli ar Stad Ddiwydiannol Llwyn Onn, Amlwch, sydd wedi’i ddynodi’n safle cyflogaeth eilaidd ar gyfer defnydd B1, B2 a B8 o dan Bolisi CYF 1 yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd, ac, o’r herwydd, mae egwyddor y datblygiad yn dderbyniol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Geraint Bebb fod y cais yn cael ei ganiatáu. Eiliwyd y cynnig i ganiatáu gan y Cynghorydd Jeff Evans.

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.

Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 14 MB

12.1 – MAO/2022/27 - Hen Safle Roadking, Stop Tryciau, Parc Cybi, Caergybi

MAO/2022/27

 

12.2 – ADV/2023/1 - Tŵr Gwylio Amlwch,  Amlwch.

ADV/2023/1

 

12.3 – ADV/2023/2 - Maes Parcio Uchaf, Lôn y Cei Uchaf, Porth Amlwch

ADV/2023/2

 

12.4 – ADV/2023/3 - Maes Parcio'r Prif Sgwar, Amlwch

ADV/2023/3

 

12.5 – ADV/2023/4 – Mynydd Parys, Amlwch

ADV/2023/4

 

12.6 – HHP/2022/342  - Islwyn, Ffordd Caergybi, Llanfairpwll

HHP/2022/342

 

12.7 – HHP/2022/244 – Lancefield, Ffordd Cynlas, Benllech

HHP/2022/244

 

12.8 – FPL/2021/231 - Tîr i'r Gogledd o Y Garnedd, Llanfairpwll

FPL/2021/231

 

12.9 – TPO/2022/24 - Parc Twr, Llanfairpwll

TPO/2022/24

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

12.1  MAO/2022/27 – Mân newidiadau i gynllun sydd wedi ei ganiatáu yn flaenorol o dan ganiatâd cynllunio FPL/2021/337 er mwyn diwygio’r cynlluniau a gymeradwywyd yn Hen Safle Roadking, Parc Cybi, Caergybi

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod, fel y noda adroddiad y swyddog, yn un ar gyfer gwneud mân newidiadau i gynllun a gymeradwywyd gan y Pwyllgor wrth ystyried cais cynllunio FPL/2021/337 yn ei gyfarfod ar 2 Mawrth 2022.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio, ar ôl ystyried maint y datblygiad a ganiatawyd, ynghyd â maint bychan y newidiadau arfaethedig, y bernir ei bod yn dderbyniol ymdrin â’r newidiadau drwy gyfrwng cais am ddiwygiadau ansylweddol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Ken Taylor fod y cais yn cael ei ganiatáu. Eiliwyd y cynnig i ganiatáu gan y Cynghorydd Jeff Evans.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.2  ADV/2023/1 – Cais i osod arwydd dehongli newydd yn Nhŵr Gwylio Amlwch, Amlwch

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn gais gan y Cyngor Sir.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod hwn yn gynnig am ddatblygiad ar raddfa fach i ddarparu bwrdd dehongli treftadaeth ger y Tŵr Gwylio yn Amlwch. Mae’r dyluniad a’r maint yn briodol i sicrhau y bydd yn gweddu â’r ardal ac ni fydd yn cael effaith ar eiddo cyfagos, ffyrdd nac ar yr Ardal Gadwraeth ac mae’n cydymffurfio â pholisïau cynllunio perthnasol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Ken Taylor fod y cais yn cael ei ganiatáu. Eiliwyd y cynnig i ganiatáu gan y Cynghorydd Jeff Evans.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.3  ADV/2023/2 – Cais i godi arwydd dehongli yn y Maes Parcio Uchaf, Stryd y Cei Uchaf, Porth Amlwch

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn gais gan Gyngor Sir Ynys Môn.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cynnig yn ddatblygiad ar raddfa fach i ddarparu bwrdd dehongli treftadaeth yn y maes parcio cyhoeddus yn Stryd y Cei Uchaf, Amlwch. Mae’r dyluniad a’r maint yn addas i sicrhau ei fod yn gweddu â’r safle ac ni fydd yn cael effaith ar eiddo cyfagos, ffyrdd, llwybrau troed na’r ardal gyfagos ac mae’n cydymffurfio â pholisïau cynllunio perthnasol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Jeff Evans fod y cais yn cael ei ganiatáu. Eiliwyd y cynnig i ganiatáu gan y Cynghorydd Dafydd Roberts.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.4  ADV/2023/3 – Cais am arwydd dehongli newydd ym maes Parcio’r Prif Sgwâr, Amlwch

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn gais gan y Cyngor Sir.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cynnig yn ddatblygiad ar raddfa fach i ddarparu bwrdd dehongli treftadaeth ym Maes Parcio’r Prif Sgwâr a leolir ar Stryd y Cei Uchaf, Amlwch. Mae ei ddyluniad a’i faint yn addas i sicrhau y bydd  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12.

13.

Materion Eraill pdf eicon PDF 3 MB

13.1 – DEM/2023/2 – Pencraig, Llangefni

DEM/2023/2

 

13.2 – DEM/2023/3 – Pencraig, Llangefni

DEM/2023/3

 

13.3 – DEM/2023/4 - Maes Hyfryd, Llangefni.

DEM/2023/4

 

13.4 – DEM/2023/5 -  Bro Tudur, Llangefni

DEM/2023/5

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

13.1  DEM/2023/2 - Cais i bennu a oes angen caniatâd ymlaen llaw i ddymchwel modurdy ym Mhencraig, Llangefni

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion er gwybodaeth yn unig. Mae’r cynnig yn ymwneud â dymchwel un modurdy domestig nad yw’n cael ei defnyddio ac sydd wedi dadfeilio ym Mhencraig, Llangefni ac ystyrir ei fod yn ddatblygiad a ganiateir o dan Ran 31 Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995. Fel rhan o’r cais i ddymchwel y modurdy, mae angen cyflwyno cais ac mae’n rhaid i’r Awdurdod Cynllunio Lleol ymateb iddo o fewn 28 diwrnod ond mae’r cyfnod hwnnw wedi dod i ben yn awr.

 

Nodwyd y wybodaeth a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

13.2  DEM/2023/3 – Cais i bennu a oes angen caniatâd ymlaen llaw i ddymchwel modurdai ym Mhencraig, Llangefni

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion er gwybodaeth yn unig. Mae’r cynnig yn ymwneud â dymchwel bloc o 8 modurdy domestig nad ydynt yn cael eu defnyddio ac sydd wedi dadfeilio ym Mhencraig, Llangefni ac ystyrir bod y gwaith yn ddatblygu a ganiateir o dan Ran 31 Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995. Fel rhan o’r cais i ddymchwel y modurdai, mae angen cyflwyno cais a rhaid i’r Awdurdod Cynllunio Lleol ymateb iddo o fewn 28 diwrnod ond mae’r cyfnod hwnnw wedi dod i ben yn awr.

 

Nodwyd y wybodaeth a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

13.3  DEM/2023/4 – Cais i bennu a oes angen caniatâd ymlaen llaw i ddymchwel modurdai ym Maes Hyfryd, Llangefni

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion er gwybodaeth yn unig. Mae’r cynnig yn ymwneud â dymchwel bloc o 10 modurdy domestig nad ydynt yn cael eu defnyddio ac sydd wedi dadfeilio ym Maes Hyfryd, Llangefni ac ystyrir fod y gwaith yn ddatblygu a ganiateir o dan Ran 31 Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995. Fel rhan o’r cais i ddymchwel y modurdai, mae angen cyflwyno cais ac mae’n rhaid i’r Awdurdod Cynllunio Lleol ymateb iddo o fewn 28 diwrnod ond mae’r cyfnod hwnnw wedi dod i ben yn awr.

 

Nodwyd y wybodaeth a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

13.4  DEM/2023/5 – Cais i bennu a oes angen caniatâd ymlaen llaw i ddymchwel 28 modurdy ym Mro Tudur, Llangefni

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion er gwybodaeth yn unig. Mae’r cynnig yn ymwneud â dymchwel bloc o 28 modurdy domestig sydd wedi dadfeilio nad ydynt yn cael eu defnyddio ym Mro Tudur, Llangefni ac ystyrir bod y gwaith yn ddatblygu a ganiateir o dan Ran 31 Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995. Fel rhan o’r cais i ddymchwel y modurdai, mae angen cyflwyno cais ac mae’n rhaid i’r Awdurdod Cynllunio Lleol ymateb iddo o  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 13.