Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Cyfarfod Hybrid - Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Fel y nodir uchod.
|
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Fe wnaeth y Cynghorydd John Ifan Jones ddatgan diddordeb personol (ond nid un a oedd yn rhagfarnu) mewn perthynas â chais 7.5.
|
|
Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 5 Mehefin, 2024. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 5 Mehefin, 2024 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.
|
|
Cyflwyno, cofnodion yr Ymweliadau Safle a gynhaliwyd ar 19 Mehefin, 2024. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion yr Ymweliadau Safle a gynhaliwyd ar 19 Mehefin, 2024 a chadarnhawyd eu bod yn gywir yn amodol ar eu diwygio i nodi bod y Cynghorydd Robin Williams wedi bod yn bresennol ar gyfer ceisiadau rhif 1, 3 a 4.
|
|
Siarad Cyhoeddus Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd Siaradwyr Cyhoeddus yn gysylltiedig â cheisiadau 7.1, 7.4, 7.7 a 12.2.
|
|
Ceisiadau fydd yn cael eu gohirio PDF 627 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 6.1 FPL/2023/15 – Cais llawn i godi 15 tŷ fforddiadwy, creu mynedfa newydd i gerbydau ac i gerddwyr ynghyd â chreu ffordd fewnol a gwaith cysylltiedig ar dir ger Haulfryn, Scotland Terrace, Bodffordd
Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod Aelod Lleol wedi gofyn am gynnal ymweliad safle oherwydd pryderon lleol yn ymwneud â materion priffyrdd ac amwynderau preswyl.
Dywedodd y Cynghorydd Dylan Rees, Aelod Lleol ei fod yn cefnogi’r cais i gynnal ymweliad safle ond roedd yn deall bod angen gohirio’r ymweliad gan eu bod yn disgwyl am adroddiad gan Swyddogion ar ddiogelwch y ffordd. Dywedodd y dylai adroddiad yr Awdurdod Priffyrdd fod ar gael cyn cynnal ymweliad safle.
Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fel yr oedd yr Aelod Lleol wedi nodi ei fod wedi gofyn am ymweliad safle cyn y Pwyllgor hwn. Grŵp Cynefin yw’r ymgeisydd ac mae ganddynt dargedau i sicrhau cyllid ar gyfer datblygu tai fforddiadwy o'r fath. Roedd o'r farn na fyddai’n bosibl derbyn adroddiad yr Awdurdod Priffyrdd cyn yr ymweliad safle, ond gallai amlinellu pryderon yr Aelodau Lleol a'r trigolion yn ystod ymweliad safle.
Roedd y Cynghorydd Dylan Rees yn derbyn sylwadau'r Swyddog ond roedd yn anghytuno gan fod adroddiad yr Awdurdod Priffyrdd yn bwysig cyn ymweld â'r safle.
Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylid cynnal ymweliad safle am y rhesymau a roddwyd. Eiliodd y Cynghorydd Neville Evans y cynnig.
PENDERFYNWYD gohirio’r cais er mwyn cynnal ymweliad safle.
|
|
7.1 FPL/2023/181 - Shirehall, Lôn Glanhwfa, Llangefni.
7.2 FPL/2023/118 – Wern Farm, Ffordd Pentraeth, Porthaethwy
7.3 FPL/2023/328 – Capel Jerusalem, Llangoed
7.4 FPL/2024/64 - Tyddyn Dylifws, Tyn y Gongl
7.5 FPL/2023/61 – Taldrwst, Lôn Fain, Dwyran
7.6 FPL/2023/339 – Lane Ends, Llaneilian
7.7 FPL/2024/40 - Anglesey Golf Club, Station Road, Rhosneigr.
7.8 HHP/2024/56 - 2 Saith Lathen, Ty Croes
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 7.1 FPL/2023/181 – Cais llawn ar gyfer codi 6 uned breswyl ynghyd â gwaith cysylltiedig yn Neuadd y Sir, Lôn Glanhwfa, Llangefni
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelodau Lleol oherwydd pryderon lleol am orddatblygu, yr angen am yr unedau hyn, diffyg lle parcio a mynediad i mewn ac allan o'r safle. Yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Mehefin, 2024 penderfynodd yr aelodau gynnal ymweliad safle a gynhaliwyd ar 19 Mehefin, 2024.
Siaradwr Cyhoeddus
Gan siarad i gefnogi'r cais, dywedodd Mr Owain Hughes, Asiant yr ymgeiswyr, fod Neuadd y Sir yn adeilad pwysig yng nghanol y dref hon, adeilad sydd wedi bod yn strwythur pwysig wrth ddod i mewn i'r dref hanesyddol. Mae'r cais hwn yn rhoi cyfle i'r ymgeisydd ychwanegu gwerth at y tir a datblygu'r hen adeilad. Gwnaed gwaith gyda'r adran gynllunio, i lunio adeilad modern sydd hefyd yn cyd-fynd â'r adeilad hanesyddol. Mae trafodaethau wedi'u cynnal gyda Cyfoeth Naturiol Cymru ac maen nhw wedi cytuno nad oes unrhyw broblemau llifogydd. Mae'r Adran Briffyrdd wedi cadarnhau eu bod yn fodlon gyda'r ddarpariaeth barcio ar y safle ac mae meysydd parcio eraill yn Llangefni.
Mae effaith y cynnig, yn enwedig ar amwynder defnyddwyr tir gerllaw wedi cael ei ystyried yn unol â'r meini prawf ac mae'r cais arfaethedig wedi'i leoli tua 53 metr oddi wrth y tŷ preswyl agosaf ar Ffordd Glanhwfa. Rhwng yr adeilad arfaethedig a'r adeilad preswyl agosaf mae maes parcio mawr sy'n cael ei ddefnyddio gan staff Cyngor Sir Ynys Môn. Oherwydd y pellter, a'r pellter rhwng y cais arfaethedig a'r eiddo preswyl agosaf, ni ystyrir bod effaith negyddol ar amwynderau preswyl cyfagos. Mae'r cais arfaethedig yn cydymffurfio â'r holl bolisïau, mae'r ymgynghorwyr statudol yn fodlon â'r datblygiad. Mae màs yr adeilad a’r newidiadau a wnaed bellach yn dderbyniol i'r adran ac nid yw'n niweidiol i'r adeilad rhestredig. Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod Llangefni’n cael ei nodi fel Canolfan Wasanaeth Drefol o dan Bolisi TAI 1 yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd. Mae’r polisi hwn yn cefnogi datblygu tai i gyflawni strategaeth y Cynllun trwy ddyraniadau tai a safleoedd addas heb eu dyrannu o fewn y ffin ddatblygu, yn seiliedig ar y ddarpariaeth ddangosol a ddangosir yn y Polisi. Y cyflenwad dangosol ar gyfer Llangefni dros gyfnod y Cynllun yw 673 uned. Yn ystod y cyfnod 2011 i 2022, cwblhawyd cyfanswm o 197 uned. Ym mis Ebrill 2022, roedd 67 uned yn y banc tir safleoedd ar hap, h.y. safleoedd sydd wedi cael caniatâd cynllunio yn barod ac sy’n debygol o gael eu datblygu; roedd 235 uned yn y banc tir safleoedd dynodedig. Mae hyn yn golygu na fyddai’r datblygiad hwn yn darparu mwy na’r ddarpariaeth dai ddangosol yn Llangefni. O ystyried y ffigurau uchod o dan faen prawf (1b) Polisi PS1, nid oes angen datganiad iaith Gymraeg i gefnogi'r cais. Mae datganiad tai wedi dod i law gyda'r cais cynllunio ac mae'r Adran Dai wedi cadarnhau bod angen eiddo 3 ystafell wely yn ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7. |
|
Ceisiadau Economaidd Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd unrhyw faterion o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
Ceisiadau am Dai Fforddiadwy Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd unrhyw faterion o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
Ceisiadau'n Gwyro Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd unrhyw faterion o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
Cynigion Datblygu a gyflwynwyd gan Gyghorwyr neu Swyddogion Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd unrhyw faterion o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
12.1 FPL/2024/37 – Haulfryn, Capel Mawr, Llangristiolus
12.2 FPL/2023/353 - Cae Rhos, Ffordd Porthdafarch, Caergybi
12.3 FPL/2020/104 – Stâd Ty'n Llain, Llanfairpwll
12.4 FPL/2023/364 - Ysgol Gynradd Morswyn, Ffordd Cyttir, Caergybi
12.5 VAR/2024/31 – Tir ger Stâd Bryn Glas, Brynsiencyn.
12.6 FPL/2024/66 - Bryncelli Ddu, Llanddaniel
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 12.1 FPL/2024/37 – Cais llawn am estyniad i'r ganolfan ddydd i ddarparu llety preswyl yn Haulfryn, Capel Mawr, Llangristiolus
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod ar dir sy'n eiddo i'r cyngor.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y safle wedi'i leoli yng nghlwstwr gwledig Capel Mawr fel y'i diffinnir o dan y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd. Ar y safle presennol ceir adeilad a ddefnyddiwyd yn flaenorol fel annedd, ond yn ddiweddar mae gwaith wedi’i wneud arno i’w newid yn ganolfan gofal dydd yn unol â chaniatâd FPL/2021/310. Mae’r adeilad yn un llawr gyda digon o gwrtil a 2 fynedfa breifat oddi ar y ffordd gyhoeddus i fynd i mewn ac allan o’r safle. Mae’r cais hwn ar gyfer codi estyniad yng nghefn yr adeilad a fydd yn creu lle ar gyfer 3 ystafell wely, a ddefnyddir fel llety ar gyfer 1 aelod staff a 2 ddefnyddiwr gwasanaeth. Ystyrir bod y cynnig yn cydymffurfio â pholisi cynllunio TAI 11, gan fod y safle o fewn llain fawr o dir ac na fyddai'n niweidiol i'r eiddo cyfagos. Nid oes gan yr Awdurdod Priffyrdd unrhyw wrthwynebiad i'r cais gan y bydd y cynnig yn defnyddio'r fynedfa a’r allanfa bresennol fel y cymeradwywyd yn flaenorol.
Cynigiodd y Cynghorydd Geraint Bebb y dylid cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog. Eiliodd y Cynghorydd Robin Williams y cynnig i’w gymeradwyo.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.2 FPL/2023/353 – Cais llawn ar gyfer codi 54 o anheddau newydd, adeiladu mynedfa a ffordd newydd i gerbydau ynghyd â gwaith tirweddu meddal a chaled ar dir ger Cae Rhos, Ffordd Porthdafarch, Caergybi
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais dau Aelod Lleol oherwydd pryderon ynghylch gorddatblygu'r ardal, diogelwch y briffordd a phryderon lleol.
Siaradwr Cyhoeddus
Gan siarad i gefnogi'r cais, dywedodd Asiant yr ymgeisydd, fod caniatâd cynllunio eisoes wedi'i roi i ddatblygu'r safle ac mae'r cais hwn gan Clwyd Alyn ar gyfer codi 54 o anheddau yn cynnwys 4 byngalo dwy ystafell wely, 1 byngalo dwy ystafell wely ac 1 byngalo tair ystafell wely gyda’r ddau yn hygyrch i gadeiriau olwyn, 10 annedd dwy ystafell wely, 12 annedd tair ystafell wely, 6 annedd pedair ystafell wely ac 20 fflat un ystafell wely. Mae nifer yr anheddau yn uwch na'r cynllun a gymeradwywyd yn flaenorol, ond mae hyn oherwydd bod y cais hwn yn cynnig cartrefi a fflatiau llai i ddiwallu'r angen lleol am dai fforddiadwy. Mae'r safle o fewn ffin datblygu Caergybi ac mae wedi'i ddynodi ar gyfer datblygu tai yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd. Mae'r CDLl ar y Cyd yn amcangyfrif bod y safle yn addas ar gyfer 53 o unedau (un yn llai na'r cynnig hwn). Felly, mae'r cais hwn yn cydymffurfio â'r CDLl ar y Cyd ac yn gwneud gwell defnydd o'r safle na'r cais a gymeradwywyd yn flaenorol. Mae'n bwysig nodi, er bod y ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12. |
|
13.1 MAO/2024/4 - Cae Braenar, Penrhos, Caergybi
13.2 RM/2024/1 – Tir ger Tyn y Ffynnon, Llannerch-y-medd
13.3 MAO/2024/7 – Tre Angharad, Bodedern Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 13.1 MAO/2024/4 – Mân newidiadau i gynllun sydd wedi ei ganiatáu yn flaenorol o dan ganiatâd cynllunio rhif FPL/2022/53 er mwyn diwygio'r deunyddiau gorffenedig yng Nghae Braenar, Penrhos, Caergybi
Hysbyswyd y Pwyllgor bod y cais am fân newidiadau wedi cael ei gymeradwyo ar 14 Mehefin er mwyn diwygio’r deunyddiau gorffenedig.
13.2 Cais am faterion a gadwyd yn ôl ar gyfer adeiladu 10 annedd ynghyd â darparu gwybodaeth i ryddhau amod (05) (Cynllun Rheoli Traffig Adeiladu), amod (06) (Trefniadau Mynedfa) ac amod (09) (Prif Bibell Ddŵr) o ganiatâd cynllunio OP/2021/10 yn Nhŷ’n y Ffynnon, Llannerch-y-medd.
Hysbyswyd y Pwyllgor bod y cais Materion a Gadwyd yn ôl wedi cael ei gymeradwyo ar 7 Mehefin, 2024.
13.3 MAO/2024/7 – Mân newidiadau i gynllun sydd wedi cael ei ganiatáu yn flaenorol o dan ganiatâd cynllunio rhif FPL/2020/71 er mwyn diwygio dyluniad yn Nhre Angharad, Bodedern.
Hysbyswyd y Pwyllgor bod y cais am fân newidiadau wedi cael ei gymeradwyo ar 3 Gorffennaf, 2024 er mwyn diwygio deunydd y gorffeniad.
|