Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion - Dydd Mercher, 1af Hydref, 2025 1.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Hybrid - Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fel y nodwyd uchod.

 

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu i’r Cynghorydd Glyn Haynes ddatgan buddiant personol a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas â chais 7.2 a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais.

 

Bu i’r Cynghorydd Trefor Ll Hughes MBE ddatgan buddiant personol a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas â chais 7.2 a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais.

 

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 319 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 3 Medi, 2025.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawyd bod cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 3 Medi, 2025 yn gywir.

 

4.

Ymweliad Safleoedd pdf eicon PDF 159 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion yr Ymweliad Safle a gynhaliwyd ar 17 Medi, 2025.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawyd bod cofnodion yr Ymweliad Safle a gynhaliwyd ar 17 Medi, 2025 yn gywir.

 

5.

Siarad Cyhoeddus

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd Siaradwyr Cyhoeddus mewn perthynas â chais 7.2.

 

6.

Ceisiadau fydd yn cael eu gohirio

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

7.

Ceisiadau'n Codi pdf eicon PDF 2 MB

7.1 - OP/2025/3 – Ty’n Llain, Malltraeth

OP/2025/3

 

7.2 – OP/2025/1 – Ffordd Llanfawr, Caergybi

OP/2025/1

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

7.1 OP/2025/3 – Cais amlinellol gyda phob mater wedi’i gadw’n ôl i godi annedd ar dir ger Ty'n Llain, Malltraeth

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.  Yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Gorffennaf, 2025, argymhellodd y Pwyllgor eu bod yn ymweld â’r safle, a chynhaliwyd yr ymweliad ar 30 Gorffennaf, 2025.  Yn y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 3 Medi, 2025 penderfynwyd cymeradwyo'r cais, yn groes i argymhelliad y Swyddog oherwydd ystyrid bod y safle yn ardal heb hanes llifogydd ac yn safle mewnlenwi rhwng eiddo preswyl presennol.  Mae'r safle mewn parth llifogydd sydd mewn risg o lifogydd o’r môr, ond mae gan Falltraeth fesurau atal llifogydd sy'n cael eu cynnal gan Cyfoeth Naturiol Cymru. 

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod safle'r cais yn bennaf o fewn Parth Llifogydd C2 ar y Map Cyngor Datblygu, at ddibenion TAN 15 (2004).  Mae safle’r cais cyfan hefyd yn dod o fewn Moroedd Parth Llifogydd C3, ar y Mapiau Llifogydd ar gyfer Cynllunio mwy diweddar y cyfeirir atynt yn y TAN 15 (2025) diweddar.  Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru TAN 15 newydd yn ystod cyfnod y cais hwn.  Mae'r ddogfen yn cadarnhau y dylid ei darllen ar y cyd â Pholisi Cynllunio Cymru a Chynllun Morol Cenedlaethol Cymru sy’n cymryd lle’r TAN 14 a'r TAN 15 blaenorol.  Fodd bynnag, bydd y Datganiad Ysgrifenedig Gweinidogol dyddiedig 31 Mawrth, 2025, a oedd yn cyd-fynd â chyhoeddi'r TAN newydd, yn parhau i gael ei asesu yn erbyn y fersiwn flaenorol.  Diffinnir Parth Llifogydd C2 fel ardaloedd o'r gorlifdir heb isadeiledd amddiffyn rhag llifogydd sylweddol ac mae TAN 15 (2004) yn datgan yn glir na ddylid caniatáu 'datblygiad bregus iawn' sy'n cynnwys pob adeilad preswyl, mewn parthau o'r fath.  Mae'r egwyddor hon yn arbennig o bwysig o ystyried newid hinsawdd, sydd yn ôl Polisi Cynllunio Cymru (Argraffiad 12) yn debygol o gynyddu'r risg o lifogydd oherwydd cynnydd yn lefel y môr.  Mae Polisi Cynllunio Cymru hefyd yn datgan y dylai awdurdodau cynllunio fod yn rhagofalus ac osgoi datblygu mewn ardaloedd sy’n wynebu llifogydd o'r môr neu o afonydd.  Mae'r egwyddorion hyn yn cael eu hadlewyrchu ym mholisi PS6 o'r Cynllun Datblygu Lleol sydd, ymysg pethau eraill, yn ceisio sicrhau nad yw datblygiadau’n cael eu lleoli mewn ardaloedd lle mae risg o lifogydd, er mwyn addasu i effeithiau newid hinsawdd.  Mae datblygiad bregus iawn yn cael ei ddosbarthu fel pob safle preswyl, adeiladau cyhoeddus, yn enwedig datblygiadau diwydiannol arbennig o fregus a safleoedd gwaredu gwastraff. Mae paragraff 7.4 yn Nodyn Cyngor Technegol 15 yn datgan bod rhaid gwneud astudiaeth gynhwysfawr o lifogydd cyn penderfynu a all datblygiad fynd yn ei flaen. Dylai hyn edrych ar beth sy’n achosi’r llifogydd a sut fyddai’r llifogydd hynny yn effeithio ar y datblygiad. Rhaid i'r astudiaeth fod yn briodol ar gyfer maint a graddfa’r datblygiad a gynigir.  Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gwrthwynebu'r cais gan nad yw'r Asesiad Canlyniadau Llifogydd yn dangos y gellir rheoli risgiau a chanlyniadau llifogydd i lefel dderbyniol yn unol â  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Ceisiadau Economaidd

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

9.

Ceisiadau am Dy Fforddiadwy

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

10.

Ceisiadau'n gwyro

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

11.

Cynigion datblygu a gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

12.

Gweddill y Ceisiadau

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

13.

Materion Eraill pdf eicon PDF 400 KB

13.1 Gorchymyn Rheoleiddio Traffic

 

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Priffyrdd, Gwastaff a Eiddo.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

13.1 Gorchmynion Rheoleiddio Traffig

 

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Pennaeth Priffyrdd, Eiddo a Gwastraff.

 

Adroddodd y Peiriannydd Grŵp (Rheoli Datblygu) a Rheoli Traffig fod yr adroddiad yn manylu ar y gwrthwynebiadau a'r sylwadau a dderbyniwyd yn dilyn hysbysebu sawl Gorchymyn Rheoleiddio Traffig arfaethedig ar gyfer nifer o leoliadau mewn perthynas â rhannau o ffyrdd sydd wedi'u heithrio o'r terfynau cyflymder 20mya gorfodol a gyflwynwyd ym mis Medi, 2023.  Nododd fod yr Awdurdod wedi paratoi 7 Gorchymyn Rheoleiddio Traffig gan gynnwys 25 o newidiadau i ardaloedd sy'n troi’n ôl i fod yn 30mya neu 40mya.  Yn ystod y cyfnod ymgynghori derbyniwyd sawl gwrthwynebiad ynglŷn â'r cynigion sydd wedi golygu bod angen

cyflwyno'r Gorchmynion Rheoleiddio Traffig i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion i'w penderfynu. Dywedodd ymhellach, ar ôl cyflwyno'r terfynau cyflymder gorfodol 20 mya ar ffyrdd cyfyngedig yng Nghymru, bod yr Awdurdod wedi derbyn Canllawiau Llywodraeth Cymru i edrych ar y ffyrdd A a B a'r prif ardaloedd adeiledig yn bennaf.  Cyhoeddwyd canllawiau wedi'u diweddaru ym mis Gorffennaf, 2024 gyda newidiadau i'r geiriad o dan Feini Prawf Lle fel bod mwy o hyblygrwydd, ac i’w gwneud yn gliriach ar ba ffyrdd y gallai terfyn cyflymder o 30mya fod yn fwy priodol.  Rhwng Ebrill 2024 a Thachwedd 2024, rhoddodd yr awdurdod wahoddiad i aelodau lleol, cynghorau tref/cymuned a'r cyhoedd roi adborth ar ba ffyrdd yr hoffent i'r awdurdod eu hasesu a rhoi rhesymau dilys dros y cais, yn seiliedig ar y canllawiau oedd wedi'u diweddaru.  Cyhoeddwyd y rhestr derfynol o'r ffyrdd a awgrymwyd ar wefan y Cyngor sy’n cynnwys cyfanswm o 47 o ffyrdd.  Aseswyd pob rhan o'r ffyrdd gan ddefnyddio fframwaith/taflen asesu fanwl yn seiliedig ar y canllawiau a oedd wedi'u diweddaru.  Cyflwynwyd rhestr fer o ffyrdd priodol i'w hystyried i’w troi’n ôl i fod yn ffyrdd 30mya i Grŵp Llywio o Aelodau Etholedig o bob grŵp gwleidyddol ac Uwch Swyddogion o fewn yr Adran Priffyrdd.  Cynhaliwyd cyfanswm o 3 cyfarfod rhwng Awst a Hydref 2024 er mwyn adolygu'r holl gynigion ac i gwblhau rhestr o'r 27 safle; cafodd dau safle eu tynnu oddi ar y rhestr gan adael 25 o safleoedd i’w hystyried.  Cynhaliwyd ymgynghoriad statudol gyda chynghorau tref/cymuned lleol, aelodau etholedig, gwasanaethau brys a’r gymdeithas trafnidiaeth cludo nwyddau rhwng 14 Chwefror, 2025 a 4 Ebrill, 2025.  Derbyniwyd 103 o sylwadau o blaid ac yn erbyn y cynigion yn ystod ymgynghoriad cyhoeddus rhwng mis Mai 2025 a Mehefin, 2025. Roedd crynodeb o'r ymatebion wedi’i gynnwys yn yr adroddiad. 

 

Roedd y 7 Gorchymyn Rheoliadau Traffig fel a ganlyn:

 

  • Ward Twrcelyn

 

Amlwch A5025

Amlwch – Lôn Parys i Ffordd Madyn

Porthllechog – A5025

 

Dywedodd y Cynghorydd Derek Owen, Aelod Lleol ei fod yn cytuno â'r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig yn Ward Twrcelyn.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylid cymeradwyo'r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig, ac eiliodd y Cynghorydd John Ifan Jones y cynnig i’w gymeradwyo.

 

·       Wardiau Canolbarth Môn a Chefni

 

A5 Ffordd ddynesu Bodffordd

Llangefni – Ffordd yr Ystâd Ddiwydiannol

B5111 Rhosmeirch - Ffordd ddynesu Coedana

Talwrn – Ffordd yr Hen  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 13.