Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion - Dydd Mercher, 1af Gorffennaf, 2026 1.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Council Chamber - Council Offices

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ethol Cadeirydd

Ethol Cadeirydd i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Etholwyd y Cynghorydd Geraint Bebb yn Gadeirydd y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fe wnaeth y Cynghorydd Geraint Bebb ddatgan diddordeb personol yn gysylltiedig â chais 12.4 - Ysgol Gyfun Llangefni am ei fod yn Llywodraethwr yn yr ysgol.  Gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais. 

 

Fe wnaeth y Cynghorydd Euryn Morris ddatgan diddordeb personol a rhagfarnus yn gysylltiedig â chais 12.6 - yr A5025 rhwng y Gyffordd ar yr A5 i’r Dwyrain o’r Fali i’r Orsaf Bŵer yng Nghemaes - gan fod ei wraig yn cael ei chyflogi gan y cwmni.  Gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais.

 

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 289 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 1 Ebrill, 2026.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawyd bod cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 1 Ebrill, 2026 yn gywir.

 

 

4.

Ymweliad Safleoedd

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

5.

Siarad Cyhoeddus

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd Siaradwr Cyhoeddus yn gysylltiedig â chais 12.6.

 

6.

Ceisiadau fydd yn cael eu gohirio

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

7.

Ceisiadau'n Codi

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

8.

Ceisiadau Economaidd

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

9.

Ceisiadau am Dy Fforddiadwy

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

10.

Ceisiadau'n gwyro

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

11.

Cynigion datblygu a gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion pdf eicon PDF 885 KB

11.1 – FPL/2026/61 – 32 Stryd Fawr, Porthaethwy

FPL/2026/31

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

11.1       FPL/2026/61 – Cais llawn ar gyfer addasiadau ac ehangu yn 32 Stryd Fawr, Porthaethwy

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeisydd yn perthyn i Swyddog perthnasol, yn unol â’r diffiniad yng Nghyfansoddiad y Cyngor.  Mae’r Swyddog Monitro wedi craffu ar y cais fel sy’n ofynnol o dan baragraff 4.6.10.4 yn y Cyfansoddiad.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod hwn yn gais cynllunio llawn i godi estyniad un llawr â tho fflat yn nghefn y ddeintyddfa a chlinig iechyd yn 32 Stryd Fawr, Porthaethwy.   Nododd bod y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion wedi cymeradwyo’r cais blaenorol i  droi’r annedd yn ddeintyddfa a chlinig iechyd a bod y cais hwn yn ymwneud â chodi estyniad pellach i greu mwy o le yn yr adeilad.   Bydd yr estyniad yn mesur 2.8m x 1.5m a 2.5m o uchder ac fel arfer byddai estyniad o’r maint hwn y tu ôl i adeilad yn dod o dan hawliau datblygu a ganiateir, fodd bynnag mae’r safle dan sylw mewn Ardal Gadwraeth.   Gan mai estyniad bach, o ansawdd uchel yw hwn yng nghefn yr adeilad, ni fydd yn cael effaith andwyol ar gymeriad yr Ardal Gadwraeth nac unrhyw eiddo gerllaw gan fod gan sawl eiddo arall yn y cyffiniau estyniad tebyg.  Argymhellwyd cymeradwyo’r cais.

 

Dywedodd y Cynghorydd Robin Williams, aelod o’r pwyllgor ac Aelod Lleol, nad oedd ganddo unrhyw wrthwynebiad i’r cais a chynigodd ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y Swyddog.  Eiliwyd y cynnig i gymeradwyo'r cais gan y Cynghorydd Kenneth P Hughes.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.

 

 

12.

Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 4 MB

12.1 – FPL/2026/7 – Tyn Llan, Ffordd Penmynydd, Penmynydd

FPL/2026/7

 

12.2 – FPL/2026/34 – Ty Llwyd, Llanfaelog

FPL/2026/34

 

12.3 – FPL/2026/59 – Enochs, Ffordd Caergybi, Y Fali

FPL/2026/59

 

12.4 – FPL/2026/66 – Ysgol Gyfun, Llangefni

FPL/2026/66

 

 

12.5 - RM/2026/1 – Peboc, Llangefni

RM/2026/1

 

12.6 – VAR/2026/14 - A5025 rhwng y Gyffordd ar yr A5 i’r Dwyrain o’r Fali i’r Orsaf Bwer yng Nghemaes 

VAR/2026/14

 

12.7 – HHP/2026/72 – Ardraeth, Lon Traeth Llydan, Rhosneigr

HHP/2026/72

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

12.1  FPL/2026/7 – Cais llawn ar gyfer creu lagŵn slyri ar dir yn Tyn Llan, Ffordd Penmynydd, Penmynydd.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y safle ym mherchnogaeth y Cyngor.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod angen y lagŵn slyri arfaethedig i wella’r system rheoli slyri bresennol ar y fferm er mwyn cydymffurfio â gofynion Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021. Yn ogystal â hynny, mae gwaharddiad ar wasgaru slyri yn ystod y gaeaf a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru yn golygu fod rhaid i bob fferm fod â chapasiti i storio slyri am o leiaf pum mis er mwyn cydymffurfio â’r rheoliadau.   Mae’r cais, fel yn achos sawl fferm arall ar Ynys Môn, yn cael ei gyflwyno i gydymffurfio â’r rheoliadau hyn.  Mae adran 5.6.8 o Bolisi Cynllunio Cymru yn datgan y dylai awdurdodau cynllunio fabwysiadu ymagwedd adeiladol at gynigion datblygu amaethyddol, yn enwedig y rhai a gynlluniwyd i ddiwallu anghenion mewn perthynas â newid arferion ffermio neu sy’n angenrheidiol i sicrhau cydymffurfiaeth â deddfwriaeth amgylcheddol, hylendid neu les newydd.   Mae’r safle’n ddaliad amaethyddol o thua 170 acer sy’n cadw tua 75 o fuchod sugno a 200 o ddefaid magu. Ar hyn o bryd mae’r ddwy storfa slyri concrit presennol wedi’u lleoli ar ran mwyaf deheuol y fferm. Adeiladwyd y strwythurau hyn cyn 1991 ac mae’r capasiti defnyddiadwy tua 244.7 metr ciwbig. Mae cyfrifiadau slyri a gynhwyswyd yn yr adroddiadau isadeiledd fferm yn nodi bod angen storio 1900 metr ciwbig. Mae hyn yn amlygu diffyg sylweddol yn y capasiti storio slyri ar y daliad, gan olygu bod gofyn uwchraddio er mwyn bodloni gofynion capasiti storio cyffredinol a osodwyd gan Lywodraeth Cymru.  Nid yw Cyfoeth Naturiol Cymru yn gwrthwynebu’r datblygiad a fydd yn gwella’r trefniadau rheoli slyri presennol ar y fferm.  Nododd bod 2 lythyr o wrthwynebiad wedi cael ei dderbyn yn sgil pryderon ynglyn ag arogleuon, effaith weledol ac effaith ar eiddo cyfagos. Bydd y lagŵn arfaethedig tua 120m oddi wrth y terfyn â 4 Glanffrwd i’r de orllewin, a dyma’r eiddo agosaf mewn teras o bedwar tŷ ar hyd y B5420. Bydd y lagŵn bellter tebyg hefyd oddi wrth Tyn Pistyll a Derw Newydd i’r de, a Tyn Refail i’r de orllewin, ar y naill ochr a’r llall i’r briffordd gyhoeddus. Mae nifer o eiddo preswyl eraill i’r gorllewin rhwng 200m a 350m oddi wrth y lagŵn arfaethedig.  Cydnabyddir y bydd rhai arogleuon achlysurol yn gysylltiedig â’r lagŵn slyri a gwaith y fferm, ond ystyrir bod hyn yn nodwedd gyfarwydd sy’n gysylltiedig â byw mewn cymuned wledig. Wrth ystyried y lleoliad gwledig a phresenoldeb storfeydd slyri presennol nad ydynt ond 30m ymhellach i ffwrdd na’r lagŵn arfaethedig, ystyrir na fyddai’r datblygiad yn cael dim mwy o effaith ar fwynderau preswyl yn yr ardal.  O’r herwydd bernir bod y cynnig yn dderbyniol gan ei fod yn angenrheidiol er mwyn cydymffurfio â rheoliadau Llywodraeth Cymru, ac argymhellwyd cymeradwyo’r cais

Dywedodd y Cynghorydd Robert Ll Jones bod lagynau  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12.

13.

Materion Eraill pdf eicon PDF 288 KB

13.1 – DAG/2026/11 – Gwyndy, Ffordd Penmynydd, Penmynydd

DAG/2026/11

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

13.1  DAG/2026/11 –  Cais i bennu os oes angen caniatâd blaenorol ar gyfer codi gorchudd iard yn Gwyndy, Ffordd Penmynydd, Penmynydd.

 

Nodwyd bod y cais yn cael ei ganiatáu dan Ddosbarth A, Rhan 6 Atodlen 2 Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredin a Ganiateir) 1995.