Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Dim. |
|
Cyflwyno, i’w cadarnahu, gofnodion y cyfarfodydd fel a ganlyn:-
· Cofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 25 Mehefin, 2019 · Cofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 1 Gorffennaf, 2019 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
Cadarnhawydcofnodion y cyfarfodydd isod:-
• Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Mehefin, 2019. • Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 1 Gorffennaf, 2019.
|
|
Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd PDF 19 KB Ystyried mabwysiadu’r canlynol:-
“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.” Cofnodion:
Ystyried mabwysiadu’r canlynol:-
“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem isod oherwydd y tebygrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn ôl y diffiniad ym Mharagraff 12A y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.” |
|
Apwyntio Staff Prif Weithredwr
Ystyried y ceisiadau ar gyfer y swydd uchod. Mae copȉau o’r Disgrifiad Swydd, y Manylion Personol a ffurflenni cais ynghlwm. Cofnodion: Prif Weithredwr
Derbyniwyd 3 chais ar gyfer y swydd uchod.
PENDERFYNWYD bod y 3 chais yn mynd ymlaen i gam nesaf y broses benodi.
EITEM YCHWANEGOL A YSTYRIWYD GYDA CHANIATÂD Y CADEIRYDD
Ailstrwythuro Uwch Reolwyr
Dywedodd yr Uwch Swyddog Adnoddau Dynol fod cais wedi dod i law gan aelod o’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth yn gofyn am gael ail-ddynodi teitl ei swydd.
PENDERFYNWYD ail-ddynodi teitl swydd y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro yn Gyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) a Swyddog Monitro.
|