Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Dim. |
|
Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 31 Gorffennaf, 2019. Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 31 Gorffennaf, 2019. |
|
Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd PDF 122 KB Ystyried mabwysiadu’r canlynol:-
“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.” Cofnodion: PENDERFYNWYD:-
“Penderfynwyd o dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd y tebygrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A y Ddeddf honno ac yn Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.” |
|
Apwyntio Staff Prif Weithredwr
Ystyried y ceisiadau ar gyfer y swydd uchod.
Mae copȉau o’r Disgrifiad Swydd, y Manylion Personol a ffurflenni cais ynghlwm. Cofnodion: Prif Weithredwr
Rhoddwyd cyfweliad i dri ymgeisydd yn dilyn derbyn adborth o’r broses benodi, a chadarnhawyd fod y tri ohonynt wedi cyrraedd y trothwy i’r Pwyllgor Penodi eu hystyried fel rhai y gellid eu penodi i’r Swydd Prif Weithredwr.
Bu i’r ymgeiswyr wneud cyflwyniad, ateb cwestiynau ar y cyflwyniad ac yna ateb set o gwestiynau a ofynnwyd gan aelodau’r Pwyllgor.
Yn dilyn y cyfweliadau, PENDERFYNWYD argymell i’r Cyngor llawn fod Mrs Annwen Morgan yn cael ei phenodi i’r swydd uchod o’r 1af o Hydref 2019.
MATERION YCHWANEGOL A YSTYRIWYD GYDA CHANIATȂD Y CADEIRYDD
Swydd Dirprwy Brif Weithredwr
O ganlyniad i’r penodiad y cyfeiriwyd ato dan eitem 4 uchod, penderfynwyd y dylid hysbysebu swydd Dirprwy Brif Weithredwr yn allanol.
Swydd Pennaeth Priffrydd, Gwastraff ac Eiddo
Penderfynwyd gwahodd datganiadau o ddiddordeb gan Benaethiaid Gwasanaeth ac i hysbysebu’r swydd yn allanol, os oes angen, yn ddiweddarach. |