Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Gwnaed datganiad o ddiddordeb personol a diddordeb sy’n rhagfarnu gan y Cynghorydd R Meirion Jones ynghylch Eitem 6, Penodiadau Staff – Dirprwy Brif Weithredwr. Gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais ar y mater. |
|
Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 10 Hydref, 2019. Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Hydref, 2019. |
|
Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd PDF 19 KB Ystyried mabwysiadu’r canlynol:-
“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.” Cofnodion: PENDERFYNWYD o dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd y tebygolrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A y Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm. |
|
Apwyntio Staff Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo
Ystyried y ceisiadau ar gyfer y swydd uchod.
Mae copïau o’r Disgrifiad Swydd, y Manylion Personol a ffurflenni cais ynghlwm. Cofnodion: Pennaeth Priffyrdd, Eiddo a Gwastraff
Cafodd yr ymgeisydd a oedd ar y rhestr fer ei gyfweld a’i ystyried gan y Pwyllgor Penodiadau fel darpar ddeilydd y swydd Pennaeth Priffyrdd, Eiddo a Gwastraff.
Cafwyd cyflwyniad gan yr ymgeisydd ac atebodd gwestiynau arno ynghyd â chyfres o gwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor.
Yn dilyn y cyfweliad, PENDERFYNODD y Pwyllgor benodi Mr Huw Percy i’r swydd uchod. |
|
Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd PDF 19 KB Ystyried mabwysiadu’r canlynol:-
“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.” Cofnodion: PENDERFYNWYD o dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd y tebygolrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A y Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.
|
|
Apwyntio Staff Dirprwy Brif Weithredwr
Ystyried y ceisiadau ar gyfer y swydd uchod.
Mae copïau o’r Disgrifiad Swydd, y Manylion Personol a ffurflenni cais ynghlwm. Cofnodion: Dirprwy Brif Weithredwr
Cafodd y ddau ymgeisydd a oedd ar y rhestr fer eu hystyried gan y Pwyllgor Penodiadau fel darpar ddeiliaid swydd y Dirprwy Brif Weithredwr.
Cafwyd cyflwyniadau gan yr ymgeiswyr ac atebodd y ddau gwestiynau arnynt ynghyd â chyfres o gwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor. Cafwyd atborth gan y Prif Weithredwr a’r Pennaeth Professiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid ar y broses asesu a oedd yn cynnwys profion seicometrig ynghyd â chyfweliadau proffesiynol a gynhaliwyd gan y Prif Weithredwr a’r Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid.
Yn dilyn y cyfweliadau penderfynodd y Pwyllgor Penodi argymell i’r Cyngor llawn y dylid penodi Mr Dylan Williams i’r swydd uchod o ddyddiad i’w gytuno arno. |