Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddrodeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Dim wedi eu derbyn. |
|
Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 22 Hydref, 2019. Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Hydref, 2019. |
|
Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd PDF 19 KB Ystyried mabwysiadu’r canlynol:-
“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i ddiffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.” Cofnodion: PENDERFYNWYD:-
“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem isod oherwydd y tebygrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni ym Mharagraff 12A y Ddeddf honno.” |
|
Apwyntio Staff Cyfarwyddwr Lle, Llesiant a Chymunedol
Cyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr. Cofnodion: Cyfarwyddwr Lle a Lleisiant Cymunedol
Cyflwynwyd – adroddiad gan y Prif Weithredwr mewn perthynas â’r uchod.
PENDERFYNWYD:-
· Hysbysebu swydd y Cyfarwyddwr Lle a Lleisiant Cymunedol yn allanol ac yn fewnol ar yr un pryd am gyfnod o dair wythnos o 13 Ionawr, 2020 gan ddefnyddio’r rhyngrwyd a’r cyfryngau cymdeithasol yn unig; · Rhoi trefniadau dros dro yn eu lle ar gyfer rheoli cyfadran fawr tra mae’r broses recriwtio’n mynd rhagddi drwy hysbysebu am Bennaeth Gwasanaeth dros dro a swyddog arall i fod yn gyfrifol am ‘Gynllunio Lle.’. |