Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Ni chafwyd yr un datganiad o ddiddordeb.
|
|
Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 10 Ionawr, 2020. Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Ionawr, 2020. |
|
Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd PDF 19 KB Ystyried mabwysiadu’r canlynol:-
“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.” Cofnodion: PENDERFYNWYD:-
“Penderfynwyd o dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth
Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn
ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd y tebygolrwydd y
caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir
eithriad ohoni yn Atodlen 12A y Ddeddf honno.”
|
|
Apwyntio Staff Cyfarwyddwr Lle, Llesiant a Chymunedol
Ystyried y ceisiadau ar gyfer y swydd uchod.
Mae copïau o’r Disgrifiad Swydd, y Manylion Personol a ffurflenni cais ynghlwm. Cofnodion: Cyfarwyddwr Lle a Llesiant Cymunedol
Derbyniwyd 3 chais am y swydd uchod.
PENDERFYNWYD:-
· ailhysbysebu’r swydd Cyfarwyddwr Lle a Llesiant Cymunedol ym mis Mehefin 2020; · y bydd swydd bresennol y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd Dros Dro a'r dyletswyddau ychwanegol a gyflawnir gan y Pennaeth Gwasanaeth Tai mewn perthynas â'r Rhaglen Cynllunio Lleoedd yn parhau nes bod swydd y Cyfarwyddwr Lle a Llesiant Cymunedol wedi'i llenwi.
(Roedd y Cynghorydd A M Jones yn dymuno cofnodi ei fod wedi ymatal rhag pleidleisio).
|