Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Virtual Meeting (at present members of the public are unable to attend)
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Dim. |
|
Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 14 Chwefror, 2020. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Ionawr, 2020 a cadarnhawyd eu bod yn gofnod cywir.
|
|
Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd PDF 19 KB ‘O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.’ Cofnodion: PENDERFYNWYD:-
“O dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd y tebygolrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A y Ddeddf honno.”
|
|
Apwyntio Staff Cyfarwyddwr Lle, Llesiant a Chymunedol
Derbyn adroddiad llafar gan y Prif Weithredwr. Cofnodion: Cyfarwyddwr Lle a Llesiant Cymunedol
Cyflwynodd y Prif Weithredwr ei hadroddiad ysgrifenedig a oedd wedi’i gylchredeg ymlaen llaw a rhoddodd adroddiad llafar mewn perthynas â’r swydd uchod.
Bu’r Prif Weithredwr argymell y dylai teitl y swydd adlewyrchu’n well y cyfrifoldebau sy’n gysylltiedig â’r swydd ac y dylid ei newid i ‘Cyfarwyddwr Rheoleiddio a Lle’ ac y dylid hysbysebu’r swydd cyn gynted â phosibl.
PENDERFYNWYD:-
· diwygio teitl y swydd i ‘Cyfarwyddwr Rheoleiddio a Lle’; · hysbysebu’r swydd cyn gynted â phosibl.
|