Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol (ar hyn o bryd nid oes modd i'r cyhoedd fynychu'r cyfarfod)
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb.
|
|
Cyflwyno, i’w cadarnahu, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 18 Rhagfyr, 2020. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Rhagfyr, 2020 i’w cadarnhau.
Mynegodd y Cynghorydd A M Jones nad oedd yn ystyried bod y cofnodion yn adlewyrchu’r drafodaeth a gafwyd yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Rhagfyr, 2020.
Mynegodd y Cynghorydd K P Hughes ei ddiolch i’r Cynghorydd A M Jones am godi’r materion hyn.
Cyflwynodd y Cynghorydd Llinos M Hughes gynnig bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Rhagfyr, 2020 yn cael eu diwygio gan y Swyddog Pwyllgor a’u bod yn cael eu cyflwyno i gyfarfod nesaf y Pwyllgor hwn. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Bob Parry OBE FRAgS.
|
|
Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd PDF 19 KB Ystyried mabwysiadu’r canlynol:- “O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddedf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”
Cofnodion: PENDERFYNWYD:-
“O dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd y tebygolrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A y Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”
|
|
Apwyntio Staff Hysbysebu swydd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol
Cyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr. Cofnodion: Hysbysebu swydd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol
Cyflwynwyd – adroddiad gan y Prif Weithredwr mewn perthynas â’r swydd uchod.
Cyfeiriodd y Cynghorydd K P Hughes at y disgrifiad swydd, gofynnodd gwestiynau a holodd am gadarnhad ar elfennau’r o’r cynnwys.
Holodd y Cynghorydd A M Jones am y broses ac am gyfnod hysbysebu’r swydd.
PENDERFYNWYD y dylid hysbysebu’r swydd yn unol â’r disgrifiad swydd a’r manyleb person. Penderfynwyd hefyd y byddai’r hysbysebu yn cael ei wneud drwy wefan benodedig ac y byddai’r swydd yn cael ei hysbysebu am gyfnod o 3 wythnos yn unol â’r cyngor proffesiynol a gyflwynwyd gan y Swyddogion yn y cyfarfod. Nid oedd gofyniad i osod yr hysbyseb mewn unrhyw gyhoeddiadau.
|