Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol (ar hyn o bryd nid oes modd i'r cyhoedd fynychu'r cyfarfod)
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Ethol Cadeirydd Ethol Cadeirydd. Cofnodion: Cafodd y Cynghorydd Ieuan Williams ei ail ethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Penodiadau. |
|
Ethol Is-gadeirydd Ethol Is-gadeirydd. Cofnodion: Cafodd y Cynghorydd Bob Parry OBE FRAgS ei ail ethol yn Is-gadeirydd y Pwyllgor Penodiadau.
|
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhwy ddatgnaidau o ddiddordeb.
|
|
Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 9 Mehefin, 2021. Cofnodion: Cafodd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Mehefin, 2021 eu cadarnhau fel cofnod cywir.
|
|
Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd PDF 159 KB Ystyried mabwysiadu’r canlynol:-
“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12A, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.” Cofnodion: PENDERFYNWYD mabwysiadu’r canlynol:-
“O dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd y tebygolrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A y Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”
|
|
Apwyntio Staff Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd
Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro. Cofnodion: Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd
Cyflwynwyd – adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro mewn perthynas â’r swydd uchod.
PENDERFYNWYD:-
· Cymeradwyo’r argymhellion a oedd wedi eu cynnwys yn adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro; · Hysbysebu’r swydd yn allanol o’r 3ydd o Fedi, 2021 a hynny am gyfnod o 3 wythnos.
|