Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol (ar hyn o bryd nid oes modd i'r cyhoedd fynychu'r cyfarfod)
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatgan o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Dim. |
|
Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 5 Tachwedd, 2021. Cofnodion:
Cadarnhawydcofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Tachwedd fel cofnod cywir. |
|
Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd PDF 19 KB Ystyried mabwysiadu’r canlynol:-
“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12A, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.” Cofnodion:
PENDERFYNWYD mabwysiadu’r canlynol:-
“O dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd y tebygolrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A y Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.” |
|
Apwyntio Staff Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd
· Ystyried y ceisiadau ar gyfer y swydd uchod.
Mae copiau o’r Disgrifiad Swydd, y Manylion Personol a ffurflenni cais ynghlwm.
· Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro. Cofnodion:
Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd
Cafodd 3 ymgeisydd ar y rhestr fer eu cyflwyno ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor Penodiadau fel darpar ymgeiswyr ar gyfer y rôl Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd. Bu 2 o’r ymgeiswyr dynnu eu cais yn ôl cyn y cyfweliad. Rhoddodd yr ymgeisydd arall gyflwyniad, atebodd gwestiynau ar y cyflwyniad ac yna atebodd gyfres o gwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor. Rhoddwyd adborth gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro, y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid a’r Rheolwr Adnoddau Dynol ar y broses asesu a oedd yn cynnwys prawf seicometrig a chyfweliad proffesiynol a gynhaliwyd gan y Prif Weithredwr, y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor0/Swyddog Monitro a’r Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid.
Yn dilyn y cyfweliad ffurfiol, bu’r Pwyllgor Penodiadau BENDERFYNU:-
· peidio â phenodi’r ymgeisydd i’r rôl Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd; · ail hysbysebu’r swydd yn ystod mis Rhagfyr gyda dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ym mis Ionawr 2022. · bod trefniadau interim yn cael eu rhoi yn eu lle yn dilyn trafodaeth a chytundeb rhwng y Prif Weithredwr, Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro a’r Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid. · Swyddogion i adolygu proses recriwtio’r Pwyllgor Penodiadau a darparu argymhellion.
|