Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol (ar hyn o bryd nid oes modd i'r cyhoedd fynychu'r cyfarfod)
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem of fusnes. Cofnodion: Bu’r Cynghorydd K P Hughes ddatgan diddordeb personol gan ei fod yn adnabod un o’r ymgeiswyr, nododd ei fod wedi derbyn cyngor cyfreithiol a gan nad oedd yr ymgeisdd yn gyswllt personol agos, roedd modd iddo gymryd rhan yn y cyfarfod. |
|
Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 23 Tachwedd, 2021. Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Tachwedd fel cofnod cywir.
|
|
Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd PDF 19 KB Ystyried mabwysiadu’r canlynol:-
“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithredig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12A, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.” Cofnodion: PENDERFYNWYD:-
“O dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd y tebygolrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A y Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”
|
|
Apwyntio Staff Prif Weithredwr
· Ystyried y ceisiadau ar gyfer y swydd uchod.
Mae copiau o’r Disgrifiad Swydd, y Manylion Personol a ffurflenni cais ynghlwm.
· Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid.
Cofnodion: Prif Weithredwr
Adroddodd y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid, yn unol ag argymhelliad y Pwyllgor Penodiadau a gynhaliwyd ar 12 Hydref, 2021 fe hysbysebwyd swydd y Prif Weithredwr yn allanol rhwng 22 Hydref, 2021 a 22 Tachwedd, 2021. Adroddodd ymhellach, o ganlyniad i waith dadansoddi annibynnol gan Swyddogion AD i greu rhestr fer, roedd yn cael ei argymell bod y Pwyllgor yn nodi’r ymgeiswyr i’w cyfwled.
Rhoddwyd argymhelliad bod y Pwyllgor Penodiadau yn dilyn y broses ganlynol:-
PENDERFYNWYD derbyn argymhelliad y swyddog ar gyfer y rhestr fer a chefnogi’r broses recriwtio fel yr amlinellir uchod.
|