Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol (ar hyn o bryd nid oes modd i'r cyhoedd fynychu'r cyfarfod)
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Dim. |
|
Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 2 Rhagfyr, 2021. Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Rhagfyr, 2021 fel cofnod cywir.
|
|
Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd PDF 19 KB Ystyried mabwysiadu’r canlynol :-
“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12 o’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.” Cofnodion: PENDERFYNWYD:-
“O dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd y tebygolrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A y Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”
|
|
Apwyntio Staff Prif Weithredwr
· Ystyried y cais ar gyfer y swydd uchod.
Mae copiau o’r Disgrifiad Swydd, y Manylion Personol a ffurflenni cais ynghlwm.
· Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid. Cofnodion: Prif Weithredwr
Adroddodd y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid, yn unol ag argymhelliad y Pwyllgor Penodiadau a gynhaliwyd ar 2 Rhagfyr, 2021 y lluniwyd rhestr fer ac wedi hynny y cyflawnwyd proses recriwtio pum cam yn unol â’r hyn a gytunwyd gan y Pwyllgor Penodiadau, sef:-
· Profion seicometrig a chyfweliad; · Asesiad MTQ48 mewn perthynas â chryfder a gwydnwch meddyliol. · Asesiad senario i brofi lled a dyfnder gwybodaeth mewn perthynas â’r swydd. · Cyfweliad proffesiynol â Phrif Weithredwr y WLGA a chyn Brif Weithredwr Cyngor Ceredigion, wedi’i hwyluso gan y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid; · Cyfweliad ffurfiol gyda’r Pwyllgor Penodiadau.
Yn dilyn y cyfweliad ffurfiol, PENDERFYNODD y Pwyllgor Penodiadau benodi Mr Dylan Williams i’r swydd Prif Weithredwr.
|