Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Bu i’r Cynghorydd R Meirion Jones ddatgan diddordeb personol gan ei fod yn adnabod un o’r ymgeiswyr, yn dilyn cyngor cyfreithiol roedd modd iddo gymryd rhan yn y cyfarfod.
|
|
Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 18 Chwefror, 2022. Cofnodion: Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Chwefror, 2022 yn gywir.
Adroddodd y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid nad oedd yr ymgeisydd llwyddiannus ar gyfer y swydd Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd wedi derbyn y swydd.
Oherwydd sensitifrwydd y materion i’w trafod penderfynodd y Pwyllgor wahardd y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod.
Adroddodd y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid bod y swydd Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yn dal i fod yn wag a bod adroddiad wrthi’n cael ei lunio mewn perthynas â’r opsiynau a'r camau nesaf i’w cymryd mewn perthynas â’r swydd.
|
|
Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd PDF 19 KB Ystyried mabwysiadu’r canlynol:- “O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12 o’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”
Cofnodion: PENDERFYNWYD:-
“O dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd y tebygolrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A y Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”
|
|
Apwyntio Staff Dirprwy Brif Weithredwr
· Ystyried y ceisiadau ar gyfer y swydd uchod.
Mae copiau o’r Disgrifiad Swydd, y Manylion Personol a ffurflenni cais ynghlwm.
· Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid.
Cofnodion: Dirprwy Brif Weithredwr
Adroddodd y Rheolwr AD bod y swydd Dirprwy Brif Weithredwr wedi cael ei hysbysebu’n allanol rhwng 28 Ionawr, 2022 a 21 Chwefror, 2022 yn unol ag argymhelliad y Pwyllgor Penodiadau ar 27 Ionawr, 2022. Aeth ymlaen i adrodd bod Swyddogion AD wedi llunio rhestr fer drwy gynnal dadansoddiad annibynnol ac o ganlyniad argymhellir bod y Pwyllgor yn nodi pa ymgeisydd/ymgeiswyr y dylid eu cyfweld.
Argymhellir bod y Pwyllgor Penodiadau’n dilyn y broses ganlynol:-
· Asesiad seicometreg annibynnol i’w gynnal gan seicolegydd cymwys i asesu cymwyseddau ymddygiad yr unigolyn, gan nodi unrhyw risgiau efallai y bydd y Pwyllgor Penodiadau’n dymuno’u hystyried cyn dod i benderfyniad; · Asesiad senario i brofi lled a dyfnder gwybodaeth yr unigolyn mewn perthynas â’r swydd; · Cyfweliad proffesiynol gyda’r Dirprwy Brif Weithredwr, aelod o’r Uwch Dîm Rheoli sydd heb ymgeisio ar gyfer y swydd a’r Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid; · Asesiad MTQ48 mewn perthynas â chadernid a gwytnwch meddyliol; Bydd canlyniadau’r holl brofion a gynhelir cyn y cyfweliad terfynol yn cael eu rhannu â’r Pwyllgor Penodiadau er mwyn llywio eu penderfyniad terfynol.
PENDERFYNWYD derbyn argymhellion y Swyddog ar gyfer y rhestr fer a chefnogi’r broses recriwtio a amlinellir uchod.
|