Rhaglen a chofnodion

Cyfarfod Hybrid - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni/Yn rhithiol drwy Zoom, Pwyllgor Penodiadau - Dydd Llun, 3ydd Hydref, 2022 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 ac yn rhithiol drwy Zoom

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Dim.

2.

Cofnodion pdf eicon PDF 188 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 9 Medi, 2022.

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Medi, 2022.

3.

Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 19 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol

“Dan Adran 100 (A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, mae modd cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol, oherwydd y posibilrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwna Atodlen 12A y Ddeddf a’r Prawf Budd y Cyhoedd eithriad ohoni.”

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:-

 

“O dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd y tebygrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A y Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

4.

Apwyntio Staff

Pennaeth Democrataidd

 

Ystyried y ceisiadau ar gyfer y swydd uchod.

Mae copiau o’r Disgrifiad Swydd, y Manylion Personol a ffurflenni cais ynghlwm.

 

 

Cofnodion:

Pennaeth Democrataidd

 

Cafodd proses gyfweld ffurfiol ei hymgymryd â hi o’r ymgeiswyr a oedd ar y rhestr fer ar gyfer y swydd uchod.

 

Yn dilyn y cyfweliad ffurfiol, PENDERFYNODD y Pwyllgor Penodiadau benodi Mr Dyfan Sion i’r swydd Pennaeth Democrataidd.