Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
| Rhif. | Eitem |
|---|---|
|
Ethol Cadeirydd Ethol Cadeirydd ar gyfer y Pwyllgor Penodiadau. Cofnodion: Cafodd y Cynghorydd Gary Pritchard ei ethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Penodiadau.
|
|
|
Etholiad Is-gadeirydd Ethol Is-gadeirydd ar gyfer y Pwyllgor Penodiadau. Cofnodion: Cafodd y Cynghorydd Ieuan Williams ei ethol yn Is-gadeirydd y Pwyllgor Penodiadau.
|
|
|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Fel a nodir uchod. |
|
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.
|
|
|
Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 22 Ionawr, 2025. Cofnodion: Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 22 Ionawr 2025 yn gywir.
|
|
|
Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd Ystyried mabwysiadu’r canlynol:-
“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, mae modd cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol, oherwydd y posibilrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwna Atodlen 12A y Ddeddf a’r Prawf Budd y Cyhoedd eithriad ohoni.” Cofnodion: PENDERFYNWYD mabwysiadu’r canlynol:-
“O dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd y tebygolrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A y Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”
|
|
|
Apwyntio Staff Cyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr.
Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Prif Weithredwr i’r Pwyllgor ei ystyried.
Dywedodd y Cadeirydd fod y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid wedi ymddiswyddo ac y byddai’n gadael yr Awdurdod ddiwedd 2025. Mae cwmpas y swydd bresennol yn eang mewn perthynas â chyfeiriad strategol nifer o swyddogaethau allweddol o fewn y Cyngor, gan gynnwys Adnoddau Dynol, Technoleg Gwybodaeth, Trawsnewid, Perfformiad a Chynllunio Corfforaethol, Cyfathrebu a Chyswllt Môn, sef prif ganolfan gyswllt y Cyngor. Ar ôl ystyried nifer o wahanol opsiynau ar gyfer llenwi’r swydd, cynigiwyd bod dwy swydd Pennaeth Gwasanaeth yn cael eu creu er mwyn rhannu’r cyfrifoldebau presennol, sef :-
· Pennaeth Adnoddau Dynol, Cyfathrebu a Phrofiad Cwsmer · Pennaeth Digidol, Perfformiad a Moderneiddio
PENDERFYNWYD :-
· Hysbysebu’r ddwy swydd yn allanol am gyfnod o 3 wythnos, yn amodol ar gadarnhau bod arian ar gael ar gyfer y ddwy swydd; · Bod teitl y swydd Pennaeth Adnoddau Dynol, Cyfathrebu a Gwasanaeth Cwsmer yn cael ei newid i Pennaeth Adnoddau Dynol, Cyfathrebu a Phrofiad Cwsmer; · Bod proses safonol y Cyngor yn cael ei dilyn ar gyfer y broses statudol o arfarnu gwahanol nodweddion ymgeiswyr am uwch swyddi sydd yn gyson a pherthnasol i’r hysbyseb allanol, fel y nodir yn yr adroddiad; · Bod rhaid i unigolion a gynhwysir ar y rhestr fer gyrraedd y trothwy ar gyfer pob elfen o’r broses recriwtio cyn mynd ymlaen am gyfweliad terfynol gan y Pwyllgor Penodiadau.
|