Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
| Rhif. | Eitem |
|---|---|
|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Fel y nodir uchod.
|
|
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Ni dderbyniwyd yr un datganiad.
|
|
|
Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 28 Hydref, 2025. Cofnodion: Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 24 Hydref 2025 yn gywir.
|
|
|
Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd Ystyried mabwysiadu’r canlynol:-
“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, mae modd cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol, oherwydd y posibilrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwna Atodlen 12A y Ddeddf a’r Prawf Budd y Cyhoedd eithriad ohoni.”
Cofnodion: PENDERFYNWYD mabwysiadu’r canlynol:-
“O dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd y tebygolrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A y Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”
|
|
|
Apwyntio Staff · Pennaeth Adnoddau Dynol, Cyfathrebu a Phrofiad Cwsmer
Ystyried y ceisiadau ar gyfer y swydd uchod.
Mae copiau o’r Disgrifiad Swydd, Manylion Personol a ffurflenni cais ynghlwm.
· Cyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr.
Cofnodion: Pennaeth Adnoddau Dynol, Cyfathrebu a Phrofiad Cwsmer
Roedd adroddiad y Prif Weithredwr yn nodi, yn unol ag argymhelliad y Pwyllgor Penodiadau a gynhaliwyd ar 28 Hydref 2025, fod swydd newydd y Pennaeth Adnoddau Dynol, Cyfathrebu a Phrofiad Cwsmer yn cael ei hysbysebu o 3 Tachwedd, 2025 tan 24 Tachwedd, 2025.
Argymhellwyd fod y Pwyllgor Penodiadau, fel y cytunwyd yn flaenorol, yn dilyn y broses recriwtio:-
· Fod y Pwyllgor yn cefnogi argymhelliad y Swyddog ar gyfer rhestr fer. · Cyfweliad proffesiynol gyda’r Prif Weithredwr, Dirprwy Brif Weithredwr a’r Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid. · Bydd canlyniad y cyfweliad proffesiynol yn cael ei rannu gyda’r Pwyllgor Penodiadau er mwyn llywio eu penderfyniad terfynol. · Yr asesiad seicometrig annibynnol, yr asesiad MTQ48 a’r cyfweliad proffesiynol.
PENDERFYNWYD derbyn argymhelliad y Swyddog ar gyfer y rhestr fer a chefnogi’r broses ar gyfer recriwtio, fel yr amlinellir uch |
|
|
Apwyntio Staff · Pennaeth Digidol, Perfformiad a Moderneiddio
Ystyried y ceisiadau ar gyfer y swydd uchod.
Mae copiau o’r Disgrifiad Swydd, Manylion Personol a ffurflenni cais ynghlwm.
· Cyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr.
Cofnodion: Pennaeth Digidol, Perfformiad a Moderneiddio
Roedd adroddiad y Prif Weithredwr yn nodi, yn unol ag argymhelliad y Pwyllgor Penodiadau a gynhaliwyd ar 28 Hydref 2025, fod swydd newydd y Pennaeth Digidol, Perfformiad a Moderneiddio yn cael ei hysbysebu o 3 Tachwedd, 2025 tan 24 Tachwedd, 2025.
Argymhellwyd fod y Pwyllgor Penodiadau, fel y cytunwyd yn flaenorol, yn dilyn y broses recriwtio:-
· Fod y Pwyllgor yn cefnogi argymhelliad y Swyddog ar gyfer rhestr fer. · Cyfweliad proffesiynol gyda’r Prif Weithredwr, Dirprwy Brif Weithredwr a’r Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid. · Bydd canlyniad y cyfweliad proffesiynol yn cael ei rannu gyda’r Pwyllgor Penodiadau er mwyn llywio eu penderfyniad terfynol. · Yr asesiad seicometrig annibynnol, yr asesiad MTQ48 a’r cyfweliad proffesiynol.
PENDERFYNWYD derbyn argymhelliad y Swyddog ar gyfer y rhestr fer a chefnogi’r broses ar gyfer recriwtio, fel yr amlinellir uchod.
|