Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb. |
|
Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 18 Tachwedd, 2019. Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Tachwedd, 2019. |
|
Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd PDF 19 KB Ystyried mabwysiadu’r canlynol:-
“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.” Cofnodion: PENDERFYNIADAU:-
“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.” |
|
Apwyntio Staff Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd Dros Dro
Ystyried y ceisiadau ar gyfer y swydd uchod.
Mae copïau o’r Disgrifiad Swydd, y Manylion Personol a ffurflenni cais ynghlwm. Cofnodion: Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd Dros Dro
Derbyniwyd 4 cais ar gyfer y swydd uchod.
Adroddodd y Prif Weithredwr y derbyniwyd pedwar cais am y swydd ac argymhellwyd bod y pedwar ymgeisydd yn cael eu rhoi ar y rhestr fer. Felly, bydd yr ymgeiswyr yn dilyn y broses recriwtio fel rhano’r broses benodi.
Gofynnodd yr Uwch Swyddog Adnoddau Dynol i’r Pwyllgor gadarnhau y byddai’r drefn sefydledig yn cael ei defnyddio ar gyfer cam nesaf y broses benodi. Cytunodd y Pwyllgor i gynnal asesiad drwy gyfrwng prawf seicometrig allanol annibynnol. Cyflwynir adroddiad llafar ar ganlyniad yr asesiad i’r Pwyllgor Penodiadau yn ystod y cyfweliadau terfynol. Yn ogystal, bydd y Prif Weithredwr a’r Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid yn cynnal cyfweliad proffesiynol, yn unol â’r drefn sefydledig. Bydd adborth o’r cyfweliad proffesiynol yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Penodiadau yn ystod y cam cyfweld terfynol.
PENDERFYNWYD bod y 4 ymgeisydd yn mynd ymlaen i gam nesaf y broses benodi.
(Ataliodd y Cynghorydd A M Jones ei bleidlais am iddo gyrraedd yn hwyr i’r cyfarfod). |