Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Dim. |
|
Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 16 Rhagfyr, 2019. Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Rhagfyr, 2019 fel cofnod cywir. |
|
Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd PDF 19 KB Ystyried mabwysiadu’r canlynol:-
“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.” Cofnodion: PENDERFYNWYD:-
“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’ir Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.” |
|
Apwyntio Staff Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd Dros Dro
Ystyried y ceisiadau ar gyfer y swydd uchod.
Mae copïau o’r Disgrifiad Swydd, y Manylion Personol a ffurflenni cais ynghlwm. Cofnodion: Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd Dros Dro
Cyflwynwyd 4 ymgeisydd oddi ar y rhestr fer ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor Penodiadau ar gyfer rôl y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd Dros Dro. Penderfynodd un ymgeisydd dynnu ei gais yn ôl yn dilyn y broses o lunio rhestr fer felly dim ond tri ymgeisydd fynychodd y cyfweliadau ffurfiol.
Rhoddodd yr ymgeiswyr gyflwyniad, ateb cwestiynau ar y cyflwyniad ac yna ateb cyfres o gwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor. Darparwyd adborth gan y Prif Weithredwr a’r Pennaeth Proffesiwn (Adnodau Dynol) a Thrawsnewid am y broses asesu a oedd yn cynnwys profion seicometreg a chyfweliad proffesiynol a gyflawnwyd gan y Prif Weithredwr a’r Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid.
Yn dilyn y cyfweliad ffurfiol, PENDERFYNODD y Pwyllgor Penodiadau benodi Mr Christian Branch i’r swydd uchod. |