Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol (ar hyn o bryd nid oes modd i'r cyhoedd fynychu'r cyfarfod)
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganid o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem of fusnes. Cofnodion: Dim. |
|
Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd PDF 19 KB Ystyried mabwysiadu’r canlynol:-
“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12A, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.” Cofnodion: PENDERFYNWYD:-
“O dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd y tebygolrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A y Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.” |
|
Apwyntio Staff Pennaeth Gwasanaethau Oedolion
Ystyried y ceisiadau ar gyfer y swydd uchod.
Mae copïau o’r Disgrifiad Swydd, y Manylion Personol a ffurflenni cais ynghlwm. Cofnodion: Pennaeth Gwasanaethau Oedolion
Adroddodd y Prif Weithredwr, yn unol ag argymhelliad y Pwyllgor Penodiadau ar 17 Mawrth 2021 bod y swydd Pennaeth Gwasanaethau Oedolion wedi ei hysbysebu ar 26 Mawrth 2021 tan 19 Ebrill 2021.
Dywedodd y Prif Weithredwr, yn unol ag arferion recriwtio safonol, bod rhestr fer annibynnol wedi ei ffurfio yn seiliedig ar y wybodaeth a oedd wedi’i chynnwys yn y ceisiadau ac fe gafodd ei argymell bod yr ymgeiswyr sy’n cwrdd â’r trothwy yn cael eu cyfweld. Cafodd ei argymell bod y Pwyllgor penodiadau yn dilyn yr un broses ag sydd wedi’i dilyn â nifer o benodiadau ar lefel uwch sef proses tri cham sef:-
PENDERFYNWYD bod argymhelliad y Prif Weithredwr mewn perthynas â llunio rhestr fer a’r broses tri cham yn cael ei gefnogi’n unfrydol fel y nodwyd yn yr adroddiad a gyflwynwyd i’r Pwyllgor ar y mater.
|