Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb.
|
|
Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfodydd canlynol:-
· 23 Ebrill, 2021 · 29 Ebrill, 2021 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfodydd canlynol fel cofnod cywir:-
· Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Ebrill, 2021. · Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Ebrill, 2021.
|
|
Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd PDF 19 KB Ystyried mabwysiadu’r canlynol:-
“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12A, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.” Cofnodion: PENDERFYNWYD gweithredu’r canlynol:-
“O dan Adran 100 (A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail y gall olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir yn Atodlen 12A o’r Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd amgaeedig.”
|
|
Apwyntio Staff Pennaeth Gwasanaethau Oedolion
Ystyried y ceisiadau ar gyfer y swydd uchod.
Mae copïau o’r Disgrifiad Swydd, y Manylion Personol a ffurflenni cais ynghlwm. Cofnodion: Pennaeth Gwasanaethau Oedolion
Cafodd 3 ymgeisydd ar y rhestr fer, ar gyfer y rôl Pennaeth Gwasanaethau Oedolion, eu cyflwyno ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor Penodiadau.
Rhoddodd yr ymgeiswyr gyflwyniad, ateb cwestiynau ar y cyflwyniad ac yna ateb cyfres o gwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor. Darparwyd adborth gan y Prif Weithredwr a’r Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid ar y broses asesu a oedd yn cynnwys prawf seicometreg a chyfweliad proffesiynol a gynhaliwyd gan y Prif Weithredwr, y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid.
Yn dilyn y broses gyfweld ffurfiol, PENDERFYNODD y Pwyllgor Penodiadau benodi Mr Arwel Wyn Owen i’r swydd yn amodol ar dderbyn tystlythyrau derbyniol. |