Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol (ar hyn o bryd nid oes modd i'r cyhoedd fynychu'r cyfarfod)
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Dim. |
|
Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 27 Ionawr, 2022. Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Ionawr, 2022 fel cofnod cywir. |
|
Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd PDF 19 KB Ystyried mabwysiadu’r canlynol:-
“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodareth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12 o’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.” Cofnodion: PENDERFYNWYD:-
“O dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd y tebygolrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A y Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm. |
|
Apwyntio Staff Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd
· Ystyried y ceisiadau ar gyfer y swydd uchod.
Mae copiau o’r Disgrifiad Swydd, y Manylion Personol a ffurflenni cais ynghlwm.
· Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro Dros Dro.
Cofnodion: Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd
Adroddodd y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid, yn unol ag argymhelliad y Pwyllgor Penodiadau a gynhaliwyd ar 27 Ionawr, 2022 bod rhestr fer wedi ei llunio ac yn dilyn hynny bod proses recriwtio tair cam wedi ei chynnal fel a gytunwyd o fewn y Pwyllgor Penodiadau a hynny fel â ganlyn:-
· Profion seicometrig a chyfweliad dilynol · Cyfweliad proffesiynol efo’r Prif Weithredwr, y Dirprwy Brif Weithredwr a’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth Interim (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro a’r Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid. · Cyfweliad ffurfiol â’r Pwyllgor Penodiadau
Roddodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth Interim (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro adborth o’r cyfweliad proffesiynol i’r Pwyllgor Penodiadau.
Yn dilyn cyfweliad ffurfiol, PENDERFYNODD y Pwyllgor Penodiadau benodi Mrs Debbie Jones i’r Swydd Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.
|