Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Ethol Cadeirydd Ethol Cadeirydd y Pwyllgor Apwyntiadau. Cofnodion:
Etholwyd y Cynghorydd Llinos Medi yn Gadeirydd y Pwyllgor Penodiadau. |
|
Ethol Is-Gadeirydd Ethol Is-gadeirydd y Pwyllgor Apwyntiadau. Cofnodion:
Etholwyd y Cynghorydd Ieuan Williams yn Is-gadeirydd y Pwyllgor Penodiadau. |
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion:
Dim wedi’u derbyn. |
|
Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 29 Mawrth, 2022. Cofnodion:
Cadarnhawydbod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Mawrth, 2022 yn gywir. |
|
Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd PDF 19 KB Ystyried mabwysiadu’r canlynol:-
‘O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12 o’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.” Cofnodion:
PENDERFYNWYD:-
“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.” |
|
Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro ar Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid. Cofnodion:
Cyflwynwyd – adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro a’r Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid mewn perthynas â’r swydd wag Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.
PENDERFYNWYD derbyn adroddiad ac argymhellion y Swyddog gydag un ychwanegiad o ran marchnata sef defnyddio’r safle recriwtio Lleol.net. |
|
Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd PDF 19 KB Ystyried mabwysiadu’r canlynol:-
‘O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12 o’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”
Cofnodion:
PENDERFYNWYD:-
“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.” |
|
Apwyntio Staff Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc
· Ystyried y ceisiadau ar gyfer y swydd uchod.
Mae copiau o’r Disgrifiad Swydd, y Manylion Personol a ffurflenni cais ynghlwm.
· Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid. Cofnodion: Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc
Adroddodd y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid bod y swydd Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl ifanc wedi cael ei hysbysebu’n allanol rhwng 6ed Mai a 30ain Mai 2022, yn unol ag argymhelliad y Pwyllgor.
PENDERFYNWYD derbyn argymhellion y Swyddog o ran llunio rhestr fer a chefnogi’r broses recriwtio a amlinellir yn yr adroddiad. |