Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Dim. |
|
Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod rhithiol a gafwyd ar 12 Gorffennaf, 2022. Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod rhithiol a gynhaliwyd ar 12 Gorffennaf, 2022 fel cofnod cywir. |
|
Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd PDF 19 KB Ystyried mabwysiadu’r canlynol:-
“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12 o’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”
Cofnodion: PENDERFYNWYD:-
“O dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd y tebygrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atolden 12A y Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.” |
|
Apwyntio Staff Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc
Ystyried y ceisiadau ar gyfer y swydd uchod.
Mae copiau o’r Disgrifiad Swydd, y Manylion Personol a ffurflenni cais ynghlwm.
Cofnodion: Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc
Cafodd proses gyfweld ffurfiol ei hymgymryd â hi o’r ymgeiswyr a oedd ar y rhestr fer ar gyfer y swydd uchod.
Yn dilyn y cyfweliad ffurfiol, PENDERFYNODD y Pwyllgor Penodiadau benodi Mr Marc B Hughes i’r swydd Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc.
|
|
Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd PDF 19 KB Ystyried mabwysiadu’r canlynol:-
“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12 o’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”
Cofnodion: PENDERFYNWYD:-
“O dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd y tebygrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atolden 12A y Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”
|
|
Apwyntio Staff Pennaeth Democrataidd
· Ystyried y ceisiadau ar gyfer y swydd uchod.
Mae copiau o’r Disgrifiad Swydd, y Manylion Personol a ffurflenni cais ynghlwm.
· Cyflwyno adroddiad ar y cyd gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro a Phennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid.
Cofnodion: Pennaeth Democrataidd
Adroddodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro, yn unol ag argymhelliad y Pwyllgor Penodiadau, bod y Swydd Pennaeth Democratiadd wedi ei hysbysebu’n allanol ar 20 Mehefin tan 11 Gorffennaf, 2022.
PENDERFYNWYD bod argymhellion y Swyddog ar gyfer rhestr fer yn cael eu derbyn a bod y broses recriwtio, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad, yn cael ei chefnogi. |