Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb.
|
|
Cyflwyno, i’w cadarhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 17 Mehefin, 2022. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Penodiadau a gynhaliwyd ar 17 Mehefin, 2022 ac fe gawsant eu cadarnhau fel cofnod cywir.
|
|
Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd PDF 120 KB Ystyried mabwysiadu’r canlynol:-
“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12 o’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.” Cofnodion: Ystyriwyd a phenderfynwyd o dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, i gau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd y golygai ryddhau gwybodaeth a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni ym Mharagraff 12 o Atodlen 12A y Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd a gyflwynwyd.
|
|
Diweddariad ar y Broses Recriwtio Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc
Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid. Cofnodion: Cyflwynwyd i’r Pwyllgor ei ystyried - adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid a oedd yn darparu diweddariad ar y broses recriwtio hyd yma mewn perthynas â’r swydd Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc. Roedd yr adroddiad yn gosod allan canlyniadau tri cham cyntaf y broses recriwtio pum cam a gytunwyd â’r Pwyllgor Penodiadau yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Mehefin, 2022 mewn cysylltiad â’r ymgeiswyr ar y rhestr fer. Rhoddodd y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid ddiweddariad llafar yn y cyfarfod am ganlyniad y pedwerydd cam yn y broses recriwtio a oedd yn cynnwys cyfweliad proffesiynol. Bu i’r Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid gynghori, yn seiliedig ar y broses hyd yma, yr argymhellir fod yr ymgeiswyr ar y rhestr fer yn mynd yn eu blaenau i’r bumed cam o’r broses recriwtio h.y. cyfweliad ffurfiol gyda’r Pwyllgor Penodiadau. Penderfynwyd symud ymlaen yn unol ag argymhelliad y Swyddog bod yr ymgeiswyr ar y rhestr fer yn cael eu cyfweld yn ffurfiol gan y Pwyllgor Penodiadau mewn cyfarfod a gynhelir ar 20 Gorffennaf, 2022.
|