Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o ddidordeb.
|
|
Cyflwyno cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Penodiadau a gynhaliwyd ar 20 Gorffennaf, 2022. Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Penodiadau a gynhaliwyd ar 20 Gorffennaf, 2022 fel rhai cywir.
|
|
Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd PDF 199 KB Ystyried mabwysiadu’r canlynol –
“Dan Adran 100 (A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, mae modd cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol, oherwydd y posibilrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwna Atodlen 12A y Ddeddf a’r Prawf Budd y Cyhoedd eithriad ohoni.”
Cofnodion: O dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd y tebygolrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A y Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”
|
|
Diweddariad ar y Broses Recriwtio Pennaeth Democratiaeth
Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid a oedd yn rhoi diweddariad ar y broses recriwtio hyd yma mewn perthynas â’r swydd Pennaeth Democratiaeth ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor. Nododd yr adroddiad ganlyniad y tri cam cyntaf o’r pum cam yn y broses recriwtio a gytunwyd gyda’r Pwyllgor Penodiadau yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Gorffennaf, 2022 mewn perthynas â’r ymgeiswyr ar y rhestr fer. Cafwyd crynodeb gan y Rheolwr Adnoddau Dynol am ganlyniad y tri cham cyntaf a’r casgliadau y daethpwynt atynt. Rhoddodd y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro ddiweddariad llafar yn y cyfarfod mewn perthynas â chanlyniad pedwerydd cam y broses recriwtio a oedd yn cynnwys cyfweliad proffesiynol. Yn seiliedig ar y broses hyd yma ynghyd â’r casgliadau a wnaethpwyd yn dilyn y cyfweliadau proffesiynol roedd y swyddogion o’r farn ac yn argymell y dylai’r ymgeiswyr ar y rhestr fer fynd ymlaen i bumed cam y broses recriwtio sef cyfweliad ffurfiol efo’r Pwyllgor Penodiadau. Penderfynwyd parhau yn unol ag argymhellion y Swyddogion y dylai’r ymgeiswyr ar y rhestr fer fynd ymlaen i gael eu cyfweld yn ffurfiol gan y Pwyllgor Penodiadau ar ddyddiad i’w gadarnhau.
|