Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes. |
|
Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 15 Chwefror, 2016. Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Chwefror, 2016 fel rhai cywir. |
|
Cau allan y wasg a'r cyhoedd PDF 19 KB Ystyried mabwysiadu’r canlynol :-
“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.” Cofnodion: PENDERFYNWYD mabwysiadu’r canlynol :-
“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan y gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12A y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.” |
|
Tynnu'r swydd oddi ar y sefydliad a'r effeithiau cysylltiedig Derbyn adroddiad cynnydd ar lafar gan y Prif Weithredwr. Cofnodion: Cafwyd adroddiad diweddaru gan y Prif Weithredwr ar yr ymarfer a ddilynwyd i wahodd unrhyw ‘fynegiant o ddiddordeb’ gan y Penaethiaid Gwasanaeth cyfredol i gymryd drosodd rôl y swydd fel yr adroddwyd i gyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Penodi. Rhoddodd adroddiad llafar manwl ar ganlyniad trafodaethau o’r fath i’r Pwyllgor.
PENDERFYNWYD :-
· Penodi’r Pennaeth Adfywio Economaidd a Chymunedol i gymryd cyfrifoldeb ychwanegol am rôl y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd ar y telerau y cytunwyd arnynt yn y cyfarfod; · Adolygu’r trefniadau o fewn 12 mis ac adrodd yn ôl i’r Pwyllgor Penodi. |