Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb. |
|
Cyflwyno, i’w cadarnhau, cofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 5 Hydref, 2017. Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Hydref, 2017. |
|
Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd PDF 19 KB Ystyried mabwysiadu’r canlynol :-
“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.” Cofnodion: PENDERFYNWYD mabwysiadu’r canlynol :-
“O dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol ar y sail y gallai olygu tebygolrwydd o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir yn Atodlen 12A y Ddeddf a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.” |
|
Penodiadau Staff Pennaeth Gwasanaeth Plant a Theuluoedd
Ystyried y ceisiadau ar gyfer y swydd uchod.
Mae copȉau o’r Disgrifiad Swydd, y Manylion Personno a’r ffurflenni cais ynghlwm.
Pennaeth Dysgu
Derbyn adroddiad llafar diweddaraf gan y Prif Weithredwr.
Pennaeth Gwasanaethau Tai
Derbyn adroddiad llafar gan y Prif Weithredwr.
Cofnodion: · Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd
Cyflwynwyd 2 ymgeisydd i’w cyfweld yn dilyn adborth o’r broses benodi.
Cafwyd cyflwyniad gan yr ymgeiswyr ac atebodd y ddau gwestiynau ar eu cyflwyniadau yn ogystal â chyfres o gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.
Yn dilyn y cyfweliadau, PENDERFYNWYD penodi Mr Cefin Fôn Roberts i’r swydd uchod o ddyddiad i’w gytuno arno.
· Pennaeth Dysgu
Cafwyd diweddariad ar lafar gan y Prif Weithredwr ar y swydd uchod.
Yn dilyn trafodaethau PENDERFYNWYD cyflwyno’r cais i gam nesaf y broses recriwtio yn unol â pholisi’r Cyngor.
· Pennaeth Gwasanaethau Tai
Cafwyd diweddariad ar lafar gan y Prif Weithredwr ar y swydd uchod.
PENDERFYNWYD y byddai adroddiad diweddaru yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Penodi gyda hyn yn dilyn trafodaethau mewnol. |