Rhaglen a chofnodion

Pwyllgor Penodiadau - Dydd Mercher, 20fed Rhagfyr, 2017 3.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Gwnaeth y Cynghorydd R G Parry OBE FRAgS ddatganiad o ddiddordeb sy’n rhagfarnu mewn perthynas ag Eitem 4 ac nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod.

2.

Cofnodion pdf eicon PDF 16 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 14 Rhagfyr, 2017.

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Rhagfyr, 2017.

3.

Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 19 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol :-

 

“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

Cofnodion:

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r canlynol :-

 

“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem isod oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni ym Mharagraff 12A y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

4.

Apwyntio Staff

Pennaeth Gwasanaethau Tai

 

Ystyried y ceisiadau ar gyfer y swydd uchod.

 

Mae copȉau o’r Disgriad Swydd, y Manylion Personnol a’r ffurflenni cais ynghlwm.

Cofnodion:

Pennaeth Gwasanaethau Tai

 

Cyflwynwyd 2 ymgeisydd i’w cyfweld yn dilyn adborth o’r broses benodi.

 

Cafwyd cyflwyniad gan yr ymgeiswyr ac atebodd y ddau gwestiynau ar eu cyflwyniadau yn ogystal â chyfres o gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

 

Yn dilyn y cyfweliadau, PENDERFYNWYD penodi Mr William Edward Michael i’r swydd uchod o ddyddiad i’w gytuno arno.