Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Bu’r Cynghorydd R A Dew ddatgan diddordeb personol a diddordeb sy’n rhagfarnu mewn perthynas ag Eitem 4 o ganlyniad i’r ffaith ei fod yn adnabod un o’r ymgeiswyr a oedd wedi cyflwyno cais hwyr ac fe adawodd yr ystafell yn ystod y drafodaeth am y ceisiadau hwyr. Yn dilyn penderfyniad i beidio ag ystyried y ceisiadau hwyr, bu’r Cynghorydd R A Dew gymryd rhan yn y drafodaeth a’r bleidlas a ddilynodd. |
|
Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 11 Gorffennaf, 2018. Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion y cyfafod a gynhaliwyd ar 11 Gorffennaf, 2018 fel cofnod cywir. |
|
Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd PDF 19 KB Ystyried mabwysiad’r canlynol :-
“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.” Cofnodion: PENDERFYNWYD mabwysiadu’r canlynol :-
“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.” |
|
Apwyntio Staff Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo
Ystyried y ceisiadau ar gyfer y swydd uchod.
Mae copȉau o’r Disgrifiad Swydd, y Manylion Personol a’r ffurflenni cais ynghlwm. Cofnodion: Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo
Derbyniwyd 2 gais ar gyfer y swydd yn ogystal â 2 gais hwyr.
Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD y dylai 1 ymgeisydd fynd ymlaen i gam nesaf y broses benodi. |