Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb. |
|
Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 11 Ionawr, 2019. Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Ionawr, 2019. |
|
Cau allan y wasg a'r cyhoedd PDF 19 KB Ystyried mabwysiadu’r canlynol :-
“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.” Cofnodion: PENDERFYNWYD mabwysiadu’r canlynol :-
“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.” |
|
Apwyntio Staff Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol – Dros Dro
Cyflwyno adroddiad llafar. Cofnodion: Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol – Dros Dro
Cyflwynodd y Pennaeth Proffesiwn Adnoddau Dynol a Thrawsnewid adroddiad llafar mewn perthynas â’r swydd uchod.
Adroddwyd fod penderfyniad wedi ei wneud yng nghyfarfod diwethaf y Pwyllgor Penodiadau a gynhaliwyd ar 11 Ionawr, 2019 i wahodd mynegiadau o ddiddordeb yn swydd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Dros Dro gan Benaethiaid Gwasanaeth ac aelodau o’r uwch Dîm Arweinyddiaeth. Derbyniwyd dau fynegiant o ddiddordeb a chynhaliwyd cyfweliadau gan Banel yn cynnwys Cadeirydd y Pwyllgor Penodiadau, Deilydd Portffolio (Gwasanaethau Cymdeithasol), y Prif Weithredwr a’r Pennaeth Proffesiwn Adnoddau Dynol a Thrawsnewid.
Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD :-
· Penodi Mr Alwyn Rhys Jones, Pennaeth Gwasanaethau Oedolion, i swydd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol – Dros Dro ac i roi taliad honoraria ychwanegol iddo am ymgymryd â’r swydd a’r cyfrifoldebau; · Penodi Mr Fôn Roberts, Pennaeth Gwasanaethau Plant i swydd y Dirprwy Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol – Dros Dro ac i roi taliad honoraria ychwanegol iddo am ymgymryd â’r swydd a’r cyfrifoldebau; · Cynnal cyfarfod pellach o’r Pwyllgor Penodiadau i drafod materion ynghylch swydd wag y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Llywodraethiant a Thrawsnewid Prosesau Busnes). |